Diogelu Arferion Ymchwil Da
7.0 Gonestrwydd Cyflwyno Cynlluniau Ymchwil
Y mae'n arferiad cyffredin ym maes gwyddoniaeth i nifer o gydweithwyr ddatblygu cynllun ymchwil gyda'i gilydd, a phrin iawn yw'r cyfle i ddefnyddio unrhyw wybodaeth ffug. Yn ogystal, y mae'r Pennaeth Adran, ac mewn rhai achosion y Cyfarwyddwr Ymchwil adrannol, yn darllen ac yn arwyddo ceisiadau am grant. Y Swyddfa Gyllid sy'n darparu'r wybodaeth am gostiadau staff a'r Cyfarwyddwr Cyllid sy'n arwyddo'r ceisiadau ar ran y Sefydliad. Mae holl gydrannau grant (treuliau, cyflogau, teithio ayb,) yn meddu ar gôd gwariant unigryw a cheir 'cynffon' bapur lle gellir olrhain cofnodion ariannol y grant ymchwil o'r cychwyn. Pe digwyddid cyflwyno unrhyw wybodaeth ffug, neu pe digwyddai unrhyw ymddygiad twyllodrus, ymdrinnir â'r sefyllfa o dan y trefniadau a amlinellir yn yr adran 'ymdrin â honiadau o gamymddygiad'.