Diogelu Arferion Ymchwil Da

5.0 Ymdrin â Honiadau o Gamymddygiad

Mae Twyll Gwyddonol a/neu gamymddygiad Proffesiynol difrifol arall yn cael ei gynnwys o fewn y rheolau sy'n pennu ymddygiad mewn cyflogaeth fel 'camymddygiad dybryd'. Disgrifir y trefniadau disgyblu yn y Llawlyfr Staff. Nod y trefniadau yw ymdrin â'r materion disgyblu yn brydlon ac yn deg trwy ddulliau sy'n dderbyniol gan bawb. Ar y lefel fwyaf difrifol penodir tribiwnlys gan y Cyngor i glywed yr achos. Bydd Cadeirydd y Tribiwnlys yn berson nas cyflogir gan y Brifysgol a bydd yn dal, neu wedi dal, swydd gyfreithiol neu'n Fargyfreithiwr neu'n Gyfreithiwr ers deng mlynedd o leiaf.

5.1  Datgelu Buddiannau Cyhoeddus

Y mae'r adran 'Polisïau a Threfniadau Cyflogaeth Eraill' yn y Llawlyfr Staff yn disgrifio polisi'r Brifysgol ar ddatgelu buddiannau cyhoeddus (tynnu sylw at rywbeth).