Gweithdrefnau ar gyfer Cynnal Gwrandawiad Apêl
Drwy gydol yr adran hon, dylid cymryd bod yr ymadrodd ‘Bwrdd' yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at Fwrdd Apeliadau Prifysgol Aberystwyth.
- Os yw apelydd wedi dynodi y bydd ef/hi yn bresennol yn y gwrandawiad, rhaid peidio â thrafod yr achos cyn i'r apelydd ymddangos.
- Bydd Cadeirydd y Bwrdd yn gofyn i'r apelydd ac unrhyw bersonau eraill sy'n bresennol i gyflwyno eu hunain a bydd yn penderfynu a yw unrhyw unigolyn sydd yn bresennol gyda'r apelydd yn gallu bodloni'r amodau yn y Weithdrefn Apelio berthnasol.
- Yna bydd Cadeirydd y Bwrdd:
- yn cyflwyno aelodau'r Bwrdd a'r personau eraill sy'n bresennol;
- yn esbonio'r seiliau cymwys dros apelio, gan gynnwys pwt i atgoffa na ellir ystyried apeliadau sy'n amau crebwyll academaidd yr arholwyr;
- yn datgan y penderfyniadau posibl sydd ar gael i'r Bwrdd;
- yn esbonio trefn y digwyddiadau os caiff yr apêl ei chadarnhau;
- yn egluro'r hawl sydd ar gael wedyn i gael adolygiad annibynnol gan Swyddfa'r Dyfarnydd Annibynnol.
- Bydd y Cadeirydd yn gwahodd yr apelydd i gyflwyno'r achos, gan grynhoi'r prif bwyntiau fel bod gan bawb sy'n bresennol ddealltwriaeth gyffredin o sail yr achos.
- Ar ôl i'r apelydd orffen ei gyflwyniad/chyflwyniad, gall aelodau'r Bwrdd ofyn cwestiynau ac archwilio meysydd sydd o ddiddordeb neu bryder. Pan fydd holl aelodau'r Bwrdd wedi eu bodloni, gwahoddir yr apelydd i ychwanegu unrhyw bwyntiau pellach y mae'n dymuno eu dwyn i sylw'r Bwrdd, a gwahoddir y sawl sy'n bresennol gyda'r apelydd i siarad o blaid yr achos.
- Yna bydd y Bwrdd yn cyfweld ag unrhyw aelod o staff o adran yr apelydd sy'n bresennol yn y gwrandawiad. Gwahoddir yr aelod o staff i gyflwyno'i sylwadau ar yr achos.
- Yna gwahoddir yr apelydd i ymateb i'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan unrhyw aelod o staff sy'n bresennol ac i ychwanegu unrhyw bwyntiau pellach.
- Yna gofynnir i bawb heblaw am aelodau'r Bwrdd a'r Ysgrifennydd adael yr ystafell a rhoddir gwybod iddynt pryd a sut y cânt wybod beth yw penderfyniad y Bwrdd. Bydd y Bwrdd yn ystyried y dystiolaeth sydd ger ei fron ac yn dod i'w gasgliad. Bydd Ysgrifennydd y Bwrdd yn rhoi gwybod i'r Bwrdd pa ddewisiadau sydd ar gael iddo, os yw hynny'n briodol.
- O dan amgylchiadau eithriadol, fel y'u diffinnir gan y Bwrdd Apeliadau, gall y Cadeirydd ganiatáu i'r apelydd neu i'r cynrychiolydd o'r adran roi tystiolaeth yn absenoldeb y naill neu'r llall, ar yr amod bod y Cadeirydd yn hysbysu'r person arall yn llawn am y dystiolaeth a roddir fel hyn.