Rheoliadau ar gyfer Graddau Cychwynnol Modiwlar
Is-adran o ddogfen fwy o faint yw'r we-ddalen hon. Dylid felly ei darllen yn ei chyd-destun ac nid fel dogfen annibynnol. I weld y ddogfen gyfan ewch i dudalen y ddewislen.
- 1.
- Gellir dyfarnu graddau cychwynnol y Brifysgol i'r sawl sydd wedi cwblhau cynllun astudio modiwlar a gymeradwywyd gan y Brifysgol yn llwyddiannus.
- 2.
- Bydd pob cynllun yn cael ei ddiffinio fel un:
- Anrhydedd Sengl
- Anrhydedd Cyfun
- Prif Bwnc/Is-bwnc
- Cyffredin
- 3.
- I fod yn gymwys i gael ei (h)ystyried am ddyfarniad gradd o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i ymgeisydd:
- 3.a.
- fod wedi cyrraedd 17 mlwydd oed neu'n hyn adeg cychwyn astudio;
- 3.b.
- fod wedi dilyn cynllun astudio modiwlar a gymeradwywyd am y cyfnod a bennir gan y Brifysgol, ac eithrio fel y darperir gan Reoliad 33 isod;
- 3.c.
- fod wedi cyrraedd y cyfryw isafswm lefelau credyd a bennir mewn Cynllun a gymeradwywyd gan y Brifysgol;
- 3.d.
- fod wedi cyflawni unrhyw amod arall/amodau eraill a fynnir gan y Brifysgol.
- 4.
- Mae cynlluniau astudio yn cynnwys modiwlau sydd wedi'u cymeradwyo, pob un ohonynt â gwerth credyd sydd wedi'i ddiffinio mewn perthynas â'r oriau dysgu tybiannol sy'n gysylltiedig â'r modiwl, fel yr amlinellir yng Nghynllun Casglu a Throsglwyddo Credydau y Brifysgol.
- 5.
- Bydd graddau cychwynnol yn cynnwys dwy ran, sef Rhan Un a Rhan Dau. Bydd y Brifysgol yn pennu ac yn cyhoeddi fel y bo'n addas reolau i reoli cynnydd myfyrwyr rhwng blynyddoedd astudio, dosbarthiad graddau Anrhydedd a dyfarniad Graddau Cyffredin. Bydd pob modiwl a astudir yn Rhan Dau yn cyfrannu at asesiad gradd terfynol pob myfyriwr, yn amodol ar gyfyngiadau a ddisgrifir yng Nghynllun Casglu a Throsglwyddo Credydau y Brifysgol. Gellir derbyn modiwlau a astudiwyd mewn sefydliadau eraill sydd wedi'u cymeradwyo yn lle modiwlau a astudiwyd yn y Brifysgol.
- 6.
- Mae modiwlau ar gael ar wahanol lefelau, yn unol â'r hyn a ddiffinnir gan y Brifysgol yn ei Chynllun Casglu a Throsglwyddo Credydau.
- 7.
- Ac eithrio ymgeiswyr a dderbynnir o dan ddarpariaethau Rheoliad 33 isod, rhaid i ymgeiswyr fod wedi astudio yr hyn sydd gyfwerth ag o leiaf 360 o gredydau, ac o leiaf 120 o'r rheiny ar Lefel 3 AU/Lefel 6 FfCChC neu'n uwch fel rheol, er mwyn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad gradd Anrhydedd. Fel rheol mae'n ofynnol i ymgeiswyr amser-llawn ddilyn yr hyn sydd gyfwerth ag o leiaf 120 o gredydau yn ystod pob sesiwn academaidd, fel arfer ar sail 60 credyd fesul semester. I ganiatáu hyblygrwydd ac i hwyluso dewis myfyrwyr, caniateir uchafswm o 70 credyd ac isafswm o 50 credyd fesul semester.
- 8.
- Mae fel rheol yn ofynnol i ymgeiswyr gradd Gyffredin amser-llawn astudio'r hyn sydd gyfwerth ag o leiaf 120 o gredydau yn ystod pob blwyddyn academaidd. Ac eithrio ymgeiswyr a dderbynnir o dan ddarpariaethau Rheoliad 33 isod, rhaid i ymgeiswyr fod wedi astudio'r hyn sydd gyfwerth ag o leiaf 360 o gredydau, ac o leiaf 60 o'r rheiny ar Lefel 3 AU/Lefel 6 FfCChC neu'n uwch fel rheol, er mwyn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad gradd Gyffredin.
- 9.
- Gall myfyrwyr astudio am ddyfarniadau ar sail ran-amser, yn amodol ar y terfynau amser cyffredinol ar gyfer cwblhau'r cynllun, fel y nodir ym mharagraff 31 isod.
- 10.
- Gyda chymeradwyaeth y Brifysgol, ni all rhagor nag 20 credyd o fodiwlau Lefel AU 0/FfCChC 3 gyfrif tuag at gwblhau Rhan Un ac ni all rhagor nag 20 credyd o fodiwlau Lefel AU 1/FfCChC 4 gyfrif tuag at gwblhau Rhan Dau.
- 11.
- Bydd myfyrwyr fel arfer yn cael eu hasesu yn ystod y cyfnod yn syth ar ôl cwblhau'r gwaith dysgu sy'n gysylltiedig â phob modiwl yn unol â'r dulliau asesu a'r gweithdrefnau marcio a gymeradwywyd gan y Brifysgol.
- 12.
- 40% fydd y marc pasio modiwlar. Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, gellir caniatáu i fyfyrwyr Rhan Un gael hyd at dair ymgais i adfer modiwl y maent wedi'i fethu. Byddant yn gymwys i gael y marciau llawn pan fyddant yn ailsefyll. Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, gellir caniatáu un ymgais arall i fyfyrwyr Rhan Dau ailsefyll neu gyfnewid modiwl y maent wedi'i fethu. Dim ond ar gyfer y marc pasio isaf (h.y. 40%) y byddant yn gymwys ym mhob modiwl o'r fath, beth bynnag fo lefel eu perfformiad mewn gwirionedd.
- 13.
- Ar bob lefel, gellir gwrthod yr hawl i symud ymlaen os nad yw'r ymgeisydd wedi bodloni gofynion y cynllun astudio arfaethedig, er enghraifft drwy fethu modiwl neu fod ag absenoldeb heb ei gymeradwyo o fodiwl sy'n rhagofyniad angenrheidiol ar gyfer modiwlau diweddarach.
- 14.
- Yn amodol ar baragraff 12 uchod, pan fo ymgeisydd wedi methu modiwl yn gyffredinol ond wedi pasio'r gwaith cwrs sy'n cael ei asesu, bydd y marciau a gafwyd yn y gwaith cwrs fel rheol yn cael eu cario ymlaen i unrhyw ailsefyll.
- 15.
- Yn achos modiwlau a fethwyd, fel rheol disgwylir i ymgeiswyr:
- (ail)gyflwyno gwaith cwrs y maent wedi'i fethu neu waith cwrs nad yw'n bodoli (os mai gwendidau yn yr elfen hon sydd wedi arwain at y methiant))
Neu: - ailsefyll yr arholiad (pan fo'r myfyriwr wedi methu'r arholiad neu wedi bod yn absennol ohono)
Neu: - ailgyflwyno'r gwaith i'w asesu ac ailsefyll yr arholiad (pan fo myfyriwr wedi methu dwy ran yr asesiad, neu naill ran yr asesiad mewn rhai achosion).
- (ail)gyflwyno gwaith cwrs y maent wedi'i fethu neu waith cwrs nad yw'n bodoli (os mai gwendidau yn yr elfen hon sydd wedi arwain at y methiant))
DMcP/mes
1 Rhagfyr 2005