Rheoliadau Doethuriaethau Hŷn

RHAGARWEINIAD

I ddiben y Rheoliadau ar gyfer dyfarnu Doethuriaethau Hŷn, y mae’r Brifysgol wedi diffinio ‘gwaith cyhoeddedig’ fel cynnyrch ymchwil sydd ar gael yn gyhoeddus.

Gweler isod y rheoliadau ar gyfer dyfarnu’r doethuriaethau hŷn canlynol:

 Doethur mewn Llên (DLitt);
 Doethur mewn Gwyddoniaeth (DSc);
 Doethur mewn Astudiaethau Economaidd a Chymdeithasol (DScEcon);
 Doethur yn y Cyfreithiau (LLD)

RHEOLIAD

1. Amodau

1.1 Fel arfer bydd ymgeisydd am ddoethuriaeth hŷn a ddyfernir gan y Brifysgol yn Raddedig o’r Brifysgol ers o leiaf ddwy flynedd. Gellir derbyn ymgeiswyr yn ystod neu ar ôl:

 (i) yr ail flwyddyn wedi iddynt ennill gradd Doethur mewn Athroniaeth;

 (ii) y drydedd flwyddyn wedi iddynt ennill gradd Athro mewn Athroniaeth;

 (iii) neu’r ddegfed flwyddyn wedi iddynt ennill gradd Baglor yn unrhyw Gyfadran.

1.2 Y mae hawl gan aelodau amser llawn o staff dysgu, ymchwil, gweinyddol, llyfrgell neu dechnegol y Brifysgol sy’n raddedig o Brifysgol arall i fod yn ymgeisydd:

 (i) cyhyd â’u bod wedi ennill eu gradd gyntaf o leiaf ddeng mlynedd yn flaenorol, a

 (ii) cyhyd â’u bod yn aelodau amser llawn o staff y Brifysgol ers pum mlynedd o leiaf.

2. Meini Prawf

2.1 I gael eu derbyn i’r radd rhaid i ymgeiswyr gyflwyno i’r Brifysgol i’w gloriannu waith cyhoeddedig sy’n gyfraniad sylweddol i hyrwyddo dysg. Gellir seilio ymgeisyddiaeth ar waith ar y cyd cyhyd ag y gellir amcangyfrif cyfran yr ymgeisydd o’r gwaith hwnnw a bod modd cymhwyso ar ei gyfer y meini prawf a ddefnyddir wrth gloriannu gwaith annibynnol.

3. Cyflwyno

3.1 Rhaid cyflwyno i’r Cofrestrydd ac Ysgrifennydd Ffurflen Rhybudd o Ymgeisyddiaeth, ynghyd â thri chopi o bob un o’r gweithiau cyhoeddedig, a thri chopi o’r dogfennau canlynol:

 (i) manylion am raddau’r ymgeisydd, cymwysterau eraill a phrofiad ymchwil, gan gynnwys yr holl fanylion angenrheidiol i gadarnhau ei fod ef/bod hi yn gymwys o dan reoliadau’r Brifysgol;

 (ii) crynodeb, pedair neu bum tudalen o hyd, yn rhoi gwybodaeth am y maes neu’r meysydd y mae’r ymgeisydd wedi arbenigo ynddo/ynddynt, ac yn nodi hefyd y cyfraniad a wnaeth y gwaith i ddysg y maes hwnnw yn eu barn hwy;

 (iii) os yw’r ymgeisydd yn gyd-awdur ar y gwaith neu wedi cyd-weithio ag eraill, datganiad wedi ei arwyddo gan bawb a gydweithiodd yn nodi natur a chyfran y gwaith a wnaed ar y cyd;

 (iv) datganiad yn nodi faint o’r gwaith a gyflwynwyd neu sy’n cael ei gyflwyno ar hyn o bryd yn ymgeisyddiaeth am unrhyw radd arall, os o gwbl.

3.2 Gall y Pwyllgor Mewnol benderfynu gofyn i ymgeisydd ddod i gyfweliad.

3.3 Gellir cyflwyno rhybudd ymgeisyddiaeth ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd, ond os yw’n cael ei gyflwyno ar ôl 31 Ionawr, fel arfer ni chaiff canlyniad yr ymgeisyddiaeth ei bennu ar ddyddiad a’i gwna yn bosibl i’r ymgeisydd, os yw’n llwyddiannus, i gael ei dderbyn/derbyn i radd yn ystod y flwyddyn academaidd honno.

3.4 Caiff un copi o bob gwaith a gymeradwyir gan y Pwyllgor Mewnol ei osod yn Llyfrgell y Brifysgol ac un arall yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

3.5 Rhaid anfon ffi mynediad yr ymgeisyddiaeth i Gofrestrydd ac Ysgrifennydd y Brifysgol, ynghyd â’r ffurflen swyddogol o rybudd o ymgeisyddiaeth.

Ebrill 2007