Sicrwydd Ansawdd
Monitro Blynyddol o Raglenni a Ddysgir Drwy Gwrs
Nodiadau Cyfarwyddyd
1. Mae’r Prifysgol wedi ymrwymo i fonitro pob un o’i rhaglenni a ddysgir drwy gwrs o fewn y cyd-destun a bennwyd yng Nghod Ymarfer yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd: Adran 7, ‘Programme Approval, Monitoring and Review’: sy’n dweud y dylai sefydliadau fonitro pa mor effeithiol yw eu rhaglenni:
• er mwyn sicrhau bod y rhaglenni’n dal i fod yn gyfoes ac yn ddilys yng ngoleuni’r datblygiadau diweddaraf yn y pwnc, a’r arferion wrth ei gymhwyso;
• er mwyn cloriannu i ba raddau y mae’r myfyrwyr yn gwireddu’r canlyniadau dysgu arfaethedig;
• er mwyn canfod a ydyw’r cwricwlwm a’r asesu yn dal i fod yn effeithiol o ran y canlyniadau dysgu arfaethedig;
• er mwyn sicrhau bod unrhyw gamau priodol a argymhellir yn cael eu gweithredu er mwyn datrys unrhyw fethiannau a nodwyd.
2. Nod yr arolwg blynyddol yw sicrhau bod yr Adran sy’n cynnig y rhaglen, y Gyfadran, a’r Brifysgol yn darparu trefn gadarn fel y bydd pawb yn hyderus bod y rhaglenni’n bodloni eu hamcanion. Yr Adran sy’n cynnig y rhaglen sy’n bennaf cyfrifol am fonitro pob rhaglen i israddedigion a phob rhaglen a ddysgir drwy gwrs. Mae’n bwysig bod yr Adran yn cael gwybod am unrhyw bryderon ynghylch rhaglen benodol neu bryderon cyffredinol am sawl rhaglen eu hystyried a rhoi adroddiad amdanynt, ac wedyn cymryd camau priodol. Mae hynny yr un mor wir mewn achosion sy’n ymwneud â’i modiwlau ei hun ag y mae o ran modiwlau adrannau eraill sy’n rhan o’r modiwl neu fodiwlau dan sylw.
3. Bydd Timau Rhaglenni yn cynnal yr arolygon blynyddol o bob rhaglen a ddysgir drwy gwrs. Byddant yn adrodd yn ffurfiol i Bwyllgor Dysgu’r Adran (neu’r hyn sy’n cyfateb iddo) yn ystod tymor yr hydref. Bydd y Cyfadrannau yn goruchwylio hyn drwy gofnodion Byrddau’r Adrannau.
4. Mae’r nodiadau isod yn cyfeirio at adrannau yn Ffurflen yr Arolwg Blynyddol:
Adran 1
Yr Adrannau fydd yn trefnu’r arolwg blynyddol o raglenni unigol neu o gyfresi o raglenni. Yn achos yr ail ddewis, bydd angen gwahaniaethu rhwng y rhaglenni yn ôl y lefelau gwahanol
e.e. Uwchraddedig
Israddedig
Gradd
Diploma
Tystysgrif
ac yn ôl y mathau gwahanol
e.e. Meistr
Anrhydedd Sengl
Anrhydedd Cyfun
Cynlluniau Unswydd Cyfun
Prif Bwnc
Is-Bwnc
HND
ac yn ôl y dulliau gwahanol
e.e. Amser-llawn
Rhan-amser
Dysgu o bell
Gradd Allanol
Cyrsiau a Ddarparwyd drwy Drwydded
Sylwer bod y Senedd wedi cytuno y dylid monitro cynlluniau newydd ar wahân am eu tair blynedd gyntaf.
Adran 2
Soniwch yma am ddatblygiadau sydd wedi digwydd ers yr arolwg diwethaf gan gynnwys, er enghraifft, newidiadau yng nghynllun y rhaglen, y strategaeth asesu neu’r dulliau dysgu. Dylid nodi’n eglur y camau a gymerwyd a’r dyddiadau gweithredu.
Sylwer mai yn yr adran hon y dylid rhoi gwybod am hynt y Pwyntiau Gweithredu a nodir yn Adrannau 3, 4, 5 a 6 isod y FLWYDDYN NESAF.
Adran 3
Nod yr adran hon yw rhoi cyfle i’r Timau Rhaglenni ganolbwyntio ar ystod o faterion sy’n berthnasol i ddysgu yn y rhaglen neu’r rhaglenni dan sylw. Mewn rhai achosion, fe fydd adroddiadau ystadegol (e.e. Cynnydd a Chyflawniad y Myfyrwyr, Cyfle Cyfartal, a Chyrchfannau Gyrfaol y Myfyrwyr) a roddir i adrannau’r coleg bob sesiwn. Os oes rhywrai o’r penawdau nad ydynt yn berthnasol i’r rhaglenni penodol hynny (e.e. Lleoliadau Gwaith) dylid nodi ‘amherthnasol’ ond y disgwyl yw y bydd y rhan fwyaf o’r pynciau hyn yn cael eu hystyried bob blwyddyn.
Dylid nodi’n eglur pa weithredoedd a dyletswyddau y cytunwyd arnynt.
Adran 4
Mae atborth a chloriannu gan y staff a’r myfyrwyr yn rhan bwysig o’r arolwg blynyddol. Rhestrwch yma’r prif bwyntiau sy’n codi o’r enghreifftiau a roddwyd, y camau sydd i’w gwneud a’r rhai sy’n gyfrifol am eu cymryd.
Adran 5
Mae gofyn i’r adrannau gael sylwadau priodol o’r tu allan fel rhan o’u trefniadau ar gyfer datblygu’r rhaglenni. Bydd natur y sylwadau hyn yn amrywio yn ôl natur y rhaglen, a dylai fod gan yr adrannau resymeg eglur ac amlwg dros ddefnyddio’r ffurf benodol honno ar sylwadau allanol. Disgwylir y bydd yr adrannau hefyd yn cynnwys sylwadau o’r tu allan yn y ffynonellau gwybodaeth ar gyfer yr arolygon blynyddol o raglenni. Dylai’r adrannau gofio bod Cod Ymarfer yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd yn nodi y gallai ffynonellau gwybodaeth priodol ar gyfer arolygon blynyddol o raglenni gynnwys: adroddiadau arholwyr allanol; unrhyw adroddiadau gan gyrff achredu neu gyrff allanol eraill; atborth gan y staff a’r myfyrwyr; atborth gan cynfyfyrwyr a’u cyflogwyr; gwybodaeth am gynnydd myfyrwyr; deunydd sydd ar gael i fyfyrwyr megis manylion rhaglenni, llawlyfrau myfyrwyr a gwefannau.
Adran 6
Mae’r adran hon yn rhoi cyfle i adrannau nodi’r Pwyntiau Gweithredu sy’n codi o’r meysydd nad ydynt wedi’u cynnwys hyd yn hyn.
Adran 7
Mae’r adran hon yn rhoi cyfle i adrannau ystyried y goblygiadau o ran y Manylion Rhaglenni perthnasol ac yn eu hatgoffa bod angen sicrhau eu bod yn eu diweddaru’n briodol yn sgil unrhyw newidiadau y cytunir arnynt.
ALM/mes
Ebrill 2012