Rheoliad Ynglyn â Chynnydd Academaidd - 1
RHEOLIAD - CYNNYDD ACADEMAIDD
1.1 Caniateir i fyfyriwr barhau â’i gwrs astudiaeth cymeradwy yn unig os gwelir bod ei gynnydd yn dderbyniol, yn seiliedig ar
ei bresenoldeb mewn dosbarthiadau, ar ganlyniadau boddhaol mewn arholiadau ac ar gwblhau’n foddhaol unrhyw waith
arall a osodwyd i’r myfyriwr.
1.2 Gall myfyriwr y mae ei gynnydd academaidd yn anfoddhaol:
(a) gael ei wahardd rhag sefyll arholiadau yn eu crynswth neu ran ohonynt;
(b) gael ei orchymyn i ymadael â’r Brifysgol am gyfnod neu yn barhaol.
1.3 Bydd gan y Deoniaid yr awdurdod i orchymyn i fyfyriwr y mae ei gynnydd academaidd yn anfoddhaol:
(a) gael ei wahardd rhag sefyll yr arholiadau i gyd neu ran ohonynt; ac/neu
(b) ymadael â’r Brifysgol am gyfnod neu yn barhaol.
Gellir gosod y cyfryw ofynion naill ai’n ddiamod neu’n amodol, os bydd i’r myfyriwr dan sylw fethu cydymffurfio â
gofyniad yn ymwneud â’i astudiaethau a osodwyd gan Ddeon.
PWYLLGOR CYNNYDD ACADEMAIDD
2.1 Sefydlir Pwyllgor Cynnydd Academaidd (PCA) gan y Senedd. Aelodau’r Pwyllgor hwn fydd:
(a) Dirprwy Is-Ganghellor wedi’i enwebu (neu Ddirprwy)
(b) Deoniaid y Celfyddydau, y Gwyddorau Cymdeithasol, a Gwyddoniaeth (neu ddirprwyon).
(c) Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr.
Tri fydd y Cworwm ar gyfer y Pwyllgor.
2.2 Dyletswydd y Pwyllgor hwn fydd ystyried apeliadau a wnaed gan fyfyrwyr yn sgil penderfyniadau a wnaed gan Ddeoniaid
neu gan Fyrddau Arholi’r Cyfadrannau, neu gan Bwyllgor Ymchwilio i honiadau o Ymddwyn yn Annheg fel y’i sefydlwyd dan
y Rheoliad Academaidd ynghylch Ymddwyn yn Annheg.
2.3 Ni fydd Deon y Gyfadran berthnasol nac unrhyw aelod arall sy'n ymwneud yn uniongyrchol ag astudiaethau'r
myfyriwr/fyfyrwraig yn cymryd rhan ym mhenderfyniad y Pwyllgor nac yn bresennol wrth i'r Pwyllgor ddod i'r penderfyniad
hwnnw. Gall ef neu hi gyflwyno gwybodaeth ac ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor.
2.4 Os yw apêl wedi ei seilio ar dystiolaeth feddygol sy'n ymwneud â Byrddau Semester 1 ond nad yw'n dod i'r amlwg tan
Fyrddau Semester 2, gweithredir y drefn ganlynol:
1. ystyrir y dystiolaeth feddygol yn y lle cyntaf gan Banel Achosion Arbennig y Deoniaid, fel arfer wrth iddo gyfarfod i
ystyried tystiolaeth yn ymwneud â'r gyfres nesaf o arholiadau, er mwyn penderfynu a yw'n dod o fewn i'r canllawiau a
osodwyd gan y Panel;
2. ystyrir apeliadau o'r fath gan y Pwyllgor Cynnydd Academaidd yng ngoleuni sylwadau'r Panel ar ddilysrwydd y
dystiolaeth sydd bellach wedi dod i law.
MYFYRWYR SY’N METHU BODLONI’R GOFYNION YNGLŶN Â MYNYCHU DOSBARTHIADAU A/NEU GYFLWYNO GWAITH
3.1 Ar ddechrau pob sesiwn bydd pob Adran yn darparu ar gyfer pob myfyriwr a fydd yn dilyn cyrsiau yn yr Adran, ddogfen yn
cynnwys manylion ar bob cwrs a gynigir gan yr Adran yn nodi’r gofynion ynglŷn â phresenoldeb myfyrwyr mewn
dosbarthiadau, cyflwyno gwaith, a dulliau asesu. Dylai myfyrwyr sicrhau eu bod yn derbyn copi o’r ddogfen hon ar
ddechrau pob sesiwn a’u bod yn hollol gyfarwydd â’i gynnwys.
3.2 (a) Lle nodwyd gan aelod o'r staff bod myfyriwr wedi methu â chyflawni'r amodau ynglŷn â mynychu dosbarthiadau ac/neu
ynglŷn â chyflwyno gwaith, dylai Pennaeth yr Adran/Bwrdd, neu berson a enwebwyd yn ei le/lle, drafod y mater gyda'r
myfyriwr, gan ymgynghori yn ffurfiol ymhellach os yw'n ystyried bod hynny'n angenrheidiol.
(b) Os na chafwyd esboniad boddhaol ar ôl trafod gyda'r myfyriwr ac ar ôl unrhyw ymgynghori priodol, bydd Pennaeth yr
Adran/Bwrdd yn anfon adroddiad i’r Deon priodol, ynghyd â chopi o'r Adroddiad hwnnw i’r Dirprwy Is-Ganghellor.
(c) Bydd y Deon yn gofyn am unrhyw adroddiadau eraill y tybia eu bod yn angenrheidiol, yn cyfweld y myfyriwr os bydd
hynny’n briodol, ac yn penderfynu pa un o’r camau hyn y dylid eu cymryd:
(i) Anfon rhybudd ffurfiol trwy’r Dirprwy Is-Ganghellor y bydd i’r myfyriwr, oni welir gwelliant ganddo:
naill ai (a) gael ei wahardd rhag sefyll yr arholiadau, i gyd neu ran ohonynt;
neu (b) gael ei orchymyn i ymadael â’r Brifysgol am gyfnod neu’n barhaol.
(ii) Cyflwyno adroddiad i’r Awdurdod Addysg Lleol neu ffynhonnell ariannol arall.
(iii) Cymeradwyo gwahardd y myfyriwr rhag sefyll yr arholiadau, i gyd neu ran ohonynt.
(iv) Gorchymyn i’r myfyriwr ymadael â’r Brifysgol am gyfnod neu yn barhaol.
3.3 Bydd myfyriwr a geir yn “Anfoddhaol” yn ystod y trydydd tymor yn cael cyfweliad gan y Deon yn unol â 3.2 (a) uchod. Ni
fydd myfyriwr o’r fath yn cael ei wahardd rhag unrhyw arholiad ar ddiwedd y sesiwn ond bydd y Deon yn rhoi gwybod i’r
myfyriwr y bydd y Bwrdd Arholi Cyfadrannol perthnasol yn ystyried unrhyw adroddiad adrannol ar ddiwedd y sesiwn.
Bydd y Deon, lle y bo’n briodol, yn rhoi gwybod i’r myfyriwr y gall y Bwrdd Arholi Cyfadrannol ei gofnodi’n “Anfoddhaol” a
phenderfynu Na Ddylid Caniatáu iddo/i Ddychwelyd i’r Brifysgol gan ddibynnu ar unrhyw amod ynglŷn â chyflwyno gwaith
ysgrifenedig sy’n hwyr neu ar sefyll profion adrannol ychwanegol yn ôl gofynion y Bwrdd.
3.4 Y dyddiad olaf y gall Deon wahardd myfyriwr o’r Brifysgol neu gymeradwyo penderfyniad Adran i beidio â chofrestru
myfyriwr ar gyfer arholiadau yw diwrnod cyntaf y trydydd tymor.
3.5 Ni ellir penderfynu gwahardd myfyriwr rhag cael ei gofrestru ar gyfer arholiad am resymau academaidd ond wedi
ymgynghori â’r Deon ac wedi derbyn ei gymeradwyaeth.
3.6 Bydd y Deon yn hysbysu’r myfyriwr a’r Dirprwy Is-Ganghellor ynglŷn â’i benderfyniad ym mhob achos.
3.7 Bydd y Dirprwy Is-Ganghellor yn hysbysu’r myfyriwr trwy lythyr ymhen saith niwrnod o benderfyniad y Deon a hawl y
myfyriwr i apelio.
3.8 Y mae gan y myfyriwr bedwar diwrnod ar ddeg i gyflwyno apêl. Gall y ffurflen gael ei lawrlwytho o:-
Cais am apelio yn erbyn Penderfyniad Bwrdd Arholi
3.9 Ni chaiff myfyriwr apelio ond ar sail amgylchiadau personol eithriadol nad oeddynt yn hysbys i'r Deon pan benderfynwyd
peidio â chofrestru'r myfyriwr ar gyfer arholiadau neu ei wahardd o'r Brifysgol. Mewn achosion felly, ni chaiff yr apêl ei
hystyried os na all y myfyriwr roi rhesymau da pam na roddwyd gwybod eisoes am sail yr apêl i'r adran berthnasol neu i'r
Deon.
3.10 Bydd y Pwyllgor Cynnydd Academaidd yn ystyried pob apêl. Os yw myfyriwr/myfyrwraig wedi apelio yn erbyn penderfyniad
y Deon i’w wahardd/gwahardd o’r arholiadau neu o’r Brifysgol, bydd gan y myfyriwr hwnnw/y fyfyrwraig honno yr hawl i
ddod gerbron y Pwyllgor. Gall ddod yng nghwmni unigolyn o’i ddewis/o’i dewis, e.e. cyd-fyfyriwr/fyfyrwraig (a gofrestrwyd
yn y Brifysgol) neu Swyddog Sabothol yn Urdd y Myfyrwyr neu aelod o’r staff academaidd.
Os yw’r unigolyn hwnnw’n gweithredu fel cynrychiolydd cyfreithiol rhaid rhoi gwybod i’r Brifysgol o leiaf dri diwrnod gwaith
cyn dyddiad y Pwyllgor.
3.11 Bydd y Pwyllgor yn hysbysu’r myfyriwr o fewn saith niwrnod ynglŷn â chanlyniad yr apêl.