Rheoliadau ar gyfer Gradd Athro mewn Athroniaeth

Mae Rheoliadau hyn yn llywodraethu dyfarnu gradd Athro mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, sef y Brifysgol o hyn ymlaen.

Gall gradd Athro mewn Athroniaeth gael ei dyfarnu gan y Brifysgol i gydnabod y llwyddwyd i gwblhau cwrs astudio ac ymchwilio pellach, y bernir bod ei ganlyniadau yn arfarniad a dadansoddiad beirniadol o gorff o wybodaeth a/neu yn gyfraniad gwreiddiol at wybodaeth.

1.
Gall ymgeisydd astudio ar gyfer gradd Athro mewn Athroniaeth (MPhil) drwy gyfrwng un o'r dulliau canlynol:
1.a.
drwy wneud ymchwil amser-llawn yn y Brifysgol;
1.b.
drwy wneud ymchwil amser-llawn mewn lle cyflogaeth allanol;
1.c.
drwy wneud ymchwil ran-amser yn y Brifysgol;
1.d.
drwy wneud ymchwil ran-amser yn allanol;
1.e.
drwy wneud ymchwil ran-amser yn y Brifysgol fel aelod amser-llawn neu ran-amser o'r staff *
2.
all ymgeisydd gymhwyso ar ôl cwblhau yn llwyddiannus raglen ymchwil a gymeradwywyd ac a ddilynwyd naill ai yn amser-llawn (Dulliau A a B) neu yn rhan-amser (Dulliau C, D ac E).
3.
Rhaid i ymgeisydd am radd MPhil feddu ar un o'r cymwysterau canlynol cyn dechrau ei ymchwil neu ei hymchwil:
3.a.
gradd gychwynnol Prifysgol Cymru;
3.b.
gradd gychwynnol o Brifysgol arall a gymeradwywyd at y diben hwn;
3.c.
cymhwyster nad yw'n radd y mae'r Brifysgol wedi barnu ei fod yn cyfateb i radd.
4.
Beth bynnag fo cymwysterau ymgeisydd, rhaid i'r Brifysgol fodloni ei hun fod ymgeisydd o'r safon academaidd sy'n ofynnol er mwyn cwblhau'r cynllun ymchwil arfaethedig+.
5.
Mae'n ofynnol i ymgeisydd fatricwleiddio yn y Brifysgol ar ddechrau ei gynllun neu ei chynllun ymchwil, os nad yw eisoes wedi gwneud.
6.
Rhaid i ymgeiswyr ymrestru fel naill ai myfyriwr amser-llawn neu fyfyriwr rhan-amser yn y Brifysgol, talu'r ffi briodol a bennir a dilyn y cynllun am yr isafswm cyfnod a ddiffinnir isod:
Dulliau A a B:  
Isafswm cyfnod: blwyddyn
Dulliau C, D ac E:  
Isafswm cyfnod: dwy flynedd
6.
Er gwaethaf yr uchod, gall Pennaeth yr Adran, yn ôl ei (d)disgresiwn, ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd wneud ymchwil am gyfnod hirach na'r isafsymiau hyn.
7.
Cyhyd ag y bydd y Brifysgol yn cytuno, gall ymgeiswyr ddechrau eu cyfnod ymchwil ar ddiwrnod cyntaf unrhyw fis calendr.
8.
Er mwyn caniatáu i'r arholiad gael ei gwblhau, gall ymgeisydd un-flwyddyn gyflwyno traethawd, ar y cynharaf, bythefnos cyn i'r cyfnod astudio ddod i ben. Gall ymgeisydd dwy-flynedd gyflwyno traethawd, ar y cynharaf, chwe mis cyn i'r cyfnod astudio ddod i ben, h.y. blwyddyn a hanner ar ôl dyddiad y cofrestru cychwynnol.

Lle mae Pennaeth yr Adran yn gofyn bod yr ymgeisydd yn cyflawni cyfnod ychwanegol o ymchwil (fel y'i disgrifir o dan baragraff 6 uchod), estynnir dyddiad cyflwyno cynharaf yr ymgeisydd yn ôl cyfnod o amser sy'n gyfartal â'r cyfnod astudio ychwanegol.
9.
Daw ymgeisyddiaeth i ben os na chyflwynir traethawd, yn y ffurf a'r modd a bennir yn y rheoliadau, o fewn y terfynau amser canlynol:
9.a.
mewn perthynas â Dulliau A a B
tair blynedd o ddechrau swyddogol cyfnod astudio'r ymgeisydd fel myfyriwr ymchwil, fel y'i pennir ym mharagraff 6, uchod.
9.b.
mewn perthynas â Dulliau C, D ac E
pum mlynedd o ddechrau swyddogol cyfnod astudio'r ymgeisydd fel myfyriwr ymchwil, fel y'i pennir ym mharagraff 6, uchod.
Gall y terfynau amser uchod gael eu hymestyn gan y Brifysgol, ond mewn achosion eithriadol yn unig ac yn unol â meini prawf a bennir yn y Rheolau Sefydlog. Rhaid i gais rhesymedig, wedi ei ategu gan dystiolaeth annibynnol briodol, gael ei gyflwyno gan adran yr ymgeisydd i'r Brifysgol ei ystyried.
10.
Rhaid i'r Brifysgol sicrhau bod ymgeiswyr yn cael eu goruchwylio, yn rheolaidd ac yn barhaus, yn unol â'i weithdrefnau cyffredinol ar gyfer goruchwylio ôl-raddedigion.
11.
Ar gyfer pob ymgeisyddiaeth, rhaid i'r Brifysgol gymeradwyo tîm o oruchwylwyr yn cynnwys o leiaf un prif oruchwylydd ac ail oruchwylydd, a enwebir gan Adran yr ymgeisydd.

Fel arfer bydd y prif oruchwylydd yn aelod amser-llawn o staff academaidd y Brifysgol.

Fel arfer, bydd yr ail oruchwylydd yn aelod amser-llawn o staff academaidd y Brifysgol neu sefydliad neu gorff cydweithrediadol.
12.
Rhaid cwblhau ymchwil pob ymgeisydd drwy gyflwyno traethawd sy'n ymgorffori canlyniadau'r ymchwil o fewn y terfynau amser penodedig, a chymeradwyo'r traethawd hwnnw gan y Bwrdd Arholi.
13.
Rhaid i ymgeiswyr lofnodi datganiad yn ardystio na dderbyniwyd y gwaith a gyflwynir yn ei hanfod am unrhyw radd neu ddyfarniad, ac nad yw'n cael ei gyflwyno ar yr un pryd mewn ymgeisyddiaeth am unrhyw radd neu ddyfarniad arall. Rhaid cynnwys y datganiad, wedi ei lofnodi, ym mhob copi o'r gweithiau a gyflwynir i'w harholi.
14.
Rhaid i'r Brifysgol sicrhau bod ffurf cyflwyno ac arholi'r traethawd yn cydymffurfio â Rheoliadau'r Brifysgol ar gyfer 'Cyflwyno Traethodau Ymchwil a'u Harholi.'

Cynlluniau Gradd yn y Celfyddydau Creadigol


Yn achos ymgeiswyr sy'n dilyn cynlluniau gradd ymchwil cymeradwyedig sy'n syrthio o fewn maes pwnc y Brifysgol o'r Celfyddydau Creadigol a Pherfformiadol, caiff y traethawd fod ar un o'r ffurfiau canlynol: arteffact, sgôr, portffolio o weithiau gwreiddiol, perfformiad neu arddangosiad. Rhaid ei gyflwyno gyda sylwadaeth ysgrifenedig (isafswm o 5,000 o eiriau fel arfer) sy'n ei osod yn ei gyd-destun academaidd, ynghyd ag unrhyw eitemau eraill a all fod yn ofynnol (e.e. catalog neu recordiad sain neu weledol).

Ym mhob achos rhaid i'r cyflwyniad a'r sylwadaeth ysgrifenedig fod wedi'u rhwymo, a'r eitemau eraill sy'n ofynnol (e.e. tâp neu gyfryngau eraill) wedi'u hamgáu mewn cynhwysydd sy'n addas i'w storio ar silff llyfrgell ac yn dwyn yr un wybodaeth ar y meingefn ag sy'n ofynnol ar feingefn traethawd hir neu draethawd. Rhaid lleoli'r wybodaeth hon fel y bydd yn rhwydd ei darllen ar y cynhwysydd yn ei safle storio.

* Yn achos aelodau staff rhan-amser, cyfyngir ymgeisyddiaeth i aelodau staff dan gontract a chanddynt radd, neu gymhwyster cyfatebol, a chontract rheolaidd o gyflogaeth am gyflog sy'n gyfartal ag o leiaf draean o gyflog aelod amser-llawn yn y categorïau priodol o staff.

+ Rhaid i ddarpar ymgeisydd sydd eisoes yn meddu ar radd doethur allu dangos bod y cynllun MPhil mewn maes ymchwil gwahanol i'r un y dyfarnwyd y PhD (neu radd doethur arall) ar ei gyfer.