Trefn Ymgeisio ac Asesu Moeseg Ymchwil

Mae’r Brifysgol wedi cyflwyno trefn newydd ar-lein ar gyfer adolygiadau moesegol, i ddisodli’r holl ffurflenni papur. Caiff y drefn newydd ei defnyddio gan holl aelodau’r Brifysgol sy’n ymwneud ag ymchwil, gan gynnwys staff, myfyrwyr uwchraddedig ac israddedig.

 Mae i’r drefn ddau brif gam, a fydd yn caniatáu i ymchwilwyr:

  1. Gyflwyno asesiad o ystyriaethau moesegol eu hymchwil i’w hadran i’w adolygu.
  2. Cyflwyno cais i’r Panel Moeseg Ymchwil perthnasol, pe byddai’r adran neu’r asesiad yn mynnu hynny.

Bydd y drefn hefyd yn caniatáu i staff adolygu asesiadau a gyflwynwyd i’w hadran.

Rhaid i bob cynnig ymchwil gael ei asesu – anfonir y ffurflen i’r adran er mwyn ystyried a ddylid gwneud cais i’r Panel Moeseg Ymchwil perthnasol.

  • Dylai myfyrwyr ymgynghori â’u Harolygydd, cydlynydd modiwl y traethawd ymchwil neu unigolyn arall priodol ynglŷn ag ystyriaethau moeseg eu cynnig.
  • Yn yr un modd, efallai y bydd staff yn dymuno ymgynghori â Chyfarwyddwr Ymchwil yr Adran/Athrofa.

Mae’n bwysig nodi bod ymchwil sy’n ymwneud ag anifeiliaid yn dilyn trefn ar wahân, a gellir cael rhagor o wybodaeth fan hyn am hynny: Gallwch fynd at y system ar lein YMA

 

Moeseg Ymchwil - Anifeiliaid

 

Dylech ymgyfarwyddo â’r cyfarwyddyd a’r cymorth sydd i’w cael fan hyn, cyn dechrau ar y drefn ar-lein: Moeseg Ymchwil yn Aberystwyth