Trefn Adolygu Moeseg i Ddefnyddio Anifeiliaid mewn Ymchwil

Da godro mewn sied

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i gefnogi ymchwil o'r ansawdd gorau o ran moeseg, ymddygiad, ac effaith ymchwil. Mae'n cefnogi'n gryf amcanion Deddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986 (ASPA), fel y’i haddaswyd gan Gyfarwyddeb yr UE 2020/63/EU. O dan oruchwyliaeth yr Uned Rheoleiddio Anifeiliaid mewn Gwyddoniaeth yn y Swyddfa Gartref, mae’r Ddeddf (ASPA) yn darparu rheolaeth gadarn ar waith ymchwil sydd yn cynnwys anifeiliaid.

Fel rhan o'n hymrwymiad, rydym yn hollol gefnogol i ganllawiau ARRIVE a gafodd eu llunio gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Disodli, Mireinio a Lleihau Anifeiliaid mewn Ymchwil (NC3Rs) sydd yn canolbwyntio ar wella'r modd y mae astudiaethau ar anifeiliaid yn cael eu dylunio a’u hadrodd.

Mae pob prosiect ymchwil sydd yn cynnwys anifeiliaid, os ydynt o dan ASPA neu beidio, yn amodol ar broses o adolygiad moesegol sydd o dan arolygiaeth yr "Corff Adolygu Lles a Moeseg Anifeiliaid" (AWERB) sydd yn cynnwys cynrychiolydd o ar draws y Brifysgol, milfeddygon, aelodau lleyg, ac aelodau allanol.

Rydym yn aelod o gorff Understanding Animal Research ac wedi llofnodi'r Concordat Tryloywder ar Ymchwil ar Anifeiliaid yn y DU.

1. Datganiad ar Ddefnyddio Anifeiliaid

Yn rhan o'n hymrwymiad i gefnogi’r safon uchaf o ymchwil gwyddonol o ran moeseg, ymddygiad, ac effaith, rydym yn hollol gefnogol i ganllawiau ARRIVE sydd wedi eu llunio gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Disodli, Mireinio a Lleihau Anifeiliaid mewn Ymchwil (NC3Rs) (gwelwch: ‘Centre-led programmes’ http://www.nc3rs.org.uk) sydd yn canolbwyntio ar wella’r modd y mae astudiaethau gydag anifeiliaid yn cael eu dylunio a’u hadrodd.

Mae ein holl waith ymchwil gydag anifeiliaid yn cael ei arwain gan y tair “R", sef:

  • Disodli (Replacement): yn lle defnyddio anifeiliaid, ble bynnag y mae'n bosib, defnyddio dewis arall fel meithriniad celloedd/meinwe/organ, a/neu ddefnyddio modelu cyfrifiadurol;
  • Mireinio (Refinement): gwella’r gweithdrefnau gwyddonol a hwsmonaeth i sicrhau cyn lleied â phosib o boen, dioddefaint, trallod neu niwed parhaol – a gyflawnir neu y gellir eu cyflawni - a/neu wella lles anifeiliaid mewn sefyllfaoedd lle nad oes modd osgoi defnyddio anifeiliaid;
  • Lleihau (Reduction): sicrhau cyn lleied â phosib o waith ar anifeiliaid trwy wella dyluniadau arbrofion ac ystadegaeth, cael lefelau tebyg o wybodaeth o waith ar lai o anifeiliaid, neu gael mwy o wybodaeth o'r un faint o anifeiliaid, a thrwy hynny yn lleihau'r nifer o anifeiliaid a ddefnyddir yn y dyfodol.

Mae llawer o'n hymchwil sydd yn defnyddio anifeiliaid yn anelu at ddeall ymddygiad a lles anifeiliaid, trin clefydau mewn pobl ac anifeilaidd, amddiffyn yr amgylchedd, neu gynhyrchu bwydydd diogel a maethlon i dda byw ac i gwsmeriaid. Mae cyfran fawr o'n gwaith yn golygu defnyddio anifeiliaid fferm lle nad yw natur yr ymchwil yn cyrraedd y trothwy i ddod o fewn cwmpas Deddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986.

Mae pob prosiect ymchwil sy’n cynnwys anifeiliaid, boed yn waith sydd o dan gwmpas Deddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986 ai peidio, yn cael ei gynnal o dan yr un safonau uchel o ofal a lles ag sydd yn ofynnol o dan y Ddeddf.

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth yma: Gwaith Arbrofol sy’n cynnwys Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth.

2. AWERB Prifysgol Aberystwyth

Mae’r Swyddfa Gartref yn mynnu bod Corff Adolygu Moeseg a Lles Anifeiliaid (AWERB) gan bob sefydliad sydd yn defnyddio, bridio, neu gyflenwi anifeiliaid ar gyfer ymchwil. 

Mae swyddogaeth yr AWERB yn cynnwys:

  • Asesu pob cais am drwydded brosiect (PPL) a phob diwygiad i’r trwyddedau. Bydd yr AWERB yn ystyried gwerth gwyddonol yr ymchwil yn erbyn unrhyw botensial am niwed i’r anifeiliaid eu hun.
  • Sicrhau bod egwyddorion y 3R yn cael eu dilyn a’u gweithredu ar draws yr holl waith yn cael ei wneud gydag anifeiliaid.
  • Sicrhau bod y cyfleusterau yn addas i unrhyw waith, a hefyd bod staff cymwys ar gael i gynnal y gwaith.
  • Darparu cyngor ac adborth adeiladol i bob ymgeisydd PPL.
  • Sicrhau bod rhesymeg wyddonol glir am yr holl waith gydag anifeiliaid cyn i unrhyw waith gael ei gymeradwyo.
  • Bod yn barod i roi cyngor a chymorth i staff sydd yn gweithio i’r sefydliad ar nifer o bynciau sy’n ymwneud ag anifeiliaid: gofal, moeseg, defnyddio, safonau cyfleusterau, a/neu gael gafael ar anifeiliaid a ddefnyddir mewn profion.
  • Goruchwylio’r holl waith gydag anifeiliaid, gan gynnwys gweithdrefnau nad ydynt yn cael eu rheoleiddio.

Mae aelodaeth AWERB Prifysgol Aberystwyth yn mynd y tu hwnt i ofynion y ddeddfwriaeth, sef:

  • Cadeirydd
  • Deiliad Trwydded y Sefydliad (PEL-H)
  • Deiliaid Trwyddedau Prosiect drwy Wahoddiad (PPL-H)
  • Deiliaid Trwyddedau Personol (PIL-H)
  • Swyddogion Gofal a Lles Anifeiliaid (NACWO)
  • Swyddogion Hyfforddiant a Chymhwysedd (NTCO)
  • Llawfeddygon Milfeddygol (NVS)
  • Aelodau Lleyg
  • Cynrychiolydd Iechyd a Diogelwch
  • Cynrychiolydd yr Ystadau
  • Rheolwr Ffermydd Prifysgol Aberystwyth
  • Aelod gwyddonol heb gyfrifoldeb o dan ASPA

Gall unrhyw aelod o staff sydd yn cyflwyno cynnig gael ei wahodd i gyfarfod AWERB.

Dyddiau’r cyfarfodydd am 2023 a’r dyddiau cau cysylltiedig ar gyfer cyflwyno drafft/diwygiad PPL:

Dyddiad Cau am Gyflwyniadau Dyddiad Cyfarfod
22/2/23 15/3/23
21/6/23 12/7/23
25/10/23 15/11/23

3. Proses Gymeradwyo Moeseg: Israddedig ac Ôl-raddedig (dysgu drwy gwrs)

Dylai pob myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig (dysgu drwy gwrs) ’lenwir ffurflen ar-lein, gyda’i oruchwyliwr. Bydd eich atebion yn cael eu hadolygu gan y Tîm Cydymffurfio â’r Swyddfa Gartref. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser am eich cais moeseg mewn da bryd cyn eich gwaith caglu data - ni chewch gasglu UNRHYW ddata tan i’ch prosiect gael cymeradwyaeth lawn.

Os oes prosiectau nad ydynt wedi’u seilio ar anifeiliaid yn unig (e.e. os ydych yn dosbarthu holiaduron yn ogystal â’ch gwaith gydag anifeiliaid), dylech lenwi’r ffurflen Asesiad Ar-lein hefyd. Dylai unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â’r broses heb gynnwys anifeiliaid gael eu hanfon i: ethics@aber.ac.uk

Ar ôl i chi ddechrau ar y ffurflen moeseg does dim modd i chi gadw’r ffeil a dychwelyd ati eto nes ymlaen. Felly dyma restr o bethau mae rhaid i chi wybod CYN DECHRAU:

  • Fydd eich prosiect yn cynnwys mewnforio deunydd anifeiliaid i'r DU?
    Os felly, bydd rhaid i chi siarad â’r Swyddog Cydymffurfiaeth â’r Swyddfa Gartref (HOCO - aeostaff@aber.ac.uk) cyn dechrau’r ffurflen.
  • Ydych chi’n bwriadu gweithio ag anifeiliaid gwyllt/egsotig/crwydr?
    Os ydych, bydd rhaid i chi lan-lwytho prawf i ddangos eich bod wedi cael y caniatâd priodol i wneud y gwaith e.e. caniatâd mynediad i dir, unrhyw drwyddedau sydd eu hangen i weithio ag anifeiliaid gwyllt.
  • Ydy eich gwaith yn dod o dan y Ddeddf (ASPA)?
    Mae ASPA yn ymdrin â gweithrediadau penodol a wneir i ‘anifeiliaid gwarchodedig’ (fertebratau – ac eithrio pobl - a cheffalopodau). Bydd llawer o brosiectau israddedig, ac ôl-raddedig a ddysgir drwy gwrs, na fyddant yn dod o dan ASPA ond os ydych yn ansicr, dylech ymgynghori â’ch goruchwyliwr. Os yw eich prosiect yn dod o dan ASPA cysylltwch â’r HOCO/NIO.
  • Fydd eich gwaith yn cael ei gynnal yn y DU?
    Os na fydd, cysylltwch â’r HOCO/NIO cyn dechrau eich cais.
  • Amcanion yr Ymchwil
    Sef, yr hyn ydych chi’n anelu at ei ddysgu drwy gynnal eich gwaith ymchwil. Mae amcanion ymchwil yn helpu i ddangos pwysigrwydd gwyddonol eich gwaith.
  • Beth yw buddiannau posib eich gwaith?
  • Beth yw’r risgiau posib sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith a sut ydych am liniaru'r rhain?
  • Sut mae egwyddorion y 3R wedi cymhwyso i’ch gwaith?
    Dylech ystyried a oes rhaid i chi ddefnyddio anifeiliaid yn eich gwaith neu a allwch chi ddefnyddio rhywbeth arall yn eu lle? Ydych chi wedi cymryd yr holl gamau angenrheidiol i leihau’r nifer o anifeiliaid i’r nifer isaf posib ar gyfer canlyniadau dilys? A ydy’ch dulliau wedi’u mireinio er mwyn sicrhau bod y gwaith yn effeithlon ac effeithiol, ac nad yw’n peri niwed diangen i'r anifeiliaid dan sylw?

Mae pob cwestiwn ar y ffurflen yn orfodol ac os oes unrhyw ymholiadau gennych, cysylltwch â’ch goruchwyliwr neu â chydlynydd y modiwl yn y lle cyntaf.

4. Proses Moeseg Staff a Myfyrwyr Ôl-raddedig (ymchwil)

Cyn i UNRHYW ymchwil sy’n ymwneud ag anifeiliaid ddechrau, mae rhaid i chi gyflwyno cynnig ymchwil i’r Tîm Cydymffurfio â’r Swyddfa Gartref (HOCO/NIO) i benderfynu a ydy’r gwaith yn cydymffurfio ag ASPA ac i gael cyngor ar ba fath o gymeradwyaeth foesegol sydd ei angen. Oni bai bod gennych gynnig eisoes yn barod i’w gyflwyno, dyma ffurflen fer i’w llenwi fel y bydd y Tîm yn gallu rhoi cyngor ar y llwybr cymeradwyaeth priodol i chi.

Os nodir bod eich prosiect yn dod o dan ASPA bydd rhaid i chi sicrhau eich bod chi’n cael y trwyddedau Swyddfa Gartref iawn i bob gweithdrefn reoledig sydd ei hangen ar eich prosiect. I staff gall hwn feddwl bod angen trwydded brosiect newydd (PPL) a/neu drwydded bersonol (PIL). I uwchraddedigion ymchwil efallai bydd angen i chi cael trwydded bersonol i wneud gwaith ar drwydded brosiect bresennol a ddelir gan aelod o staff (fel arfer eich goruchwylir).

Os ydy’r gwaith y tu allan i gwmpas ASPA e.e. mae’n defnyddio gweithredoedd anrheoledig a/neu ar anifeiliaid nad ydynt yn warchodedig (sef infertebratau ac eithrio ceffalopodau) mae’n dal i fod angen mynd trwy adolygiad moeseg.

Bydd eich ffordd chi o gael gafael ar gymeradwyaeth foeseg yn dibynnu a ydy’r prosiect yn dod o dan ASPA ai peidio, mae manylion y ddwy ffordd wedi’u rhoi isod.

5. Prosiect sydd angen Trwydded y Swyddfa Gartref o dan ASPA

Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar y Brifysgol a’r AWERB i sicrhau bod pob gweithdrefn reoledig sy’n ymwneud ag anifeiliaid gwarchodedig yn digwydd o dan drwyddedau perthnasol y Swyddfa Gartref yn unig.

Os bydd eich prosiect yn defnyddio trwydded (PPL) sy'n bodoli eisoes, gyda chaniatâd deiliaid y drwydded dylech lenwi'r ffurflen cymeradwyaeth foesegol berthnasol yn adrannau 3 a/neu 4.

Os oes angen Trwydded Brosiect newydd (PPL) er mwyn i chi wneud eich gwaith o dan ASPA, bydd rhaid i’r cais cael ei adolygu gan yr AWERB cyn ei gyflwyno i’r Swyddfa Gartref am gymeradwyaeth.

Fel arfer, dyma’r proses lawn er mwyn cael PPL:

  1. Mae eich prosiect wedi nodi gan Dîm Cydymffurfio â’r Swyddfa Gartref fel un lle y mae mewn angen PPL.
  2. Bydd angen i arweinydd y prosiect gwblhau cwrs hyfforddiant PPL er mwyn cael ardystiad (oni bai bod ganddynt dystysgrif eisoes).
  3. Ar ôl i chi gael tystysgrif bydd y HOCO/NIO yn eich helpu i osod proffil ar ASPEL a lan-lwytho’ch tystysgrif. ASPEL yw’r porth ar-lein i reoli trwyddedau; dyma ble byddwch yn drafftio eich cais am PPL.
  4. Ar ôl i chi lunio drafft llawn o’ch cais am PPL, bydd rhaid i chi lawr-lwytho copi a’i gyflwyno i’r AWERB i’w adolygu (dyddiadau cau uchod).
  5. Bydd yr AWERB yn adolygu eich cais yn ôl:
    1. Ansawdd a gwerth yr ymchwil.
    2. Faint o ddioddefaint y gall unrhyw anifail brofi yn ystod yr arbrawf
    3. Os oes staff, cyfleusterau a chyllid addas ar gael er mwyn cynnal y prosiect i’r safon uchaf posib ac er mwyn sicrhau'r safonau lles uchaf posib i’r anifeiliaid.
  6. Byddwch yn cael gwybod beth yw penderfyniad yr AWERB ac fe fydd y cais naill ai’n cael ei basio er mwyn ei gyflwyno i dîm Arolygwr y Swyddfa Gartref, neu, fe gewch gyngor ar newidiadau i’r cais cyn ei ailgyflwyno i’r AWERB, neu bydd eich cais yn cael ei wrthod ac fe roddir i chi y rhesymau dros ei wrthod.
  7. Os yw eich cais wedi’i basio gallwch gyflwyno’r drafft o’ch cais trwy ASPEL i’r tîm o Arolygwyr y Swyddfa Gartref a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

Mae trwydded yn para hyd at 5 mlynedd os nad yw’r prosiect i fod i orffen ynghynt. Ar ddiwedd eich prosiect bydd yr AWERB yn adolygu’r gwaith sydd wedi’i gwblhau, gan edrych ar y nifer o anifeiliaid a ddefnyddiwyd, sut rydych wedi gweithredu’r 3R, ac a yw amcanion a nodau’r gwaith wedi’u cyflawni. Hefyd, mae’n rhaid cyflwyno pob cyhoeddiad sydd wedi deillio o’r gwaith i’r AWERB a’r Swyddfa Gartref.

6. Prosiect heb angen trwydded o dan ASPA

Nid yw pob prosiect sydd yn cynnwys anifeiliaid yn bodloni'r meini prawf uchod sy’n golygu bod angen trwydded y Swyddfa Gartref. Er enghraifft, nid oes angen PPL ar brosiect sydd yn defnyddio pryfed yn hytrach nag anifeiliaid gwarchodedig. Serch hynny, mae trefn moeseg y mae’n rhaid ei dilyn hefyd ar gyfer pob prosiect sy’n defnyddio anifeiliaid lle nad oes angen trwydded.

Yn yr achos hwn, rhaid i chi lenwi'r ffurflen gymeradwyo foesegol berthnasol yn adrannau 3 a/neu 4 yn llawn, a fydd yn cael ei chyflwyno i Dîm y Swyddfa Gartref i'w hadolygu.

7. Protocol ar waith gydag anifeiliaid*

*Yn dod yn fuan.

8. Hyfforddiant

Hyfforddiant a Achredwyd gan y Swyddfa Gartref

Os gwneir gwaith sydd yn cynnwys gweithdrefnau rheoledig gydag anifeiliaid gwarchodedig o dan drwydded y Swyddfa Gartref, bydd angen i’r ymchwilwyr gwblhau yn llwyddiannus yr hyfforddiant modiwlaidd a achredwyd gan y Swyddfa Gartref am bob rhywogaeth o anifail rydych am weithio â nhw.

Mae hyfforddiant am drwydded brosiect yn golygu dau ddydd o hyfforddiant gydag arholiad wedyn. Ar ôl i chi gael eich tystysgrif PPL fe allwch wneud cais am drwydded brosiect trwy’r canllawiau uchod.

Mae’r hyfforddiant am drwydded bersonol (PIL) yn gyfres o fodiwlaidd unigol sydd yn benodol i wahanol rywogaethau. Er mwyn cael eich tystysgrif, mae rhaid i chi sefyll arholiad ac wedyn cael gwiriad ymarferol o’ch sgiliau ymdrin ag anifeiliaid o dan oruchwyliaeth swyddogion y Brifysgol (NTCO/NACWO). Ar ôl i chi gael y dystysgrif bydd y HOCO/NIO yn eich helpu i wneud cais am drwydded PIL trwy ASPEL. Cyn cymryd rhan mewn unrhyw waith ymchwil gydag anifeiliaid, mae angen cael cadarnhad bod pawb sydd yn dal trwydded PIL yn gymwys ym mhob gweithdrefn unigol maent am ei ddefnyddio yn yr ymchwil. Gellir llofnodi i gadarnhau hyn, dim ond ar ôl i’r NTCO gael ei fodloni bod daliwr y drwydded wedi cyrraedd y cymhwysedd angenrheidiol yn y weithdrefn honno.

Dylai’r ymchwilwyr siarad â’r HOCO yn y lle cyntaf ac fe fydd y swyddog hwnnw yn cydlynu â’r NTCO a chynghori ar eu hanghenion hyfforddiant unigol. Efallai y cynhelir yr hyfforddiant yn y Brifysgol neu mewn lleoliad arall, yn ddibynnol ar anghenion hyfforddiant yr unigolyn dan sylw.

Hyfforddiant Lleol (yn dod yn fuan)

Mae'r modiwl hyfforddiant lleol yn orfodol i bob aelod o staff a fydd yn ymwneud â gwaith gydag anifeiliaid neu ofalu amdanynt, p’un a ydynt yn gweithio mewn ymchwil neu beidio. Mae hyn yn cynnwys staff y ffermydd, technegwyr, pawb gyda chyfrifoldeb am les anifeiliaid, ac unrhyw staff cynorthwyol.

Mae disgwyl y bydd pob aelod o'r brifysgol sydd yn gweithio gydag anifeiliaid, boed yn waith o dan drwydded y Swyddfa Gartref ai peidio, yn deall ei rôl ei hun o fewn y fframwaith lleol ar gyfer gofalu am anifeiliaid a’u defnyddio. Mae hyn yn cynnwys eu cyfraniad personol nhw a sut maent yn cydweithio â phobl eraill i sicrhau'r safonau uchaf o ran lles anifeiliaid a chywirdeb gwyddonol.

Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu i bob aelod o'r Brifysgol (staff a myfyrwyr) cyn iddynt ddechrau gweithio gydag anifeiliaid fel rhan o'u trefniadau ymgyfarwyddo i sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r codau ymddygiad cyfreithiol ac â’r bobl allweddol sydd yn gweithio mewn rolau penodol sy’n gysylltiedig â'r ddeddfwriaeth.

Y Swyddogion Hyfforddiant a Chymhwysedd a Enwir (NTCOs) yn y Brifysgol sy’n gyfrifol am ddarparu’r hyfforddiant hwn, a bydd cofrestr o bawb sydd wedi cwblhau'r hyfforddiant yn cael ei chadw gan y HOCO.

Sesiwn Ymgyfarwyddo i Fyfyrwyr Ôl-raddedig

Bob blwyddyn mae sesiwn orfodol ymgyfarwyddo a gwybodaeth yn rhoi cyflwyniad i’r llwybrau ar gyfer cymeradwyaeth foesegol y mae angen eu dilyn cyn dechrau eich ymchwil. Mae'r sesiynau hyn wedi’u dylunio i gyd-fynd â'r hyfforddiant arbenigol a’r hyfforddiant sy’n ymwneud â disgyblaethau penodol y mae'r HO ac IBERS yn eu darparu.

9. Ystadegau ar Ddefnyddio Anifeiliaid 2022

Mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio anifeiliaid, lle Mae Prifysgol Aberystwyth wedi llofnodi’r Concordat ar fod yn Agored wrth gynnal Ymchwil ag Anifeiliaid ac mae hefyd yn aelod o Understanding Animal Research. Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw yn ein defnydd o anifeiliaid mewn gwaith ymchwil. Yn 2022, bu 911 o anifeiliaid yn rhan o weithdrefnau gwyddonol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gwartheg a defaid oedd y rhan fwyaf o’r anifeiliaid hyn (41% a 34%). Dyma’r ffigurau a rhywfaint o wybodaeth am y prosiectau a gynhaliwyd yn 2022 a oedd yn cynnwys anifeiliaid o dan Drwydded Prosiect:

Rhywogaeth

Nifer (%)

Pwrpas yr Ymchwil

Gwartheg

369 (41%)

Monitro nifer yr achosion o dwbercwlosis buchol a helpu i leihau effaith amgylcheddol amaethu anifeiliaid cnoi cil.

Defaid

308 (34%)

Cloriannu profion diagnostig newydd ar gyfer llyngyr yr iau a helpu i leihau effaith amgylcheddol amaethu anifeiliaid cnoi cil.

Llygod

219 (24%)

Canfod therapïau newydd ar gyfer sgistosomiasis.

Pysgod

15 (0.02%)

Arolygu symudiad pysgod gwyllt mewn ymateb i beirianneg forol.

 

Cysylltwch â Ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Swyddog Cydymffurfio â’r Swyddfa Gartref sy’n gweithio ar ddydd Llun a dydd Gwener:

E-bost: aeostaff@aber.ac.uk

Ffôn: 01970 82 3067

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwefannau ychwanegol y dylech fod yn gyfarwydd â nhw os ydych yn gweithio gydag anifeiliaid: