Rheoliad Academaidd ynghylch Cynnydd Academaidd

1. Dim ond os ydynt yw’n parhau i wneud cynnydd derbyniol, a ddangosir gan y ffaith eu bod yn bresennol mewn dosbarthiadau, yn perfformio’n foddhaol mewn arholiadau ac yn cyflawni’n briodol unrhyw waith arall a osodir, y caniateir i fyfyrwyr barhau â chwrs astudio cymeradwy.

2. Bydd gan Gyfarwyddwyr yr Athrofeydd (neu’r sawl a awdurdodir ar ei ran) y grym i argymell y dylai myfyrwyr nad yw eu perfformiad academaidd yn foddhaol gael eu diarddel Brifysgol dros-dro neu’n barhaol.
 
3. Gall gofynion o’r fath fod yn absoliwt neu’n amodol ar i’r myfyriwr dan sylw fethu â chydymffurfio ag amod sy’n gysylltiedig â’i astudiaethau a bennwyd gan Gyfarwyddwr yr Athrofa (neu’r sawl a awdurdodir ar ei ran).
 
4. MYFYRWYR ISRADDEDIG / UWCHRADDEDIG TRWY GWRS SY’N METHU Â BODLONI GOFYNION YMRODDIAD I'W HASTUDIAETHAU A/NEU GYFLWYNO GWAITH

4.1 Mae’r Brifysgol yn mynnu bod myfyrwyr yn ymroi i'r holl weithgareddau a drefnwyd (mewn person ac ar-lein), a'r holl ddeunyddiau sydd ar gael drwy Amgylchedd Dysgu Rhithwir (BwrddDU) a Chipio Darlithoedd (Panopto).  Maent yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i, ddarlithoedd, seminarau, dosbarthiadau ymarferol a thiwtoriailau.  Gall y Brifysgol fynnu hefyd bod myfyrwyr yn cydymffurfio â gofynion presenoldeb ychwanegol er mwyn galluogi’r Brifysgol i gydymffurfio â gofynion cyrff allanol. Gallai defnydd twyllodrus o systemau monitro presenoldeb ac/neu ymroddiad academaidd arwain at gamau disgyblu yn unol â’r Rheolau a’r Rheoliadau i Fyfyrwyr.
 
4.2 Ar ddechrau pob sesiwn, bydd yr Athrofeydd yn hysbysu myfyrwyr sy’n dilyn eu modiwlau o ofynion y Brifysgol ar gyfer ymroddiad academaidd a chyflwyno gwaith, ynghyd ag unrhyw ofynion penodol ychwanegol ar lefel Athrofa. Dylai myfyrwyr sicrhau eu bod yn deall y gofynion hyn yn llwyr. Os nodir bod myfyriwr yn methu â bodloni gofynion ymroddiad academaidd  a/neu gyflwyno gwaith, dylai Cyfarwyddwr yr Athrofa (neu’r sawl a awdurdodir ar ei ran) neu unigolyn a ddynodwyd yn ei le gyfweld y myfyriwr a chymryd unrhyw gamau ymgynghori ffurfiol eraill y tybir sy’n angenrheidiol.
 
4.3 Ar ôl cyfweld y myfyriwr ac ar ôl cymryd unrhyw gamau ymgynghori priodol, os nad oes eglurhad boddhaol wedi dod i’r amlwg, dylai Cyfarwyddwr yr Athrofa (neu’r sawl a awdurdodir ar ei ran) roi rhybudd ffurfiol sy’n nodi, os na fydd gwaith y myfyriwr yn gwella, y bydd yn cael ei ddiarddel o’r Brifysgol dros-dro neu’n barhaol.
 
4.4 Os nad yw cynnydd y myfyriwr yn gwella, neu os na ddaw’r myfyriwr i’r cyfweliad, bydd Ddirprwy Is-Ganghellor y Gyfadron (neu’r sawl a awdurdodir ar ei ran) yn anfon adroddiad i’r Cyfarwyddwr, Ansawdd Academaidd a Chofnodion, yn argymell bod y myfyriwr yn cael ei ddiarddel o’r Brifysgol dros-dro neu’n barhaol.  Bydd y Cofrestrydd Academaidd yn cadarnhau bod y rheoliad hwn a’r canllawiau a gyhoeddir yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd wedi’u dilyn ac yn hysbysu’r myfyriwr yn ffurfiol y bydd yn cael ei ddiarddel dros-dro neu’n barhaol.
 
4.5 Os nodir bod myfyriwr yn anfoddhaol yn ystod y trydydd tymor, bydd yn cael ei g/chyfweld fel a nodir yn 2.1 uchod. Ni fydd fyfyriwr o’r fath yn cael ei ddiarddel bryd hynny, ond rhoddir gwybod iddo/iddi y bydd y Byrddau Arholi perthnasol ar ddiwedd y sesiwn yn ystyried cynnydd anfoddhaol ac y gallant benderfynu na ddylid caniatáu i’r myfyriwr ddod yn ôl i’r Brifysgol.

4.6 Os gwneir penderfyniad i ddiarddel myfyriwr mewn Bwrdd Arholi adrannol, dylai’r penderfyniad hwnnw gael ei gofnodi yng nghofnodion y Bwrdd Arholi adrannol, a dylai’r dogfennau cysylltiedig gael eu hanfon ymlaen at y Gofrestrfa Academaidd. Bydd Bwrdd Arholi’r Senedd yn cadarnhau diarddel myfyrwyr, a bydd y Gofrestrfa Academaidd yn anfon llythyrau diarddel yn dilyn y Byrddau. Bydd argymhelliad Bwrdd Arholi’r Senedd i ddiarddel myfyriwr dros dro neu’n barhaol yn amodol ar wiriad gan y Gofrestrfa Academaidd i sicrhau bod y cyfadrannau wedi dilyn y weithdrefn a nodir yn y Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd.

4.7 Ceir hyd i’r holl ffurflenni templed yn adran 3.13 o’r LLAA: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/taught-schemes/.
 
4.8 Bydd yr Athrofa’n rhoi gwybod i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion o’i phenderfyniadau ym mhob achos. Bydd y Cyfarwyddwr,  Ansawdd Academaidd a Chofnodion, yn rhoi gwybod i’r myfyriwr yn ysgrifenedig am y penderfyniadau i’w ddiarddel ac am hawl y myfyriwr i gyflwyno apêl cyn pen pum diwrnod gwaith.
 
4.9 Mae gan y myfyriwr 10 diwrnod gwaith i gyflwyno apêl. Mae copi o’r Gweithdrefnau Apeliadau Academaidd ar gael   https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/appeals/

5. UWCHRADDEDIGION YMCHWIL

5.1 Dim ond os ydynt yn parhau i wneud cynnydd boddhaol ar y rhaglen waith a’r amserlen y cytunwyd arnynt gan y goruchwylwyr, gan gynnwys cyflwyno drafftiau ysgrifenedig o fewn cyfnodau y cytunwyd arnynt, y caniateir i uwchraddedigion ymchwil barhau â’u cwrs astudio cymeradwy.
 
5.2 Ar sail argymhelliad Pwyllgor Monitro Ymchwil yr Adran/Athrofa, bydd gan Bennaeth Ysgol y Graddedigion rym i fynnu bod myfyrwyr nad yw eu perfformiad academaidd yn foddhaol yn cael:

5.2.1 eu hatal rhag symud ymlaen o’r cyfnod prawf
5.2.2 eu hatal rhag symud ymlaen i’r flwyddyn ymchwil nesaf
5.2.3 eu hatal rhag uwchraddio o radd Ymchwil Meistr i Ddoethuriaeth
5.2.4 eu hisraddio o Ddoethuriaeth i radd Ymchwil Meistr
5.2.5 eu diarddel o’r Brifysgol yn barhaol.

5.3 Gall gofynion o’r fath fod yn absoliwt neu’n amodol ar i’r myfyrwyr o dan sylw fethu â chydymffurfio ag amod sy’n gysylltiedig â’u hastudiaethau a bennwyd gan y Pwyllgor Monitro Ymchwil.
 
5.4 Dylai Pennaeth Ysgol y Graddedigion roi gwybod i’r Cofrestrydd Academaidd gan ddefnyddio Templed H – Monitro Cynnydd Myfyrwyr. Bydd y Cyfarwyddwr, Ansawdd Academaidd a Chofnodion yn rhoi gwybod i’r myfyriwr am benderfyniadau o’r fath yn ysgrifenedig cyn pen pump diwrnod, ac am hawl y myfyriwr i Adolygiad.

5.5 Ceir hyd i’r holl ffurflenni templed yn adran 3.13 o’r LLAA: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/taught-schemes/.
 
5.6 Mae gan fyfyriwr 10 diwrnod gwaith o ddyddiad y llythyr i gyflwyno apêl erbyn penderfyniad gan Bwyllgor Monitro Ymchwil. Mae copi o’r Gweithdrefnau Apeliadau Academaidd ar gael https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/appeals/.

 

Adolygwyd: Medi 2023