PURE a'r FfRhY

Defnyddiwyd PURE i reoli cyflwyniadau'r Brifysgol i FfRhY 2014 a 2021 a bydd yn parhau yn ei rôl ar gyfer y FfRhY nesaf.

Cydymffurfiaeth Mynediad Agored (OA)

Bydd adneuo cofnodion allbwn ymchwil yn PURE ar dderbyniad cyhoeddiad, ynghyd â thestun lawn o'r eitem, yn caniatáu i staff gydymffurfio â'r polisïau mynediad agored penodedig ar gyfer cymhwysedd cyflwyno allbwn y REF a pholisïau nifer o gyllidwyr ymchwil, gan gynnwys UKRI. Ewch i'r adran Allbynnau Ymchwil am ragor o wybodaeth ar sut i ychwanegu allbwn ymchwil i PURE.