Y Weithdrefn Apelio (Gradd Ymchwil Uwchraddedig)
- 1.
- Mae hawl gan y canlynol i apelio o dan y weithdrefn hon yn erbyn penderfyniad Bwrdd Arholi i beidio ag argymell dyfarnu'r radd y cyflwynodd yr ymgeisydd ei draethawd/thraethawd ymchwil ar ei chyfer:
- ymgeisydd am radd PhD (gan gynnwys y PhD drwy Weithiau Cyhoeddedig);
- ymgeisydd am radd Meistr drwy ymchwil (MPhil fel rheol).
- 2.
- Dim ond apeliadau sy'n seiliedig ar un neu fwy o'r seiliau canlynol y mae'r Brifysgol yn barod i'w hystyried:
- Diffygion neu afreoleidd-dra wrth gynnal yr arholiad neu yn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu'r cyngor sy'n ymwneud ag ef, sydd o'r cyfryw natur fel ag y bônt yn peri amheuaeth resymol a fyddai'r arholwyr wedi cyrraedd yr un penderfyniad pe na baent wedi digwydd;
- Amgylchiadau personol eithriadol lle bo achos ar yr olwg gyntaf y gallai'r cyfryw amgylchiadau fod wedi cael effaith andwyol ar berfformiad yr ymgeisydd. (Mewn apeliadau sy'n seiliedig ar y seiliau hyn, rhaid i'r apelydd ddangos rheswm da dros beidio â rhoi gwybod i'r Bwrdd Arholi am y cyfryw amgylchiadau personol cyn ei gyfarfod. Lle y gallai ymgeisydd fod wedi rhoi gwybod i'r Bwrdd Arholi am yr amgylchiadau eithriadol cyn ei gyfarfod, ni ellir wedi hynny ddefnyddio'r amgylchiadau hynny fel sail i apêl.);
- Tystiolaeth o ragfarn neu dueddfryd neu o asesu annigonol ar ran un neu fwy o'r arholwyr;
- Lle yr oedd yr arolygaeth a ddarparwyd yn annigonol a bod rhesymau eithriadol pam na chafodd hyn mo'i adrodd gan yr ymgeisydd cyn penderfyniad y Bwrdd Arholi.
- 3.
- Rhaid anfon unrhyw apêl, yn llawn ac yn ysgrifenedig, at y Cofrestrydd a'r Ysgrifennydd (cyf: Apeliadau) a rhaid iddi ei gyrraedd/chyrraedd ddim mwy na dau fis ar ôl i'r hysbysiad canlyniadau gael ei anfon at yr ymgeisydd. Ni fernir bod hysbysiad syml o apêl a roddir yn ysgrifenedig gan ymgeisydd o fewn y terfyn amser uchod yn gyfystyr ag apêl briodol ac ni chaiff ei dderbyn. Cydnabyddir bod cais am apêl wedi dod i law o fewn tri diwrnod gwaith fel rheol, a rhoddir adroddiad cynnydd ysgrifenedig i'r apelydd o fewn 25 diwrnod gwaith .
- 4.
- Os yw'r Is-Ganghellor neu'r sawl a enwebwyd ganddo/i * yn penderfynu, wedi archwilio cyflwyniad yr ymgeisydd ac unrhyw dystiolaeth arall ysgrifenedig y gall fod arno/arni ei hangen (e.e. adroddiad gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi dan sylw), bod achos i'w ystyried, bydd ef/hi yn ei gyfeirio at Fwrdd Apeliadau a fydd yn cynnwys tri pherson wedi'u dewis o Banel Sefydlog fel a ganlyn:
- 3 aelod lleyg wedi'u penodi gan y Cyngor
- 4 cynrychiolydd o bob Cyfadran
- 5.
- Os bydd yr Is-Ganghellor, neu'r sawl a enwebwyd ganddo/i, yn penderfynu nad oes achos i'w ystyried, effaith hyn fydd gwrthod yr apêl. Fel rheol, bydd hyn o fewn tri mis o'i derbyn.
- 6.
- Pan fo achos yn cael ei gyfeirio at Fwrdd Apeliadau am wrandawiad, bydd y Bwrdd yn nodi seiliau'r apêl a bydd yn seilio ei benderfyniad ar dystiolaeth cyflwyniad yr apelydd, tystiolaeth Cadeirydd y Bwrdd Arholi, tystiolaeth gan gynrychiolydd yr Adran o dan sylw ac unrhyw dystiolaeth bellach y mae'n credu sy'n berthnasol.
- 7.
- Bydd y Bwrdd Apeliadau yn cynnig gwrandawiad personol i'r apelydd, a chaiff yr apelydd wybod beth yw amser a dyddiad y cyfryw wrandawiad. Caiff yr apelydd ddod ag aelod o staff academaidd, lles neu gynghori'r Brifysgol neu fyfyriwr/fyfyrwraig neu swyddog o Urdd Myfyrwyr yn gwmni iddo/i, ond ni chaiff yr un o'r rhain ei gynrychioli/chynrychioli.
- 8.
- Bydd gan y Cadeirydd mewn cyfarfod Bwrdd Apeliadau ddisgresiwn i ddatgan yn annerbyniadwy unrhyw fater a gyflwynir gan yr apelydd, neu gan unrhyw aelod o'r staff neu fyfyriwr/fyfyrwraig sy'n gwmni i'r apelydd, os yw'n barnu nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â chynnwys yr apêl a gyflwynwyd yn ysgrifenedig yn flaenorol o fewn y terfyn amser a bennwyd.
- 9.
- Bydd gan y Bwrdd Apeliadau bwer i gymryd y naill benderfyniad isod neu'r llall:
- y dylid gwrthod yr apêl ac na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach;
- y dylid cadarnhau'r apêl.
- 10.
- Os caiff apêl ei chadarnhau, gall y Bwrdd Apeliadau hefyd ddewis un o'r camau gweithredu canlynol:
- Argymell i'r Bwrdd Arholi y dylai'r Bwrdd gwreiddiol, neu Fwrdd a gyfansoddir yn briodol, ailystyried penderfyniad y Bwrdd blaenorol, a hynny am y rhesymau a nodir;
- Argymell y dylai Bwrdd Arholi cwbl newydd ailystyried penderfyniad y Bwrdd blaenorol;
- Rhoi caniatâd i'r ymgeisydd ailysgrifennu'r traethawd ymchwil a'i ailgyflwyno i'w ailarholi gan y Bwrdd Arholi gwreiddiol, neu Fwrdd Arholi a gyfansoddir yn briodol, o fewn terfyn amser penodedig;
- Rhoi caniatâd i'r ymgeisydd ailysgrifennu'r traethawd ymchwil a'i ailgyflwyno i'w ailarholi gan Fwrdd Arholi cwbl newydd o fewn terfyn amser penodedig.
- 11.
- Pan ymgymerir ag ailarholi o ganlyniad i naill ai baragraff 10.2 neu baragraff 10.4 uchod, bydd dau arholydd allanol newydd yn cael eu penodi. Ni chaiff unrhyw wybodaeth am yr arholiad blaenorol ei rhoi i'r arholwyr allanol heblaw'r ffaith eu bod yn ailarholi cyflwyniad yr ymgeisydd yn sgil apêl.
- 12.
- Pan fo'r achos yn cael ei gyfeirio'n ôl at y Bwrdd Arholi, gall y Bwrdd Apeliadau, lle y bo'n briodol i amgylchiadau'r achos, ei gwneud yn ofynnol i swyddog o'r Gofrestrfa fod yn bresennol yng nghyfarfod y Bwrdd Arholi fel sylwedydd.
- 13.
- Bydd penderfyniad y Bwrdd Apeliadau yn derfynol.
- 14.
- Bydd y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd neu'r sawl a enwebwyd ganddo/i yn rhoi gwybod i'r apelydd ynghylch penderfyniad y Bwrdd Apeliadau ac argymhellion neu gyngor lle y bônt yn briodol i amgylchiadau'r achos (a chanlyniad yr ailarholi os yw'n berthnasol) cyn gynted â phosibl.
- 15.
- Yn achos 10 neu 11 uchod, bydd y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd neu'r sawl a enwebwyd ganddo/i yn trefnu i benderfyniad ac argymhellion y Bwrdd Apeliadau gael eu rhoi ar waith. Caiff penderfyniad y Bwrdd Arholi p'un ai a ddylid gwneud unrhyw addasiad i'r canlyniad y cytunwyd arno yn flaenorol ai peidio ei adrodd yn ôl i'r Bwrdd Apeliadau a bydd yn derfynol. Pan ddaw'r penderfyniad hwn i law, gall y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd neu'r sawl a enwebwyd ganddo/i, mewn achosion eithriadol yn unig, gyfeirio'r achos at Gadeirydd y Bwrdd Apeliadau i adolygu'r gweithdrefnau a ddilynwyd. Os daw'n hysbys bod afreoleidd-dra gweithdrefnol difrifol wedi digwydd, gellir cyfeirio'r achos yn ôl at y Bwrdd Arholi perthnasol i'w ailystyried.
- 16.
- Os bernir, o ganlyniad i apêl lwyddiannus, fod ymgeisydd wedi ymgymhwyso am radd, fe'i derbynnir ef/hi i'r radd ar y cyfle nesaf fel rheol. Fel arall, gall yr Is-Ganghellor farnu bod y cyfryw ymgeisydd wedi'i (d)derbyn i'r radd ar achlysur blaenorol cyhyd ag y bo'r holl amodau derbyn eraill sy'n angenrheidiol wedi eu bodloni.
- 17.
- Gall y Bwrdd Apeliadau wneud argymhellion i'w hystyried gan y Pwyllgor Materion Academaidd neu'r Senedd fel y bo'n briodol ynghylch unrhyw fater sy'n codi yn sgil ystyried apeliadau.
- 18.
- Unwaith y bydd yr holl weithdrefnau mewnol wedi'u defnyddio, gall ymgeisydd gyflwyno cwyn i'r OIA (Swyddfa'r Dyfarnydd Annibynnol). Rhaid cyflwyno unrhyw gwyn o'r fath drwy anfon copi o Ffurflen Gais y Cynllun wedi'i lenwi ynghyd â'r holl wybodaeth berthnasol at yr OIA o fewn tri mis i'r dyddiad ar y Llythyr Cwblhau Gweithdrefnau gan y Brifysgol wedi i'r gweithdrefnau mewnol gael eu cwblhau. Gellir cael copi o Ffurflen Gais y Cynllun gan yr Ysgrifennydd Academaidd, ei lawrlwytho o wefan OIA www.oiahe.org.uk neu drwy ffonio'r OIA neu ysgrifennu atynt yn y cyfeiriad isod:
OIAHE, Third Floor, Kings Reach, 38 - 50 Kings Road, Reading, RG1 3AA
Ffôn: 0118 959 9813
E-bost: enquiries@oiahe.org.uk
Atodiad
Is-adran o ddogfen fwy o faint yw'r we-ddalen hon. Dylid felly ei darllen yn ei chyd-destun ac nid fel dogfen annibynnol. I weld y ddogfen gyfan ewch i dudalen y ddewislen.
Y Weithdrefn Apelio sy'n berthnasol i Radd PhD drwy Weithiau Cyhoeddedig
Bydd y Weithdrefn Apelio (Gradd Ymchwil Uwch raddedig) yn gymwys gyda'r eithriadau canlynol:
Paragraff 2:
Bydd y tair sail gyntaf ar gyfer apêl yn gymwys, ond bydd y testun canlynol yn cymryd lle 2.4:
- 2.4
- Pan roddwyd cyngor annigonol gan y cynghorydd neu'r cynghorwyr a bennwyd gan y Brifysgol a phan oedd rhesymau eithriadol pam nad oedd yr ymgeisydd wedi rhoi gwybod am hyn cyn penderfyniad y Bwrdd Arholi.
1 Rhagfyr 2005
DMcP/mes
* Gall yr Is-Ganghellor enwebu swyddog yn y Gofrestrfa i weithredu ar ei r(h)an.