Rheolau a Chyfarwyddiadau i Fyfyrwyr
Atodiad 6: Datganiad Ar Gyfrinachedd
a. Bydd y Brifysgol yn parchu natur gyfrinachol y wybodaeth a roddir gan fyfyrwyr.
b. Rhennir gwybodaeth gyfrinachol o fewn y Brifysgol yn unol ag egwyddor 'angen gwybod'. Os yw myfyriwr/ myfyrwraig yn dymuno cyfyngu ar y modd y rhennir gwybodaeth o'r fath, dylai wneud ei ddymuniadau/ei dymuniadau'n hysbys i'r aelodau perthnasol o'r staff. Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol o ganlyniadau a allai ddigwydd yn sgil peidio â datgelu gwybodaeth. Fel arfer, perchir dymuniadau o'r fath oni bai fod hynny'n rhagfarnu'r gwaith o gynnal safonau academaidd, neu oni bai y gallai beryglu diogelwch unrhyw unigolyn. Os yw gwybodaeth berthnasol wedi ei hatal oddi wrth unigolyn neu oddi wrth gorff yn y Brifysgol (e.e. oddi wrth y Deon neu Fwrdd Arholi neu'r Pwyllgor Cynnydd Academaidd), fel arfer ni ellir ei chyflwyno wedyn yn ystod apêl ddiweddarach yn erbyn penderfyniad gwreiddiol yr unigolyn neu'r corff hwnnw.
c. Yn amodol ar gyfyngiadau penodol ar ddyletswydd cyfrinachedd neu eithriadau iddi a gydnabyddir gan y gyfraith, datgelir gwybodaeth gyfrinachol i asiantaeth neu unigolyn allanol yn unig â chydsyniad y myfyriwr/fyfyrwraig y mae a wnelo'r wybodaeth ag ef/hi.'