Rheoliadau ar gyfer Graddau Athro Modiwlar
Mae'r Rheoliadau hyn yn llywodraethu dyfarnu nifer o fathau o radd Athro a ddysgir ym Mhrifysgol Aberystwyth, sef y Brifysgol o hyn allan.
Mynediad
- 1.
- Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cyrraedd 17 mlwydd oed neu fwy adeg cael mynediad ac, oni bai eu bod yn gallu bodloni Rheoliad 2 isod, rhaid iddynt ddal un o'r cymwysterau canlynol cyn dechrau'r cynllun:
- 1.a.
- gradd gychwynnol o'r Brifysgol;
- 1.b.
- gradd gychwynnol a ddyfarnwyd gan gorff dyfarnu graddau cymeradwyedig arall;
- 1.c.
- cymhwyster anraddedig y mae'r Brifysgol wedi barnu ei fod o safon foddhaol at ddiben derbyn ôlraddedigion
- 2.
- Hefyd gellir derbyn personau sydd heb radd yn ymgeiswyr ar yr amod eu bod yn dal swydd gyfrifol sy'n berthnasol i'r cynllun sydd i'w ddilyn.
- 3.
- Rhaid i ddarpar-ymgeisydd sydd eisoes yn meddu ar radd doethur ddangos bod y cynllun Gradd Athro sydd i'w ddilyn mewn maes astudio gwahanol i'r un y dyfarnwyd y radd doethur amdano.
- 4.
- Ni waeth beth fo cymwysterau mynediad yr ymgeisydd, rhaid i'r sefydliad fodloni ei hun fod yr ymgeisydd o'r safon academaidd sy'n ofynnol i gwblhau'r cynllun astudio arfaethedig.
- 5.
- Rhaid i'r holl ymgeiswyr gofrestru fel myfyrwyr yn y Brifysgol ar ddechrau'r modiwl cyntaf a thalu'r ffioedd priodol.
Strwythur y Cynllun a'r Dyfarniadau
- 6.
- Rhaid i ymgeiswyr ddilyn cynllun astudio modiwlar, gan ddechrau ar y dyddiad dechrau priodol a gymeradwyir ar gyfer y cynllun.
- 7.
- Caiff ymgeiswyr ymgymhwyso am Radd Athro Modiwlar wedi iddynt gwblhau'n llwyddiannus gynllun astudio modiwlar cymeradwyedig a ddarperir yn amser llawn neu'n rhan amser yn y Brifysgol. Bydd cynnwys academaidd cynllun rhan-amser yn cyfateb i gynnwys academaidd cynllun amser-llawn, a rhaid i'r asesiad gynnwys traethawd hir neu'r hyn sy'n cyfateb ac sy'n gymeradwyedig (gweler Rheoliad 22).
- 8.
- Caiff ymgeiswyr a dderbynnir i gynllun Gradd Athro Modiwlar ymgymhwyso am ddyfarniadau canolradd y Brifysgol, fel a ddangosir ym mharagraff 10 y rheoliadau hyn.
- 9.
- Oni phennir i'r gwrthwyneb yn Rheoliad 22 isod, bydd Rhan Un y cynllun (yr elfen a ddysgir) yn cwmpasu nifer o fodiwlau sy'n werth 120 o gredydau ac a gymeradwyir gan y Brifysgol. Hefyd gall fod yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau cyfnod, neu gyfnodau, o hyfforddiant proffesiynol neu brofiad ymarferol.
Caiff ymgeiswyr sy'n mynd ymlaen i Ran Dau y cynllun (elfen y traethawd hir, neu'r hyn sy'n cyfateb ac sy'n gymeradwyedig (gweler Rheoliad 22 isod)) fod yn gymwys am ddyfarniad gradd Athro modiwlar, wedi iddynt lwyddo i ennill nid llai na 180 o gredydau ar y lefel briodol neu ar y lefelau priodol, y bydd o leiaf 60 ohonynt am elfen traethawd hir y cynllun. - 10
- Caiff ymgeiswyr a dderbynnir i gynllun Athro modiwlar ond nad ydynt yn mynd ymlaen i'w gwblhau ymgymhwyso am naill ai:
- Tystysgrif Ôl-raddedig
(ar ôl ennill dim llai na 60 o gredydau gydag o leiaf 40 ohonynt ar Lefel 7 CQFW, (Lefel M HE yn flaenorol); a'r 20 sy'n weddill ar Lefel 6 CQFW, (Lefel 3 HE yn flaenorol), neu'n uwch);
- Diploma Ôl-raddedig
(ar ôl ennill 120 o gredydau gydag o leiaf 90 ohonynt ar Lefel 7 CQFW (Lefel M HE yn flaenorol) ac uchafswm o 30 o gredydau ar Lefel 6 CQFW (Lefel 3 HE yn flaenorol).
- Tystysgrif Ôl-raddedig
Trosglwyddo Credydau
- 11
- Ni chaiff mwyafswm y credydau y gellir eu trosglwyddo i gynlluniau astudio fod yn uwch na nifer y credydau a sefydlir ar gyfer Rhan Un (yr elfen a ddysgir); rhaid i weddill y credydau sydd i'w dilyn fod ar Lefel 7 CQFW, (Lefel M HE yn flaenorol). Ni cheir priodoli credyd trosglwyddadwy i Ran Dau y cynllun.
Ni chaiff mwyafswm y credydau y gellir eu trosglwyddo i gynlluniau astudio fod yn uwch na nifer y credydau a sefydlwyd ar gyfer Rhan Un (yr elfen trwy gwrs); rhaid i weddill y credydau sydd i'w dilyn fod ar Lefel 7 CQFW (Lefel M HE yn flaenorol). Ni cheir priodoli credyd trosglwyddadwy i Ran Dau unrhyw gynllun.
O fewn y terfyniadau hyn, caiff y Brifysgol, yn ôl ei ddisgresiwn, farnu bod perfformiad myfyriwr mewn unrhyw ddysgu blaenorol drwy brofiad perthnasol yn cyfrif tuag at y gofynion ar gyfer dyfarnu Gradd Athro modiwlar.
Asesu
- 12.
- >Caiff modiwlau eu hasesu fesul un, fel a bennir gan yr Adran. Hefyd gall fod yn ofynnol i ymgeiswyr arddangos eu bod wedi cwblhau'n llwyddiannus unrhyw gyfnod o hyfforddiant proffesiynol neu brofiad ymarferol.
- 13.
- Rhaid i ymgeiswyr lwyddo yn Rhan Un y cynllun astudio cyn cael caniatâd i fynd ymlaen i Ran Dau. Rhaid i'r traethawd hir neu'r dewis arall cymeradwyedig (gweler paragraff 22 isod) ymgorffori dulliau a chanlyniadau prosiect ymchwil. Rhaid iddo beidio â bod yn hwy nag 20,000 o eiriau (neu 40,000 o eiriau ar gyfer ymgeisyddiaethau am radd MRes).).
- 14.
- Rhaid i Ran Un a Rhan Dau gael eu cwblhau'n llwyddiannus cyn y caiff ymgeiswyr ymgymhwyso ar gyfer dyfarniad gradd. Gall yr arholwr ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeiswyr sefyll arholiad llafar ar unrhyw adeg yn ystod y cynllun astudio.
- 15.
- Y marc pasio modiwlar fydd 50%. Mewn perthynas â Rhannau Un a Dau, caiff y Byrddau Arholi ddyfarnu marciau cyffredinol yn unol â'r graddfeydd canlynol a sefydlwyd gan y Brifysgol:
Rhan Un (yr elfen a ddysgir)
| Gradd | Canlyniad |
|---|---|
| 70% a throsodd | Lefel rhagoriaeth |
| 60 - 69% | Lefel teilyngdod |
| 50 - 59% | Yr ymgeisydd yn gymwys i symud ymlaen i Ran Dau |
| 0 - 49% | Methu |
Rhan Dau (traethawd hir Athro))
| Gradd | Canlyniad |
|---|---|
| 70% a throsodd | Lefel rhagoriaeth |
| 60 - 69% | Lefel Teilyngdod |
| 50 - 59% | Pasio |
| 0-49% | Methu |
- 16.
- Er mwyn cael gradd Meistr â Rhagoriaeth rhaid i ymgeisydd ennill marc o 70% o leiaf am y cyfan a bod wedi ennill o leiaf 65% yn Rhan Un ac o leiaf 70% yn Rhan Dau.
- Gall ymgeiswyr nad ydynt yn cwrdd â'r gofynion ar gyfer Rhagoriaeth ond sy'n ennill marc cyffredinol o 60% neu ragor ennill gradd Athro â Theilyngdod*.
(*DS. Yn achos ymgeiswyr sy'n dechrau rhaglen Athro Modiwlar o fis Medi 2009 ymlaen yn unig).
Serch yr uchod, os y caiff ymgeisydd gyfle i ailsefyll ar ôl methu, trwy ymddwyn yn annheg, y naill Ran neu'r llall o gynllun, ni fydd yn gymwys ar gyfer dyfarnu Rhagoriaeth na Theilyngdod iddo/i os yn llwyddiannus. Gweler hefyd Rheoliad 21. - 17.
- Rhaid cwblhau modiwlau a ddysgir fel a bennir gan yr ysgol neu'r adran berthnasol. Rhaid cwblhau'r cynllun gradd llawn, gan gynnwys cyflwyno'r traethawd hir ar y ffurf a bennir, erbyn y cyfnodau canlynol o ddyddiad y cofrestru cychwynnol:
| Ymgeiswyr amser-llawn sy'n dilyn cynlluniau blwyddyn | nid mwy na 2 flynedd |
| Ymgeiswyr amser-llawn sy'n dilyn cynlluniau dwy flynedd | nid mwy na 3 blynedd |
| Ymgeiswyr rhan-amser | nid mwy na 5 mlynedd |
Rhan Un: Symud Ymlaen, Methu ac Adfer
- 18.
- Ni chaiff ymgeiswyr ailsefyll unrhyw fodiwl nac uned asesu yr enillwyd marc pasio amdano yn flaenorol.
Er hynny, caiff ymgeiswyr sydd, gyda chytundeb y Bwrdd Arholi, yn ailsefyll blwyddyn astudio lawn wneud hynny am yr union farciau a enillir ar yr amod bod y marciau blaenorol yn cael eu hildio'n llawn o'r cychwyn. - 19.
- Bernir y bydd ymgeiswyr sydd yn absennol o'r cyfan o arholiad ysgrifenedig neu o rhan ohono (neu a fydd yn methu â chyflwyno prosiectau neu waith cwrs gosod erbyn y dyddiad(au) penodedig) wedi methu'r modiwl neu'r modiwlau o dan sylw. Yn achos salwch neu amgylchiadau eithriadol eraill, gall y Bwrdd Arholi roi estyniad i'r dyddiadau cyflwyno neu ganiatáu i arholiad atodol gael ei gynnal.
- 20.
- Gellir ailarholi ymgeiswyr sy'n ennill llai na 50% mewn modiwl yn y modiwl hwnnw un tro arall, a hynny o fewn y terfyn amser cyffredinol a bennir ar gyfer y cynllun, ac fel arfer yn ystod cyfnod yr Arholiadau Atodol. (Er hynny, gellir caniatáu i ymgeiswyr sy'n dilyn rhai cynlluniau astudio gael eu hailarholi yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi.) Ni fydd ymgeiswyr a ailarholir mewn modiwl yn gymwys ond am y marc pasio moel (h.y. 50%).
- 21.
- Ni fydd ymgeiswyr sydd wedi llwyddo yn Rhan Un y radd ar yr ail ymgais yn gymwys wedi hynny am ddyfarniad marc Rhagoriaeth na Theilyngdod.
Rhan Dau: Cyflwyno Traethawd Hir ac Adfer Methiannau
- 22.
- Cymeradwywyd darpariaethau arbennig mewn perthynas â'r canlynol:
- Cynlluniau Gradd yn y Celfyddydau Creadigol
Yn achos ymgeiswyr sy'n dilyn cynlluniau gradd cymeradwyedig Athro a ddysgir neu ymchwil sy'n syrthio o fewn maes pwnc y Brifysgol o'r Celfyddydau Creadigol a Pherfformiadol, caiff y traethawd hir neu'r traethawd fod ar un o'r ffurfiau canlynol: arteffact, sgôr, portffolio o weithiau gwreiddiol, perfformiad neu arddangosiad. Rhaid bod sylwadaeth ysgrifenedig gyda'r cyflwyniad (fel rheol 5,000-6,000 o eiriau) sy'n ei roi yn ei gyd-destun academaidd, ynghyd ag unrhyw eitemau eraill a all fod yn ofynnol (e.e. catalog neu recordiad sain neu weledol).
Ym mhob achos, rhaid i'r cyflwyniad a'r sylwadaeth ysgrifenedig fod wedi eu rhwymo, a rhaid amgáu'r holl eitemau eraill sy'n ofynnol (e.e. tâp neu gyfryngau eraill) mewn cynhwysydd sy'n addas i'w storio ar silff lyfrgell a rhaid iddynt ddwyn yr un wybodaeth ar y meingefn ag sy'n ofynnol ar gyfer traethodau hir / traethodau. Rhaid i'r wybodaeth hon gael ei rhoi yn y fath fodd fel ei bod yn rhwydd i'w darllen o'r cynhwysydd yn ei safle wedi ei storio.
- Gradd MRes
Yn achos ymgeiswyr sy'n astudio am radd MRes, bydd strwythur y cynllun yn gyfanswm o 180 o gredydau, gydag o leiaf 60 o gredydau o astudio a ddysgir yn cwmpasu Rhan Un, ac o leiaf 100 o gredydau yn cwmpasu'r traethawd hir (Rhan Dau).
- MBA ac MScEcon mewn Rheolaeth ac MScEcon mewn Entrepreneuriaeth
Ar gyfer y cynlluniau astudio hyn, caiff y traethawd hir fod ar ffurf dau brosiect ysgrifenedig a fydd, gyda'i gilydd, yn gwneud cyfanswm credyd sy'n werth 60 o gredydau.
- Cynlluniau Gradd yn y Celfyddydau Creadigol
Dylid cymryd bod cyfeiriadau yn y paragraffau canlynol at ‘draethawd hir' yn cynnwys unrhyw ffurfiau o gyflwyno / asesu ansafonol a fanylir yn y paragraff hwn ar gyfer Rhan Dau.
- 23.
- Mae ymgeiswyr yn rhydd i gyhoeddi'r cyfan, neu ran, o'r gwaith a gynhyrchir yn ystod cyfnod cofrestru'r ymgeiswyr yn y Brifysgol cyn iddynt ei gyflwyno yn ei gyfanrwydd, neu fel rhan o draethawd hir, ar yr amod na ddatgenir yn unman yn y gwaith cyhoeddedig ei fod yn cael ei ystyried am radd uwch. Caiff unrhyw gyfryw waith cyhoeddedig ei ymgorffori yn ddiweddarach yn y traethawd hir a gyflwynir i'w arholi.
- 24.
- Ac eithrio fel a ddarperir isod yn Rheoliad 41, ni chaiff ymgeiswyr ddiwygio'r traethawd hir, nac ychwanegu ato na dileu oddi wrtho ar ôl iddo gael ei gyflwyno i'w arholi.
- 25.
- Fel rheol, ni chaiff unrhyw oruchwylydd dynodedig nac aelod cyfatebol o'r staff a fu ynghlwm wrth baratoi'r traethawd hir weithredu, wedi hynny, fel arholydd mewnol ar ei gyfer.
- 26.
- Rhaid i'r ymgeisydd gyflwyno dau gopi o'r traethawd hir ar y ffurf a bennir gan y Brifysgol.
- 27.
- Rhaid i bob copi o'r traethawd hir gynnwys y canlynol:
- 27.a.
- crynodeb o'r traethawd hir nad yw'n hwy na 300 o eiriau o ran ei hyd;
- 27.b
- y gosodiad sy'n ofynnol wedi ei lofnodi gan yr ymgeisydd (gweler Rheoliad 28 isod);
- 27.c
- y datganiad sy'n ofynnol wedi ei lofnodi gan yr ymgeisydd (gweler Rheoliad 29 isod).
- 28.
- Wrth gyflwyno traethawd hir, rhaid i'r holl ymgeiswyr ddatgan i ba raddau y mae'n ganlyniad i'w gwaith neu i'w harchwiliad hwy eu hunain, a rhaid iddynt nodi unrhyw rannau y maent yn ddyledus i ffynonellau eraill amdanynt. Dylid rhoi cyfeiriadau clir, a rhaid atodi llyfryddiaeth lawn wrth y gwaith.
- 29.
- Adeg cyflwyno, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ymgorffori gosodiad wedi ei lofnodi o fewn y gwaith, a fydd yn nodi:
- 30.
- Gall traethawd estynedig a gyflwynir am un o raddau uwch y Brifysgol fod ar gael yn agored a heb fod yn ddarostyngedig i unrhyw ddosbarthiad diogelwch na chyfyngiad ar fynediad. Gall y Brifysgol, ar argymhelliad arbennig Adran, wahardd llun-gopïo traethawd estynedig a/neu fynediad iddo am gyfnod penodedig o hyd at bum mlynedd. Cyfrifoldeb arolygydd prosiect yr ymgeisydd yw gwneud cais i'r Brifysgol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol. Fel rheol, bydd yr Adran yn anfon argymhelliad i'r Brifysgol yng nghamau cynnar gwaith prosiect yr ymgeisydd.
- 31.
- Adeg cyflwyno, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ymgorffori gosodiad wedi ei lofnodi o fewn y gwaith yn nodi:
- 31.a
- naill ai y caiff y traethawd hir, os yw'n llwyddiannus, fod ar gael i'w fenthyg neu i'w lun-gopïo rhwng llyfrgelloedd (yn ddarostyngedig ar gyfraith hawlfraint), ac y gellir trefnu y gall y teitl a'r crynodeb fod ar gael i gyrff allanol; neu
- 31.b.
- y gellir trefnu y bydd y traethawd hir, os yw'n llwyddiannus, ar gael felly wedi i'r gwaharddiad ddod i ben.
- 32.
- Fel rheol, bydd teitl a chrynodeb y traethawd hir ar gael yn agored.
- 33.
- Caiff Adran bennu, o fewn y terfyn amser a bennir gan y Brifysgol ar gyfer pob cynllun astudio, ei ddyddiad olaf cynharaf ei hun ar gyfer cyflwyno traethodau hir.
- 34.
- Bernir bod traethawd hir nad yw wedi ei gyflwyno erbyn dyddiad olaf cynharaf yr Adran ar gyfer gradd arbennig wedi methu oherwydd nas cyflwynwyd, a chaniateir i ymgeiswyr gyflwyno traethawd hir (ar y ffurf ac yn y dull a bennir) unwaith yn unig, nid mwy na deuddeng mis o'r dyddiad olaf gwreiddiol a bennwyd ar gyfer y cynllun astudio gan yr Adran. Bydd ffi yn daladwy ar gyfer arholi traethawd hir o'r fath. Ni fydd ymgeiswyr sydd wedi methu, drwy beidio â chyflwyno, yn gymwys ond am ddyfarniad y marc pasio moel ac ni ellir barnu eu bod yn gymwys am ddyfarniad Rhagoriaeth na Theilyngdod yn gyffredinol.
- 35.
- Lle nad yw'r Adran wedi pennu ei ddyddiad olaf cynharach ei hun, os na chyflwynir y traethawd hir o fewn y terfyn amser a bennir gan y Brifysgol (gweler Rheoliad 17) bernir bod yr ymgeisyddiaeth wedi dod i ben ac ni fydd cyfle arall i gyflwyno.
- 36.
- Gellir estyn terfyn amser y Brifysgol (gweler Rheoliad 17 uchod) o dan amgylchiadau eithriadol yn unig ac yn unol â'r meini prawf a bennir yn y Rheolau Sefydlog. Rhaid i adran yr ymgeisydd gyflwyno cais rhesymedig, a ategir gan dystiolaeth annibynnol briodol, i'r Brifysgol i'w ystyried.
- 37.
- Os bydd yr arholwyr yn methu traethawd hir, caiff yr ymgeisydd ei ailgyflwyno unwaith yn unig, nid mwy na deuddeng mis o ddyddiad yr hysbysiad swyddogol i'r ymgeisydd o'r canlyniad gan Gofrestrfa'r Brifysgol. Bydd ffi yn daladwy am arholi'r cyfryw draethawd hir a ailgyflwynir.
- 38.
- Daw'r ddau gopi caled o bob traethawd hir a gymeradwyir gan yr arholwyr a'r fersiwn electronig yn eiddo i'r Brifysgol.
- 39.
- Os bydd yr arholwyr yn barnu bod traethawd hir o werth arbennig, caiff un copi caled ei adneuo gan y sefydliad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth a chaiff fersiwn electronig ei hadneuo yng Nghadwrfa Ymchwil Sefydliadol y Brifysgol. Bernir bod gwerth arbennig i draethawd hir yn yr achosion canlynol:
- 39.a.
- lle y barnwyd gan y Bwrdd Arholi ei fod o safon Rhagoriaeth (p'un a yw'r ymgeisydd wedi ymgymhwyso am y radd â Rhagoriaeth yn rhinwedd bod hefyd wedi cyflawni'r lefel angenrheidiol o berfformiad yn Rhan Un y cynllun ai peidio);
- 39.b
- lle y bo'n arbennig o berthnasol i Gymru neu lle y bo yn un o'r disgyblaethau academaidd canlynol:
Y Gymraeg, Astudiaethau Celtaidd, Hanes Cymru - 40.
- Bydd gan bob Sefydliad weithdrefnau yn eu lle i lywodraethu cadw traethodau hir a chael gwared arnynt.
- 41.
- Er gwaethaf Rheoliad 24 uchod, gall Bwrdd Arholi ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr wneud cywiriadau teipio neu fân gywiriadau i draethawd hir a lwyddwyd cyn iddo gael ei adneuo yn y llyfrgelloedd. Rhaid bod cynnwys y copïau caled a'r copi electornig yn union yr un fath.
Hydref 2008