Selamat datang di Universitas Aberystwyth!

Oes gennych ddiddordeb mewn Rhaglen Ysgoloriaeth Indonesia-DU DIKTI?
Mae Gyfarwyddiaeth Addysg Gyffredinol o Addysg Uwch Gweinyddiaeth Indonesia (DIKTI) a Phrifysgol Aberystwyth yn bartneriaid balch o'r Rhaglen Ysgoloriaeth Indonesia-DU DIKTI.
Mae'r rhaglen yn agored i ddarlithwyr ym Mhrifysgolion Indonesia a staff gweinyddol sy'n gweithio yn DIKTI, i astudio ar gyfer eu doethuriaeth yn y DU. Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Indonesia, bydd 750 o academyddion yn cael y cyfle i astudio mewn nifer o brifysgolion blaenllaw a sefydliadau addysg uwch yn y DU dros y 5 mlynedd nesaf.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn a’r prosiect edrychwch ar dudalen Beasiswa Unggulan Dosen Indonesia
Yn yr un modd, os oes gennych ddiddordeb mewn astudio gydag Aberystwyth drwy DIKTI, Holwch Yma i sicrhau bod eich diddordeb yn cael ein sylw llwyr.
Pam Astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cysylltu’n rhagweithiol gyda Phrifysgolion Partner yn Indonesia drwy ymweld â'u sefydliadau er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth o'u cyfleusterau, arbenigedd a gofynion. Mae hyn wedi ein galluogi i addasu ein gwefan Indonesia-DU DIKTI i ddarparu yn manylion clir o'r disgyblaethau lle gallwn gefnogi eich PhD. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Aberystwyth lle y byddwch yn derbyn croeso cynnes mewn prifysgol a thref gyfeillgar.
Mae ein Prifysgolion Partner yn cynnwys:
- Prifysgol Mulawamran
- Prifysgol Amaethyddiaeth Bogor
- Prifysgol Trisakti
- Prifysgol Tanjungpura
- Prifysgol Padjajaran
- Prifysgol Gadjah Mada
- Prifysgol Udayana
- Prifysgol Diponegoro
- Prifysgol Pembangunan Nasional “Veteran”
- Prifysgol Bengkulu
- Prifysgol Syiah Kuala
- Prifysgol Bung Hatta
- Prifysgol Sumatera Utara
Uwchben mae'r Athro Eni Harmayani ac Athro Siti Subandiyah (Gadjah Mada University) yn cyfarfod eu partneriaid newydd o Brifysgol Aberystwyth, yr Athro John Grattan DIG dros Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol a'r Athro Chris Thomas DIG dros Ymchwil.
Gweithio gyda chwi
Menter Arloesi Byd-eang a'r Cyngor Prydeinig
Wedi ariannu gan Fenter Arloesi Byd-eang a'r Cyngor Prydeinig mae “Sefydlu rhwydwaith o ragoriaeth ymchwil mewn adfer cloddfeydd yn Ne-dwyrain Asia” yn brosiect ble mae Dr Bill Perkins; darllenydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac uwch ddarlithydd, Dr Graham Bird, o Brifysgol Bangor wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau Indonesieg i drafod adfer dyfroedd cloddfeydd.
Agorodd Seamo Biotrop weithdy i ganiatáu academyddion i rannu profiadau ar y pwnc i gynhyrchu argymhellion sy’n mynd i'r afael â materion a phryderon.
Gan bod Indonesia nawr yn un o allforwyr glo mwya’r byd, mae gweithdai fel hyn wedi eu galluogi i baratoi ar gyfer problemau amgylcheddol â gynhyrchir gan gloddio.
Consortiwm Diogelwch Bwyd y DU-Indonesia
Yn ystod Cynhadledd Gwyddoniaeth ac Arloesedd a gefnogwyd gan y Cyngor Prydeinig yn Jakarta 2013, esgorwyd ar Gonsortiwm Diogelwch Bwyd y DU-Indonesia.
Mae’r Consortiwm yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Aberystwyth a 17 o sefydliadau eraill (y rhan fwyaf yn Brifysgolion yn Indonesia) sy’n ceisio gwella diogelwch bwyd yn Indonesia drwy welliant mewn cynhyrchiant, ansawdd a diogelwch o gnydau bwyd brodorol.
Yn eu cyfarfod diweddaraf, Ebrill 2015, fe arwyddwyd Femorandwm Dealltwriaeth (MoU) gan Brifysgol Aberystwyth ac Universitas Gadjah Mada, sy’n paratoi’r ffordd tuag at ariannu yn y dyfodol ar gyfer cydweithredu a chyfnewid staff a myfyrwyr ymchwil.
I'r chwith mae Dr Glyn Jenkins (IBERS – Prifysgol Aberystwyth), Dr Didi Achjari (Is-Reithor Universitas Gadjah Mada) a’r Athro. Eni Harmayani (Universitas Gadjah Mada) yn arwyddo‘r Memorandwm rhwng y ddwy Brifysgol yn Yogyakarta yn Ebrill 2015.
Canolfan Rhyngwladol Saesneg
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i Fyfyrwyr Rhyngwladol elwa o ehangu eu profiad mewn addysgu a gwella Saesneg academyddion trwy eu cwrs Saesneg a sgiliau Cyfathrebol.
Mae’r cwrs poblogaidd yma yn para rhwng 2 a 10 wythnos, gan gynnig cyfleoedd bywiog, creadigol, a rhyngweithiol i ymchwilio, gwneud ffrindiau, a datblygu sgiliau Saesneg tu fewn a mas o’r dosbarth.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y cwrs yma cysylltwch a’r International English Centre
Buddsoddi ynddoch chi
Dros y dair mlynedd nesaf fe fydd Prifysgol Aberystwyth yn buddsoddi dros £100m yn gwella ac ehangu ein cyfleusterau llety ac addysgu.
Bydd hyn yn cynnwys:
Buddsoddiad Treftadaeth; Yr Hen Goleg, lle mae cynigiad cychwynnol i'r prosiect ‘Bywyd Newydd i’r |Hen Gol’ yn cynnwys Galerïau Arddangosfa a Chelf, Ardaloedd Perfformio a Chaffi/ Bwyty.
Neuaddau Newydd; Fferm Penglais, prosiect llety newydd gwerth £45m.
Adnoddau Astudio; Canolfan Llanbadarn, ble mae £4.5m wedi’i fuddsoddi mewn i’r campws i greu awyrgylch busnes proffesiynol newydd. Dyma ble mae’r Ysgol Rheolaeth a Busnes, Adran y Gyfraith a Throseddeg ac Adran Astudiaethau Gwybodaeth.
Campws Gogerddan, ble bydd £35m yn cael ei fuddsoddi i ddatblygu Campws newydd ar gyfer Ymchwil ac Arloesi.
I ganfod mwy am y datblygiadau newydd yma ymwelwch a’r dudalen Buddsoddi yn eich dyfodol.
Prifysgol sy’n Canolbwyntio ar Ymchwil
Mae gennym gymuned ymchwil bywiog, ac ymysg y 3 lleoliad gorau yn y byd i fod yn fyfyriwr.
Mae 95% o’r gweithgarwch ymchwil a cyflwynwyd gan Prifysgol Aberystwyth i’r FfRhY 2014 wedi ei gydnabod yn safon rhyngwladol neu well, gyda ymchwil o safon Byd-eang wedi ei gydnabod ym mhob un o’r 17 Uned Asesiad a gyflwynwyd.
O holl Brifysgolion Cymru, fe gyflwynom y canran uchaf (76%) o staff cymwys i’r FfRhY, ac fe raddiwyd ein Hadran Wleidyddiaeth Rhyngwladol yn y 10 uchaf o’r DU o safbwynt ansawdd ymchwil; roedd Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn y 10 uchaf o’r DU o safbwynt dwyster ymchwil; Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear doth 1af yng Nghymru am ansawdd ymchwil ac fe oedd 96% o’n effaith ymchwil wedi ei gydnabod o safon rhyngwladol neu uwch.
Disgyblaethau eraill a berfformiodd yn dda oedd: Celf, Cyfrifiadureg, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Hanes a Hanes Cymru, Y Gyfraith a Throseddeg, Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff a Theatr, Ffilm a Theledu
Yn safleoedd QS Prifysgol y Byd 2015, mae Aberystwyth ymhlith y 200 o brifysgolion gorau yn y Byd ar gyfer Amaethyddiaeth, Saesneg, Daearyddiaeth, Gwyddorau Amgylcheddol a Gwleidyddiaeth.
Adrannau Academaidd yn y Rhaglen Ysgoloriaeth
Ysgol Rheolaeth a Busnes (SMB) |
|
Rhaglen PhD | Goruchwylwyr |
Cadwyn Gyflenwi Bwyd
|
Professor Peter Midmore Dr Ian Birchmore |
Economeg Ecolegol | Professor Mike Christie |
Rheolaeth Strategol | Nerys Fuller-Love |
Geography and Earth Sciences (DGES) |
|
PhD Programme | Supervisor(s) |
Gwleidyddiaeth Gwledig a Globaleiddio Gwledig | Professor Michael Woods |
Graddnodi Synhwyro o Bell Clawr Llystyfiant Gwelliannau mewn Methodoleg |
Dr Pete Bunting Dr George P. Petropoulos |
Potensial ar gyfer Gwaith Ansawdd Dŵr i fod yn berthnasol | Professor David Kay Professor Michael Humphreys (IBERS) Dr John Clifton-Brown (IBERS) |
Peryglon Amgylcheddol | Dr Carina Fearnley |
Llyfrgellyddiaeth
Rydym yn gwybod bod llyfrgelloedd yn Indonesia yn chwarae rhan bwysig wrth greu a chefnogi'r broses o gaffaeliad gwybodaeth i annog dysgu. Felly, pam na barhewch i wasanaethu fel rhan o systemau dysgu y genedl ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Adran Astudiaethau Gwybodaeth | Goruchwylwyr |
Pennaeth Adran | Dr Allen Foster |
Darllenydd | Dr Judy Broady-Preston |
Athro | Professor David Ellis |
Prif Darlithiwr | Dr Pauline Rafferty |
Darlithiwr | Hugh Preston |
Darlithiwr | Dr Anoush Simon |
Mae'r Adran Astudiaethau Gwybodaeth yn gallu goruchwylio myfyrwyr sy'n ymchwilio i unrhyw agwedd ar Llyfrgellyddiaeth Fodern neu Wyddoniaeth Gwybodaeth. Wrth wneud hynny, byddwch yn cael eich cyflwyno i sgiliau trin gwybodaeth allweddol a datblygu eich sgiliau TGCh, rheoli a rhyngbersonol.
Mae gan yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth hanes nodedig, a thrwy gydol y deugain mlynedd diwethaf o ddysgu, maent wedi cynhyrchu rhai o lyfrgellwyr a proffesiynwyr gwybodaeth blaenllaw y DU, os nad y Byd.
Bydd y PhD yn cymryd o leiaf dair blynedd ar gyfer astudiaeth llawn amser, fodd bynnag, gall ymgeiswyr sydd eisoes yn meddu ar radd meistri drwy ymchwil neu astudiaeth uwch gael y cyfnod hwn wedi lleihau o flwyddyn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio Llyfrgellyddiaeth gyda Aberystwyth, Gofynnwch yma i sicrhau bod eich diddordeb yn cael ein sylw llwyr
Bywyd Aberystwyth
Llety
Seafront |
Rosser G |
Brynderw |
Fferm Penglais |
Dewisiwch Lun am Wybodaeth Ychwanegol |
Pentre Jane Morgan |
Llety Teuluol
Gan fod Aberystwyth yn dref gyfeillgar, teuluol, mae'r Brifysgol yn cynnig llety i deuluoedd; a ellir eu rhentu yn flynyddol. Mae hyn yn cynnwys tŷ 3 ystafell wely, fflat 3 ystafell wely, 3 fflat x 2 ystafell wely a 6 fflat x 1 ystafell wely. Mae pob un o'r preswylfeydd yma yn hunangynhwysol gydag ardal cegin ac astudio; ac o fewn pellter cerdded i’r campws â'r siop gyfleus agosaf.
Os oes gennych ddiddordeb mewn Llety cyfeiriwch at y Neuadd Breswyl a ffafriwch ar y Ffurflen daganiad o Ddiddordeb ym mlwch ‘Unrhyw wybodaeth bellach hoffech chwi ddatgan neu ymholi’
Fisa Myfyriwr Haen 4
Mae Prifysgol Aberystwyth yn noddwr cofrestredig o dan y system Mewnfudo Pwynt-Seiliedig Haen 4. Mae hyn yn rhoi'r gallu i ni recriwtio a noddi Myfyrwyr Rhyngwladol. Gallwch wneud cais am eich Fisa Myfyrwyr Haen 4 hyd at 3 mis cyn dyddiad dechrau eich cwrs. Fodd bynnag, o ganlyniad i bob un o'r ceisiadau fisa gorfod cael eu hasesu'n unigol, gall gymryd hyd at 2 fis i chi gael ymateb.
Os ydych angen cymorth gyda cwblhau eich ffurflen gais am Fisa edrychwch ar dudalen Visas, Support and Advice Rhyngwladol.
Neu e-bostiwch un o’n Cynghorwyr Myfyrwyr Rhyngwladol ar immigrationadvice@aber.ac.uk
Ble mae Aberystwyth?
Mae Aberystwyth yn dref farchnad glan môr hyfryd sy'n eistedd yng nghanol Bae Ceredigion wedi ei hamgylchynu gan odre Mynyddoedd y Cambria.
Os hoffech ymweld â'r Brifysgol cyn gwneud cais i'r cynllun DIKTI, Dilynwch, i ddarganfod sut i deithio yma o Faes Awyr Rhyngwladol Birmingham, Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, Maes Awyr Gatwick, Maes Awyr Heathrow, Maes Awyr Luton neu Faes Awyr Stanstead .
Fel arall, os ydych yn teithio naill ai Fferi neu Eurostar; mae'r holl wybodaeth ar gael yma
Gweithgareddau Hamdden
Chwaraeon a Chymdeithasau y Brifysgol
Oherwydd y berthynas gref rhwng y Brifysgol a'r dref; Mae Prifysgol Aberystwyth yn gallu elwa gan gydlyniant cymunedol llwyddiannus a chynnig ei chyfleusterau i staff, myfyrwyr a'r gymuned. Mae'r cyfleusterau hyn yn cynnwys Canolfan y Celfyddydau fywiog yn ogystal â'r Ganolfan Chwaraeon rhagorol.
Mae'r berthynas 'tref a gŵn' hefyd yn ymddangos drwy'r Chwaraeon a Chymdeithasau yn y Brifysgol; gan eu bod yn cael eu hannog i ennill nawdd gan fusnesau lleol yn nhref Aberystwyth.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno ac unrhyw gymdeithas neu glwb chwaraeon ymwelwch a Tudalen Undeb Myfyrwyr Aberystwyth neu edrychwch ar restrau Chwaraeon neu Cymdeithasau.
Mwynderau Lleol
Mae tref Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau i wneud gyda’r teulu, mae rhain yn cynnwys:
Llyfrgell Cenedlaethol Cymru: a adnabyddir fel un o lyfrgelloedd blaenllaw y Byd oherwydd yr amrywiaeth o lyfrau a chyfnodolion, llawysgrifau, dogfennau archifol, mapiau a ffotograffau, yn ogystal â phaentiadau, ffotograffau, ffilmiau, fideos a chyhoeddiadau ac archifau trydanol.
Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth; gan gynnwys sinema, theatr, dawns, arddangosfeydd a cherddoriaeth .
Rheilffordd Cwm Rheidiol; trên stem Fictoraidd sy’n teithio’r 12 milltir rhwng Aberystwyth a Phontarfynach
Rheilffordd y Graig Aberystwyth; rheilffordd halio trydan hiraf y DU, lle gall ymwelwyr brofi golygfeydd ysblennydd a di-dor y dref.
Bywyd Hudol Ty Glöyn Byw; ble gall ymwelwyr weld cannoedd o loÿnnod byw lliwgar, lindys enfawr a chasgliad mawr o blanhigion prin a dan fygythiad. Mae yna hefyd teithiau cerdded coetir hardd a rhaeadrau trawiadol gerllaw yn Nyffryn Rheidol.
Coedwig Nant-Yr-Arian; sy'n eistedd ar ben dyffryn dramatig, golygfeydd o Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria. Drwy'r goedwig, mae teithiau cerdded hardd a llwybrau beicio mynydd; ac mae'n bosib i wylio'r barcutiaid coch yn cael eu bwydo gan y llyn.
Traeth y Gogledd, Traeth y De a Thraeth Ynyslas gerllaw; ymwelwch â'r traethau hardd o amgylch Aberystwyth a enillodd Gwobr Glan Môr, maent yn ganolbwynt y dref oherwydd eu tywod tywyll, glân a graean.
Sut ydw i'n gwneud Cais?
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio yn Aberystwyth drwy DIKTI, gofynnwch yma i sicrhau bod eich diddordeb yn cael ein sylw llwyr