Dyfarnu Graddau, Diplomâu a Thystysgrifau ar ôl Marwolaeth
Dyfarnu Graddau, Diplomâu a Thystysgrifau ar ôl Marwolaeth
1.
Cynlluniau Gradd Gychwynnol Modiwlar
bod yr ymgeisydd wedi ennill dim llai na dwy ran o dair o'r credydau angenrheidiol, ar y lefelau priodol, cyn marw.
Nodyn: Yn achos ymgeiswyr sy'n dilyn cynlluniau Anrhydedd a chynlluniau Cyffredinol amser-llawn rhaid cwblhau dim llai na 60 o gredydau ar lefel 3 (FfCChC 6), wedi'u hastudio yn y flwyddyn derfynol, ac yn achos ymgeiswyr sy'n dilyn graddau Cyffredin amser-llawn rhaid cwblhau dim llai nag 20 o gredydau ar lefel 3 (FfCChC 6), wedi'u hastudio yn y flwyddyn derfynol.
2.
Dyfarnu Tystysgrifau a Diplomau Israddedig ar ôl Marwolaeth
Gall Bwrdd Arholi argymell i'r Brifysgol bod tystysgrif neu ddiploma israddedig ar ôl marwolaeth yn cael ei dyfarnu os yw ymgeisydd wedi marw cyn cwblhau cynllun a gymeradwywyd, fel a ganlyn:
2.a.
ar ôl cwblhau'r elfen o'r cynllun a ddysgir, lle mae'r ymgeisydd wedi sefyll rhai o'r arholiadau angenrheidiol ond wedi marw cyn cwblhau'r holl arholiadau angenrheidiol. Mewn achos o'r fath, rhaid i'r Bwrdd Arholi ystyried perfformiad yr ymgeisydd yn yr arholiadau a gwblhawyd ac yn y gwaith cwrs a gyflwynwyd.
2.b.
ar ôl cwblhau'r elfen o'r cynllun astudio a ddysgir ond cyn sefyll unrhyw un o'r arholiadau angenrheidiol. Mewn achos o'r fath, rhaid i'r Bwrdd Arholi ystyried y dystiolaeth sydd ar gael.
2.c.
cyn cwblhau'r elfen o'r cynllun a ddysgir. Mewn achos o'r fath, ar yr amod bod yr ymgeisydd wedi cwblhau dau dymor o gynllun blwyddyn (neu gyfran gyfatebol o gynllun hirach), rhaid i'r Bwrdd Arholi ystyried y dystiolaeth sydd ar gael iddo.
3.
Cynlluniau Gradd Ymchwil Uwchraddedig
Gall Bwrdd Arholi argymell i'r Brifysgol bod gradd ar ôl marwolaeth yn cael ei dyfarnu os yw ymgeisydd wedi marw:
3.1.
ar ôl i'r traethawd ymchwil gael ei arholi, neu ei gyflwyno i gael ei arholi, ond cyn y gellir cynnal yr arholiad llafar (os oes angen un).
Mewn achos o'r fath, rhaid i'r Bwrdd ystyried y gwaith a gyflwynwyd ac, ar yr amod ei fod yn fodlon mai gwaith yr ymgeisydd ei hun ydyw (drwy gael adroddiadau gan y Pennaeth Adran a'r arolygydd), gall benderfynu argymell bod dyfarniad yn cael ei roi.
3.2.
cyn i'r traethawd ymchwil gael ei gyflwyno. Mewn achos o'r fath, rhaid i'r Bwrdd ystyried y dystiolaeth sydd ar gael o'r gwaith ymchwil a gwblhawyd gan yr ymgeisydd. Fel rheol, bydd y dystiolaeth honno yn cael ei darparu gan arolygydd yr ymgeisydd, a fydd hefyd yn cyflwyno adroddiad i'w ystyried gan yr arholwyr. Bydd Pennaeth yr Adran dan sylw hefyd yn cyflwyno argymhelliad, gyda dadleuon o'i blaid, ynghylch dyfarnu'r radd. Hefyd, rhaid i'r meini prawf canlynol gael eu bodloni:
3.2.a
rhaid bod digon o'r prosiect ymchwil wedi ei gwblhau i ganiatáu i asesiad trylwyr gael ei wneud o hyd a lled y traethawd ymchwil;
3.2.b.
rhaid i'r gwaith ymchwil a gwblhawyd fod o'r safon sydd fel rheol yn angenrheidiol ar gyfer dyfarnu'r radd dan sylw, a rhaid iddo amlygu gafael yr ymgeisydd ar y pwnc;
3.2.c.
rhaid i'r deunydd ysgrifenedig sydd ar gael (penodau drafft, gwaith a gyhoeddwyd, gwaith a baratowyd i'w gyhoeddi, cyflwyniadau i gynadleddau/seminarau, adroddiadau gan yr ymgeisydd ar ei gynnydd ar gyfer ei adran/sefydliad/noddwr) amlygu gallu'r ymgeisydd i ysgrifennu traethawd ymchwil o'r safon angenrheidiol.
4.
Cynlluniau Gradd Meistr trwy Gwrs
4.1.
Rhan I (Y Rhan a Ddysgir)
Gall Bwrdd Arholi argymell i'r Brifysgol y gellir dyfarnu Diploma Uwchraddedig ar ôl marwolaeth i ymgeisydd am gynllun gradd Meistr (ni waeth a oes Diploma wedi ei chymeradwyo ar gyfer y cynllun dan sylw ai peidio) os yw ymgeisydd wedi marw:
4.1.a
ar ôl cwblhau'r elfen o'r cynllun a ddysgir, lle mae'r ymgeisydd wedi llwyddo yn yr holl arholiadau angenrheidiol ond wedi marw cyn dechrau ar y traethawd estynedig Meistr;
4.1.b
ar ôl cwblhau'r elfen o'r cynllun a ddysgir, lle mae'r ymgeisydd wedi sefyll rhai o'r arholiadau angenrheidiol ond wedi marw cyn cwblhau'r holl arholiadau angenrheidiol.
Mewn achos o'r fath, rhaid i'r Bwrdd Arholi ystyried perfformiad yr ymgeisydd yn yr arholiadau a gwblhawyd ac yn y gwaith cwrs a gyflwynwyd.
4.1.c.
ar ôl cwblhau'r elfen o'r cynllun astudio a ddysgir ond cyn sefyll unrhyw un o'r arholiadau angenrheidiol.
Mewn achos o'r fath, rhaid i'r Bwrdd Arholi ystyried y dystiolaeth sydd ar gael.
4.1.d.
cyn cwblhau'r elfen o'r cynllun a ddysgir.
Mewn achos o'r fath, ar yr amod bod yr ymgeisydd wedi cwblhau dau dymor o gynllun blwyddyn (neu gyfran gyfatebol o gynllun hirach), rhaid i'r Bwrdd Arholi ystyried y dystiolaeth sydd ar gael iddo.
2.
Rhan II (Prosiect a Thraethawd Estynedig)
2.a.
Gall Bwrdd Arholi argymell i'r Brifysgol bod gradd ar ôl marwolaeth yn cael ei dyfarnu os yw ymgeisydd wedi marw cyn cyflwyno traethawd estynedig, ar yr amod bod y Bwrdd yn gallu ystyried y dystiolaeth sydd ar gael o'r gwaith ymchwil a gwblhawyd gan yr ymgeisydd. Fel rheol, bydd y dystiolaeth honno yn cael ei darparu gan arolygydd/cynghorydd yr ymgeisydd, a fydd hefyd yn cyflwyno adroddiad i'w ystyried gan yr arholwyr. Bydd Pennaeth yr Adran dan sylw hefyd yn cyflwyno argymhelliad, gyda dadleuon o'i blaid, ynghylch dyfarnu'r radd. Rhaid i'r meini prawf canlynol gael eu bodloni cyn i'r arholwyr argymell i'r Brifysgol bod gradd ar ôl marwolaeth yn cael ei dyfarnu:
2.a.i.
rhaid bod digon o'r prosiect ymchwil wedi ei gwblhau i ganiatáu i asesiad trylwyr gael ei wneud o hyd a lled y traethawd estynedig;
2.a.ii
rhaid i'r gwaith ymchwil a gwblhawyd fod o'r safon sydd fel rheol yn angenrheidiol ar gyfer dyfarnu'r radd dan sylw, a rhaid iddo amlygu gafael yr ymgeisydd ar y pwnc;
2.a.iii
rhaid i'r deunydd ysgrifenedig sydd ar gael (penodau drafft, gwaith a gyhoeddwyd, gwaith a baratowyd i'w gyhoeddi, cyflwyniadau i gynadleddau/seminarau, adroddiadau gan yr ymgeisydd ar ei gynnydd ar gyfer ei adran/sefydliad/noddwr) amlygu gallu'r ymgeisydd i ysgrifennu traethawd estynedig o'r safon angenrheidiol.
3.
Dyfarnu Tystysgrifau a Diplomâu Uwchraddedig ar ôl Marwolaeth
Gall Bwrdd Arholi argymell i'r Brifysgol bod tystysgrif neu ddiploma uwchraddedig ar ôl marwolaeth yn cael ei dyfarnu os yw ymgeisydd wedi marw cyn cwblhau cynllun a gymeradwywyd, fel a ganlyn:
3.a.
ar ôl cwblhau'r elfen o'r cynllun a ddysgir, lle mae'r ymgeisydd wedi sefyll rhai o'r arholiadau angenrheidiol ond wedi marw cyn cwblhau'r holl arholiadau angenrheidiol. Mewn achos o'r fath, rhaid i'r Bwrdd Arholi ystyried perfformiad yr ymgeisydd yn yr arholiadau a gwblhawyd ac yn y gwaith cwrs a gyflwynwyd.
3.b.
ar ôl cwblhau'r elfen o'r cynllun astudio a ddysgir ond cyn sefyll unrhyw un o'r arholiadau angenrheidiol. Mewn achos o'r fath, rhaid i'r Bwrdd Arholi ystyried y dystiolaeth sydd ar gael.
3.c.
cyn cwblhau'r elfen o'r cynllun a ddysgir. Mewn achos o'r fath, ar yr amod bod yr ymgeisydd wedi cwblhau dau dymor o gynllun blwyddyn (neu gyfran gyfatebol o gynllun hirach), rhaid i'r Bwrdd Arholi ystyried y dystiolaeth sydd ar gael iddo.
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon: Dr Alan Macmillan,
Ysgrifennydd Academaidd,
Swyddfa Academaidd,
Hen Goleg,
Stryd y Brenin,
Aberystwyth,
SY23 2AX
Ffôn: (01970) 62 2013 Ffacs: (01970) 62 1831 Ebost: anm@aber.ac.uk
Swyddfa Academaidd