Diogelu Arferion Ymchwil Da

8.0 Y Defnydd o Gyllid a Roddir gan Gynghorau Ymchwil

Y mae trefniadau ariannol o fewn PCA yn llym yn y modd y cofnodir gwariant grantiau ymchwil trwy'r codau unigryw a roddir i ddosbarthiadau o eitemau gwariant, a'r modd y gellir olrhain yr eitemau hyn. Yn y pen draw cyfrifoldeb y Prif Ymchwilydd yw gwariant cyllid grantiau yng nghyswllt y grant o dan sylw, a phe byddai camreoli neu ddefnydd twyllodrus o gyllid yn digwydd, byddai ef/hi yn atebol i reolau a rheoliadau'r Sefydliad (Llawlyfr Staff a'r ddogfen hon). Yn yr achos hwn, nid oes, neu ni ddylai fod, gan Benaethiaid Adrannau, reolaeth dros grant ymchwil yr unigolyn (mae dyrannu o'r brig yn groes i bolisi).