Diogelu Arferion Ymchwil Da
9.0 Rheolaeth Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol PCA
Cyngor y Brifysgol yw'r corff llywodraethol sy'n gyfrifol, trwy ei swyddogion, am sicrhau bod anghenion statudol yn cael eu diwallu a bod safonau priodol yn cael eu gweithredu. Rhydd y Cyngor ganiatâd i'r Cofrestrydd a'r Ysgrifennydd oruchwylio Iechyd, Diogelwch a rheolaeth Amgylcheddol. Y mae Ymgynghorydd Diogelwch ac Amgylcheddol y Brifysgol yn hyrwyddo'r diben hwn wrth gyfrannu at ddatblygiad polisïau, wrth fonitro ac archwilio'r modd y gweithredir polisïau, gan ddarparu cyngor arbenigol ar gyfer pob lefel o fewn y Brifysgol. Y mae Pwyllgor Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol y Brifysgol yn atebol i'r Senedd a'r Cyngor. Swyddogaeth y Pwyllgor yw cynghori'r Brifysgol ar faterion yn effeithio ar iechyd galwedigaethol, diogelwch a'r amgylchedd, gan gynnwys llunio ac adolygu polisïau o bryd i'w gilydd, ac i fonitro'r modd y gweithredir y polisïau hyn. Yn ogystal, mae'r pwyllgor yn cyflawni'r swyddogaeth statudol o ymgynghori â gweithwyr a'u Cynrychiolwyr Diogelwch. Penaethiaid Adrannau ac Unedau eraill sy'n gyfrifol am weithredu polisi'r Brifysgol o fewn eu meysydd hwy eu hunain, ac am benodi Swyddogion Diogelwch i'w cynorthwyo gyda'r gwaith hwn. Y mae'n ofynnol yn ôl polisi bod Pwyllgorau Diogelwch yr Adrannau yn goruchwylio ac yn ymgynghori ynglyn â materion yn lleol a chyflwyno adroddiad i Bwyllgor Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol y Brifysgol trwy'r Ymgynghorydd Diogelwch ac Amgylcheddol. Y Swyddfa Ystadau sy'n gyfrifol am sicrhau bod gwneuthuriad a gwasanaethau Ystad y Brifysgol yn cwrdd â gofynion statudol (gan gynnwys trefniadau corfforol ar gyfer atal tân a sicrhau diogelwch). Penodir Arolygwyr Amddiffyn rhag Ymbelydredd i ymgymryd â dyletswyddau statudol wrth reoli ïoneiddio ymbelydreddau o fewn eu hadrannau. Lle bo goruchwyliaeth iechyd yn ofynnol ar gyfer tasgau penodol, yr adran o dan sylw sy'n gyfrifol am y trefniadau. Pan gyfyd materion iechyd galwedigaethol eraill, gofynnir i'r gweithwyr o dan sylw ymweld â'u Meddygon Teulu ar gyfer cyfeirio posibl at arbenigwyr meddygol.