Rheoliadau ar gyfer Gradd Doethur mewn Athroniaeth
Mae’r Rheoliadau hyn yn llywodrathu dyfarnu gradd Doethur mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, y Brifysgol o hyn allan.
Gall y Brifysgol ddyfarnu gradd Doethur mewn Athroniaeth i gydnabod cwblhau’n llwyddiannus gynllun o astudio pellach ac ymchwil y bernir bod ei chanlyniadau yn gyfraniad gwreiddiol i ddysg ac yn dystiolaeth o astudio systematig a’r gallu i gysylltu canlyniadau’r cyfryw astudio â’r corff cyffredinol o wybodaeth yn y pwnc.
Wrth farnu teilyngdod traethawd a gyflwynir mewn ymgeisyddiaeth am radd PhD, bydd yr arholwyr yn cadw mewn cof safon ac ystod y gwaith y mae’n rhesymol disgwyl i fyfyriwr neu fyfyrwraig galluog a dygn ei gyflwyno ar ôl cyfnod o ddwy neu dair blynedd (fel y bo’n briodol) o astudio amser-llawn, neu’r hyn sy’n cyfateb yn rhan-amser.
Ar ôl cwblhau gradd Doethur, bydd graddedigion wedi cyrraedd Lefel D fel y’i ddiffinnir gan Fframwaith yr ASA ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Ni ellir cyflwyno gradd Doethuriaeth mewn Athroniaeth honoris causa.
- Gall ymgeisydd astudio ar gyfer y radd drwy gyfrwng un o’r dulliau canlynol:
A drwy wneud ymchwil amser-llawn y Brifysgol;
B drwy wneud ymchwil amser-llawn mewn lle cyflogaeth allanol;
C drwy wneud ymchwil ran-amser yn y Brifysgol
D drwy wneud ymchwil ran-amser yn allanol;
E drwy wneud ymchwil ran-amser yn y Brifysgol fel aelod amser-llawn neu ran-amser o’r staff.
2. Gall yr ymgeiswyr gymhwyso ar ôl cwblhau yn llwyddiannus raglen ymchwil a gymeradwywyd ac a ddilynwyd naill ai yn amser-llawn (Dulliau A a B) neu yn rhan-amser (Dulliau C, D ac E).
3. Yn achos aelodau staff rhan-amser, cyfyngir ymgeisyddiaeth i aelodau staff dan gontract a chanddynt radd, neu gymhwyster cyfatebol, a chontract rheolaidd o gyflogaeth am gyflog sy’n gyfartal ag o leiaf draean o gyflog aelod amser-llawn yn y categorïau priodol o staff.
4. Rhaid i ymgeisydd am radd PhD feddu ar un o’r cymwysterau canlynol cyn dechrau ei ymchwil neu ei hymchwil:
(a) gradd gychwynnol Prifysgol Cymru;
(b) gradd gychwynnol o Brifysgol arall a gymeradwywyd at y diben hwn;
(c) cymhwyster nad yw’n radd y mae’r Brifysgol wedi barnu ei fod yn cyfateb i radd.
5. Beth bynnag fo cymwysterau ymgeisydd, rhaid i’r Brifysgol fodloni ei hun fod ymgeisydd o’r safon academaidd sy’n ofynnol er mwyn cwblhau’r cynllun ymchwil arfaethedig.
6. Mae’n ofynnol i ymgeisydd fatricwleiddio yn y Brifysgol ar ddechrau ei gynllun neu ei chynllun ymchwil, os nad yw eisoes wedi gwneud.
7. Rhaid i’r ymgeisydd ymrestru yn y Brifysgol, talu’r ffi briodol a bennir a dilyn y cynllun ymchwil am yr isafswm cyfnod a ddiffinnir isod:
|
Dulliau A a B: |
|
|
|
Isafswm cyfnod: |
tair blynedd, neu naw tymor, yr edrychir ar y flwyddyn gyntaf ohonynt fel y flwyddyn brawf. |
|
|
Dulliau C a D: |
|
|
|
Isafswm cyfnod: |
pum mlynedd, neu bymtheg tymor, yr edrychir ar y ddwy flynedd cyntaf ohonynt fel y flwyddyn brawf. |
|
|
Dull E: |
|
|
|
Isafswm cyfnod: |
tair blynedd, neu naw tymor, yr edrychir ar y flwyddyn gyntaf ohonynt fel y flwyddyn brawf. |
|
8. Er mwyn caniatáu i’r arholiad gael ei gwblhau, gall ymgeisydd gyflwyno traethawd chwe mis cyn i’r cynllun astudio a gymeradwywyd ddod i ben.
9. Yn ystod y flwyddyn/cyfnod prawf, disgwylir i’r ymgeisydd ddangos ei (f)bod yn gallu bwrw ymlaen ag ymchwil bellach.
10. Er gwaethaf paragraffau 6 a 8 uchod, gall ymgeisydd gael ei (h)esemptio rhag y flwyddyn/cyfnod prawf lle mae:
(a) yn meddu ar radd Athro Prifysgol a gymeradwywyd, a honno wedi ei hennill drwy ymchwil neu uwch-astudiaethau, sydd ym marn y Pennaeth Adran, yn gefndir academaidd digonol i ganiatáu i’r ymchwil arfaethedig gael ei chwblhau o fewn dwy flynedd.
(b) wedi cwblhau o leiaf flwyddyn yn amser-llawn neu ddwy flynedd yn rhan-amser o waith ôlraddedig o dan oruchwyliaeth yn yr un ddisgyblaeth academaidd â’r cynllun ymchwil PhD arfaethedig er boddhad y Brifysgol ar argymhelliad Pennaeth yr Adran briodol.
(c) wedi cyflwyno gwaith ymchwil ôlraddedig o safon sy’n cyfateb yn fras â gradd Athro a’r gwaith hwnnw wedi ei gymeradwyo gan y Brifysgol ar argymhelliad Pennaeth yr Adran briodol.
(d) wedi cael o leiaf flwyddyn o brofiad perthnasol ers graddio, a’r gymeradwyaeth honno i’w rhoi gan y Brifysgol ar argymhelliad Pennaeth yr Adran briodol.
Ni chaniateir unrhyw esemptiadau eraill.
11. Daw ymgeisyddiaeth i ben os na chyflwynir traethawd, yn y ffurf a’r modd a bennir, erbyn y terfyn amser canlynol:
Dulliau A a B:
Yn achos ymgeisyddiaethau tair-blynedd (yr edrychir ar y flwyddyn gyntaf ohonynt fel y flwyddyn brawf) pedair blynedd o ddechrau swyddogol cyfnod astudio’r ymgeisydd.
Yn achos ymgeisyddiaethau dwy-flynedd (lle mae’r ymgeisydd wedi ei esemptio rhag y flwyddyn brawf) tair blynedd o ddechrau swyddogol cyfnod astudio’r ymgeisydd.
Dulliau C a D:
Yn achos ymgeisyddiaethau pum-mlynedd (yr edrychir ar y ddwy flynedd cyntaf ohonynt fel y cyfnod prawf) saith mlynedd o ddechrau swyddogol cyfnod astudio’r ymgeisydd.
Yn achos ymgeisyddiaethau tair-blynedd (lle mae’r ymgeisydd wedi ei esemptio rhag y cyfnod prawf) pum mlynedd o ddechrau swyddogol cyfnod astudio’r ymgeisydd.
Dull E:
Ym mhob achos, saith mlynedd o ddechrau swyddogol cyfnod astudio’r ymgeisydd.
12. Rhaid i’r Brifysgol sicrhau bod ymgeiswyr yn cael eu goruchwylio, yn rheolaidd ac yn barhaus, yn unol â’i weithdrefnau cyffredinol ar gyfer goruchwylio ôl-raddedigion.
13. Ar gyfer pob ymgeisyddiaeth, rhaid i’r Brifysgol gymeradwyo tîm o oruchwylwyr yn cynnwys o leiaf un prif oruchwylydd ac ail oruchwylydd, a enwebir gan Adran yr ymgeisydd.
Fel arfer bydd y prif oruchwylydd yn aelod amser-llawn o staff academaidd y Brifysgol.
Fel arfer, bydd yr ail oruchwylydd yn aelod amser-llawn o staff academaidd y Brifysgol neu sefydliad neu gorff cydweithrediadol.
14. Rhaid cwblhau ymchwil pob ymgeisydd drwy gyflwyno traethawd (100,000 o eiriau ar y mwyaf, heb gynnwys atodiadau a throednodiadau dilys) sy’n ymgorffori dulliau a chanlyniadau’r ymchwil. Mae angen Bwrdd Arholi wedi ei gyfansoddi’n briodol i roi arholiad llafar i ymgeisydd PhD sy’n cyflwyno traethawd i’w arholi. Er hynny, fe allai’r gofyniad hwn gael ei anwybyddu ar ddisgresiwn y Bwrdd Arholi wrth arholi traethawd sydd wedi ei ailgyflwyno.
15. Rhaid i ymgeiswyr lofnodi datganiad yn ardystio na dderbyniwyd y gwaith a gyflwynir yn ei hanfod am unrhyw radd neu ddyfarniad, ac nad yw’n cael ei gyflwyno ar yr un pryd mewn ymgeisyddiaeth am unrhyw radd neu ddyfarniad arall. Rhaid cynnwys y datganiad, wedi ei lofnodi, ym mhob copi o’r gweithiau a gyflwynir i’w harholi.
16. Rhaid i’r Brifysgol sicrhau bod ffurf cyflwyno ac arholi’r traethawd yn cydymffurfio â Rheoliadau’r Brifysgol ar gyfer Cyflwyno Traethodau Ymchwil a’u Harholi.
Darpariaethau arbennig mewn perthynas â’r Celfyddydau Creadigol:
17. Yn achos ymgeiswyr sy’n dilyn cynlluniau gradd ymchwil cymeradwyedig sy’n syrthio o fewn maes pwnc y Brifysgol o’r Celfyddydau Creadigol a Pherfformiadol, caiff y traethawd fod ar un o’r ffurfiau canlynol: arteffact, sgôr, portffolio o weithiau gwreiddiol, perfformiad neu arddangosiad. Dylid hefyd gyflwyno sylwadaeth ysgrifenedig ( fel arfer lleiafswm o 20,000 o eiriau) i osod y gwaith yn ei gyd-destun academaidd, ynghyd ag unrhyw eitemau eraill a all fod yn ofynnol (e.e. catalog, neu recordiad sain neu weledol).