Diogelu Arferion Ymchwil Da

4.0 Safeguarding Diogelu Arferion Ymchwil Da

4.1  Materion Moesegol ar gyfer Ymchwil lle mae'r Hil Ddynol yn Cymryd Rhan

Rhoddir sylw i'r agwedd hon gan ganllawiau a ddatblygwyd ym mis Mehefin 2002, mewn dogfen bolisi ar wahân gan sefydlu Pwyllgor PCA (Pwyllgor Moeseg ar Drefniadau Ymchwil) i arolygu a rhoi caniatâd i waith ymchwil yn ymwneud â chyfranogwyr dynol. Y mae materion moesegol yn hynod bwysig mewn meysydd megis Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, mewn gwyddorau eraill ac yn y Gwyddorau Cymdeithasol a'r Dyniaethau. Pwyllgor o'r Senedd a'r Cyngor ar y cyd yw'r Pwyllgor Moeseg ar Drefniadau Ymchwil, a chanddo gynrychiolaeth o bob cyfadran yn ogystal ag aelodaeth lleyg sylweddol. Cyn sefydlu canllawiau mewnol anfonwyd prosiectau ymchwil ag arnynt arolwg at Bwyllgor Moeseg Ymchwil Lleol y GIG.

4.2  Pwyllgor Arolwg Moesegol

Y mae gan y Brifysgol Bwyllgor Arolwg Moesegol mewn cydymffurfiad â gofynion y Swyddfa Gartref ar y Ddeddf Trefniadau Gwyddonol 1986. Y Cofrestrydd a'r Ysgrifennydd yw deilydd y dystysgrif ac mae'r pwyllgor yn cyfarfod bob chwarter. Y mae ganddo aelodaeth allanol ac mae'n cynnwys arbenigrwydd milfeddygol a meddygol.