Dyfarniadau Aegrotat
Os bydd salwch yn atal ymgeisydd rhag cwblhau'r elfennau terfynol a arholir/a asesir o gynllun astudio trwy gwrs, gall y Bwrdd Arholi, ar ôl ystyried y dystiolaeth berthnasol (a ddylai gynnwys ardystiad meddygol boddhaol) argymell i'r Is-Ganghellor y dylid gwneud dyfarniad Aegrotat.
Wrth wneud hynny, dylai'r Bwrdd Arholi fod yn fodlon bod perfformiad blaenorol yr ymgeisydd yn dangos y tu hwnt i amheuaeth resymol y byddai ef/hi wedi llwyddo oni bai am y salwch/y digwyddiad a gododd. Dylai'r Is-Ganghellor fod yn fodlon ei bod yn annhebygol y gall yr ymgeisydd ddychwelyd i gwblhau ei (h)astudiaethau yn nes ymlaen.
Gofynnir i'r ymgeisydd nodi ei fod/ei bod yn fodlon derbyn dyfarniad Aegrotat; lle nad yw'n fodlon gwneud, bydd y Bwrdd Arholi yn caniatáu iddo/iddi gwblhau'r arholiadau/asesiadau dan sylw erbyn dyddiad diweddarach a gymeradwyir.
Bydd gradd, diploma neu dystysgrif Aegrotat yn ddiddosbarth ac, ym mhob ffordd arall, yn ddi-radd. Nid yw dyfarniad Aegrotat o angenrheidrwydd yn rhoi'r hawl i'r deiliad gofrestru â chorff proffesiynol nac ymeithrio rhag gofynion unrhyw gymhwyster proffesiynol y gellid fel arall ei gysylltu â'r cynllun astudio dan sylw.
Ni chaiff unrhyw ymgeisydd ei (h)eithrio rhag cyflwyno ac amddiffyn traethawd ymchwil nac rhag cyflwyno traethawd estynedig Meistr (neu gyflwyniad cyfatebol) lle bo'r cyfryw yn ofynnol. Mae'n dilyn, felly, na chaiff Byrddau Arholi argymell dyfarnu graddau ymchwil Aegrotat ac mai dim ond lle y gellir arholi'r gwaith a wnaed ar gyfer y traethawd estynedig y gellir dyfarnu graddau Meistr trwy gwrs Aegrotat. Nid yw'r gofyniad hwn yn atal rhoi i'r ymgeisydd unrhyw ddyfarniad tystysgrif neu ddiploma perthnasol y gellid ei wneud mewn perthynas ag astudio a gwblhawyd yn flaenorol.
DMcP/mes
1 Rhagfyr 2005