Rheoliadau ar gyfer Graddau Sylfaen
Mynediad
- 1.
- I fod yn gymwys i'w dderbyn neu i'w derbyn i astudio am un o Raddau Sylfaen y Brifysgol Cymru, rhaid i ymgeisydd fod wedi bodloni unrhyw amodau mynediad pellach a all fod yn ofynnol gan y Brifysgol a/neu'r sefydliad mewn perthynas â'r cynllun dan sylw.
Strwythur y Cynlluniau
- 2.
- Caiff cynlluniau Graddau Sylfaen eu cynnig ar sail cyfnod astudio dwy-flynedd amser-llawn (neu'r hyn sy'n cyfateb yn rhan amser).
- 3.
- Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr amser-llawn ddilyn yr hyn sy'n cyfateb i 120 o gredydau o leiaf ym mhob blwyddyn academaidd.
- 4.
- Gan ddibynnu ar ofynion y cynllun astudio cymeradwyedig, bydd ymgeisydd yn mynd ar drywydd credyd mewn perthynas â dysgu asesedig sy'n seiliedig yn y gweithle a fydd nid llai nag 10 credyd o ran nifer.
Trosglwyddo Credydau
- 5.
-
Er gwaethaf paragraffau 2 a 3 uchod, caiff y Brifysgol, o fewn y cyfyngiadau cyffredinol a ddangosir isod, farnu bod perfformiad myfyriwr neu fyfyrwraig yn naill ai'r astudio blaenorol a ddilynwyd a / neu mewn unrhyw ddysgu profiadaidd blaenorol yn cyfrif tuag at y gofynion ar gyfer dyfarnu Gradd Sylfaen. Rhaid i'r cyfryw astudio neu ddysgu profiadaidd blaenorol fod yn berthnasol i'r cynllun sydd i'w ddilyn a rhaid i werth y credydau gael ei asesu yn unol â disgresiwn y sefydliad sy'n derbyn. Bydd yr astudio blaenorol wedi ei gwblhau yn y Brifysgol, neu mewn Prifysgol neu Sefydliad arall y mae ei chynlluniau neu ei gynlluniau wedi eu cydnabod gan y Brifysgol at ddiben bodloni ei pholisi ar Gronni a Throsglwyddo Credydau.
Uchafswm y credydau y gellir eu derbyn i gyfrif tuag at Radd Sylfaen y Brifysgol fydd nid mwy na 120. Lle y bo uchafswm y credyd trosglwyddadwy a ganiateir wedi ei dderbyn, bydd gweddill y credydau sydd i'w dilyn drwy'r sefydliad derbyn ar Lefel 2 AU/ Lefel 5 FfCChC o leiaf fel rheol.
Asesu
- 6.
- Fel rheol caiff cynnydd ymgeisydd ei asesu yn y cyfnod yn union ar ôl iddo neu iddi gwblhau'r uned astudio.
- 7.
- Y marc pasio ar gyfer unedau asesu, modylau a dyfarniadau fydd 40%.
- 8.
- Bydd pob ymgeisydd am Radd Sylfaen yn cwblhau pob modiwl o fewn y cyfnodau canlynol:
- 8.i.
- Dull amser-llawn: nid mwy na phedair blynedd o ddyddiad dechrau'r cynllun;
- 8.ii.
- Dull rhan-amser: nid mwy na deng mlynedd o ddechrau'r cynllun.
(Gellir estyn y terfynau amser cyffredinol uchod o dan amgylchiadau eithriadol)
Lle y bo trosglwyddo credydau wedi ei gymeradwyo, o dan baragraff 5 uchod, caiff y Brifysgol gyfrif lleihad pro-rata i'r terfyn amser cyffredinol ar gyfer yr ymgeisydd unigol. Caiff y terfyn amser hwn ei gyfleu i'r ymgeisydd ar y dechrau.)
Methu
- 9
-
Yn unol â disgresiwn y Bwrdd Arholi, gellir caniatáu i fyfiwyr Rhan Un (Blwyddyn 1 fel arfer) hyd at dair* ymgais i gywiro modiwl a fethwyd. Byddant yn gymwys am farciau llawn wrth ailsefyll oni bai am y cynlluniau hynny lle mae symud ymlaen i Ran Dau (Blwyddyn 2 fel arfer) yn ddibynnol ar farc cymedrig uwch. Mewn achosion o'r fath, bydd myfyrwyr yn gymwys am y marc pasio lleiaf o 40% wrth ailsefyll Rhan Un. Yn unol â disgresiwn y Bwrdd Arholi, gellir caniatáu i fyfyrwyr Rhan Dau gael un ymgais bellach i ailsefyll neu gyfnewid modiwl a fethwyd. Byddant yn gymwys am ddyfarniad y marc pasio lleiaf (40%) yn unig ym mhob modiwl o'r fath, waeth beth fo lefel wirioneddol eu perfformiad.
* Un yn SGG
Dyfarnu
- 10.
- Gellir dyfarnu cymhwyster ymadael (Tystysgrif Addysg Uwch) i ymgeiswyr sydd wedi dilyn 120 o gredydau o leiaf ond sy'n canfod eu hunain yn methu, wedi hynny, â chwblhau'r cynllun (neu na chaniateir iddynt wneud).
- 11.
- I fod yn gymwys i'w ystyried neu i'w hystyried am ddyfarniad Gradd Sylfaen, bydd ymgeisydd wedi:
- 11.i.
- dilyn cynllun astudio cymeradwyedig am y cyfnod a bennir gan y Brifysgol, ac eithrio fel a ddarperir gan Reoliad 5 uchod;
- 11.ii.
- dilyn 240 o gredydau o leiaf, y bydd 120 o leiaf ohonynt ar Lefel 2 AU / Lefel 5 FfCChC, neu'n uwch;
- 11.iii
- bodloni unrhyw amod(au) pellach sy'n ofynnol gan y Brifysgol.
- 12.
- Rhaid i ymgeiswyr basio nid llai na thri chwarter o'r credydau hynny sy'n cyfrannu at ddyfarnu Gradd Sylfaen. Yn ddarostyngedig i'r gofyniad lleiaf hwn, bydd gan adrannau y disgresiwn i wneud y canlynol:
- 12.i.
- gosod isafbwyntiau uwch na thri chwarter;
- 12.ii
- pennu unedau astudio arbennig y mae'n rhaid eu cwblhau i foddhad y Bwrdd Arholi.
- 13.
- Wrth bennu a ellir dyfarnu Gradd Sylfaen i ymgeisydd, bydd Byrddau Arholi yn dilyn y confensiynau a gymeradwyir gan y Brifysgol. Gall y confensiynau hyn gynnwys gweithdrefnau neu fecanweithiau er mwyn i'r Bwrdd Arholi ymarfer disgresiwn. Caiff Bwrdd Arholi gymryd i ystyriaeth ddatblygiad academaidd yr ymgeisydd drwy gydol y cynllun astudio.
- 14.
- Dyfernir Gradd Sylfaen ar Sail Pasio / Methu yn unig, ac mae'n ddiddosbarth.
D. McParlin / M. Smith
Ebrill 2007