Rheoliadau ar gyfer Cyflwyno Traethodau Ymchwil a'u Harholi
Is-adran o ddogfen fwy o faint yw'r we-ddalen hon. Dylid felly ei darllen yn ei chyd-destun ac nid fel dogfen annibynnol. I weld y ddogfen gyfan ewch i dudalen y ddewislen.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag astudio ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, sef y Brifysgol o hyn ymlaen.
- 1
- At ddiben arholi, rhaid i ymgeisydd gyflwyno'r canlynol i Bennaeth yr Adran o dan sylw:
- 1.a.
- Dau gopi o'r traethawd, wedi eu teipio a'u rhwymo, y bydd y ddau ohonynt yn cynnwys y canlynol:
- 1.a.i.
- crynodeb nad yw'n hwy na thri chant o eiriau;
- 1.a.ii.
- datganiad wedi ei lofnodi gan yr ymgeisydd sy'n dangos i ba raddau y mae'r gwaith a gyflwynir yn ganlyniad i archwiliad yr ymgeisydd ei hun; rhaid cydnabod ffynonellau eraill drwy droednodiadau a fydd yn rhoi cyfeirnodau eglur. Dylid atodi llyfryddiaeth lawn wrth y gwaith;
- 1.a.iii.
- datganiad wedi ei lofnodi ynghylch argaeledd y traethawd (gweler hefyd Reoliadau 4 a 5 isod).
1.a.iv.
fersiwn electronig o'r testun cyflawn wedi ei gadw ar gyfrwng symudol, e.e. crynoddisg; ynghyd â 'Ffurflen Cyhoeddi Traethodau Estynedig a Thraethodau Ymchwil yn
Electronig' wedi ei chwblhau.
- 1.b.
- Copi ychwanegol o'r crynodeb wedi ei baratoi gan yr ymgeisydd ar ffurflen sydd ar gael oddi wrth y Gofrestrfa;
- 1.c.
- Dwy ffurflen ‘Hysbysu Ymgeisyddiaeth', wedi eu llenwi, y mae copïau ohonynt ar gael oddi wrth y Gofrestrfa;
- 1.d.
- Cadarnhad bod yr holl ymrwymiadau, gan gynnwys talu'r holl ffioedd a'r holl arian sy'n ddyledus ac ardystiad o fatricwleiddio wedi eu bodloni.
- 2.
- Ac eithrio fel a ddarperir isod yn Rheoliad 21, ni chaiff ymgeisydd ddiwygio'r traethawd, ychwanegu ato na dileu oddi wrtho ar ôl ei gyflwyno.
- 3.
- Ar gyfer pob Bwrdd Arholi, bydd Cynullydd ac Ysgrifennydd, a fydd yn gyfrifol am sicrhau y cyflawnir y gweithdrefnau gweinyddol cywir ar gyfer cyflwyno'r traethawd a'i arholi. Caiff y Pennaeth Adran weithredu fel Cynullydd ac Ysgrifennydd, neu caiff ddirprwyo'r swyddogaeth hon i aelod hyn o staff academaidd yr Adran o dan sylw.
- 4.
- Fel rheol, rhaid i draethawd a gyflwynir am radd uwch Prifysgol Cymru fod ar gael yn agored ac nid yn ddarostyngedig i unrhyw fynediad diogelwch na chyfyngiad ar fynediad. Er hynny, gall y Brifysgol, drwy'r Bwrdd Graddau Ymchwil, ar argymhelliad arbennig yr Adran, roi gwaharddiad ar lun-gopïo a/neu fynediad i draethawd am gyfnod penodedig o hyd at bum mlynedd. Cyfrifoldeb goruchwyliwr yr ymgeisydd fydd gwneud cais i'r Adran o dan sylw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol. Fel rheol, dylai'r Adran anfon argymhelliad i'r Brifysgol y dylid gosod gwaharddiad adeg y bydd yr ymgeisydd yn cofrestru am radd. Hefyd byddai'r cyfryw waharddiad yn gymwys i aelodau'r Gyfadran o dan sylw.
- 5.
- Wrth gyflwyno, bydd yn ofynnol i ymgeisydd lofnodi datganiad yn nodi'r canlynol:
naill ai - 5.a.
- y gellir trefnu bod y traethawd, os bydd yn llwyddiannus, ar gael i'w fenthyg yn rhyng-lyfrgellol neu i'w lun-gopïo (yn ddarostyngedig i gyfraith hawlfraint), ac y gellir trefnu bod y teitl a'r crynodeb ar gael i gyrff allanol;
neu - 5.a.
- y gellir trefnu bod y traethawd, os bydd yn llwyddiannus, ar gael yn y modd hwn wedi i gyfnod y gwaharddiad ddod i ben.
Fel rheol, bydd teitl a chrynodeb y traethawd ar gael yn agored. - 6.
- Mae ymgeisydd yn rhydd i gyhoeddi'r cyfan neu ran o'r gwaith a gynhyrchir yn ystod cyfnod cofrestru'r ymgeisydd yn y Brifysgol o dan sylw cyn ei gyflwyno fel traethawd cyfan, neu ran o draethawd, ar yr amod na ddatgenir yn unrhyw fan yn y gwaith cyhoeddedig ei fod yn cael ei ystyried ar gyfer gradd uwch. Gellir ymgorffori'r cyfryw waith cyhoeddedig yn nes ymlaen yn y traethawd a gyflwynir i'r Brifysgol.
Arholi
- 7.
- Bydd Bwrdd Arholi yn ymgorffori'r canlynol:
Cadeirydd a Chynullydd
Arholydd Mewnol *
Arholydd Allanol +
Caiff Pennaeth Adran yr ymgeisydd weithredu fel Cadeirydd y Bwrdd Arholi, neu caiff ddirprwyo'r swyddogaeth hon i aelod hyn o staff academaidd y sefydliad o dan sylw, ac eithrio lle bo'r Pennaeth Adran hefyd yn oruchwyliwr yr ymgeisydd. Yn yr achos hwn, rhaid i rôl Cadeirydd y Bwrdd gael ei dirprwyo i aelod hyn o staff academaidd y sefydliad o dan sylw.
* Yn achos arholi ymgeisydd sy'n aelod o'r staff, bydd dau arholydd allanol yn lle.
+ Yn achos arholi ymgeisydd sy'n aelod o'r staff, bydd dau arholydd allanol yn lle. Bydd Byrddau Arholi ar gyfer Cymdeithion/Cynorthwywyr Ymchwil, Arddangoswyr a Darlithwyr Tymor-Penodol hefyd yn cael eu cyfansoddi fel i aelodau staff - h.y. bydd ganddynt Gadeirydd a dau arholwr allanol, fel y rhagnodir yn y Rheolau Sefydlog. Bydd ymgeiswyr sydd, neu sydd yn dyfod ar adeg y cyflwyniad, yn aelodau o staff mewn sefydliad o fewn y Brifysgol ffederal (neu mewn Prifysgol/sefydliad arall) ar wahân i'r un y maent wedi cofrestru i astudio ynddo, yn cael eu harholi fel ymgeisyddiaeth myfyriwr - h.y. bydd Cadeirydd ac fel arfer un arholwr allanol ac un arholwr mewnol. - 8.
- Mae'n ofynnol i'r Bwrdd Arholi roi arholiad llafar i ymgeiswyr am raddau ymchwil ym mhob achos ac eithrio lle y cynhelir arholiad ar gyfer traethawd a ailgyflwynir. (O dan yr amgylchiadau hyn, gellir gwneud i ffwrdd â'r gofyn hwn, yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi.)
- 9.
- Ni cheir penodi goruchwylydd yr ymgeisydd yn arholwr mewnol, er y caiff, gyda chaniatâd yr ymgeisydd ymlaen llaw, fod yn bresennol yn yr arholiad llafar. Ni chaiff goruchwylydd sy'n bresennol mewn arholiad llafar siarad ond pan fydd y Cadeirydd yn ei wahodd i wneud.
- 10.
- Yn eithriadol, lle y bo'n amhosibl penodi arholydd mewnol addas o'r tu mewn i'r Adran o dan sylw, caiff y Pennaeth Adran gymeradwyo penodi arholydd mewnol o Adran arall yn y Brifysgol.
- 11.
- Petai'n amhosibl penodi arholydd mewnol addas o Adran arall yn y Brifysgol, caiff yr Is-Ganghellor, ar argymhelliad arbennig y Pennaeth Adran o dan sylw, benodi arholydd mewnol o Brifysgol arall sy'n dyfarnu graddau Prifysgol Cymru. Drwy benodi'r cyfryw arholydd mewnol, gall yr Is-Ganghellor ystyried yr enwebiad a wneir gan y Pennaeth Adran, ond nid oes yn rhaid iddo neu iddi gael ei rwymo neu ei rhwymo wrth yr enwebiad hwnnw.
- 12.
- Os, o dan amgylchiadau eithriadol, y bydd yn amhosibl penodi arholydd mewnol addas naill ai o Adran arall yn y Brifysgol neu o Brifysgol arall sy'n dyfarnu graddau Prifysgol Cymru, gall yr Is-Ganghellor, ar argymhelliad arbennig y Pennaeth Adran o dan sylw, benodi ail arholydd allanol yn lle arholydd mewnol. Wrth benodi'r cyfryw arholydd allanol, gall yr Is-Ganghellor ystyried yr enwebiad a wneir gan y Pennaeth Adran o dan sylw, ond nid oes yn rhaid iddo neu iddi gael ei rwymo wrth yr enwebiad hwnnw.
- 13.
- Ni fydd yr Is-Ganghellor yn ystyried penodi ail arholydd allanol o dan ddarpariaethau Rheoliad 12 uchod oni bai ei fod neu ei bod wedi derbyn sicrwydd gan y Pennaeth Adran o dan sylw fod yr holl gamau priodol wedi eu cymryd i benodi arholydd mewnol o'r tu mewn i'r Brifysgol.
- 14.
- Bydd gan oruchwyliwr neu oruchwylwyr yr ymgeisydd yr hawl i fynegi i Gadeirydd y Bwrdd Arholi unrhyw bryderon sy'n berthnasol i brosiect ymchwil yr ymgeisydd, i'r traethawd sy'n deillio o'r prosiect hwnnw neu i'r arholiad ar y traethawd, y mae'r goruchwyliwr neu'r goruchwylwyr yn credu y dylai'r Bwrdd eu cymryd i ystyriaeth cyn cyrraedd ei benderfyniad. Bydd y goruchwyliwr neu'r goruchwylwyr yn mynegi'r pryderon hyn, yn ysgrifenedig, i'r Cadeirydd a'r ymgeisydd cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r traethawd gael ei gyflwyno a, beth bynnag, yn ddigon cynnar i ganiatáu digon o amser i'r ymgeisydd ystyried y pwyntiau a wnaed a pharatoi ymateb, cyn i'r traethawd gael ei arholi (gan gynnwys unrhyw arholiad llafar).
- 15.
- Cyfrifoldeb Cadeirydd y Bwrdd Arholi fydd sicrhau bod yr ymgeisydd yn fodlon â'r amser a ganiateir i ystyried y pwyntiau a wnaed gan y goruchwyliwr neu'r goruchwylwyr, ac i ymateb iddynt, a sicrhau datganiad ysgrifenedig swyddogol gan yr ymgeisydd mewn perthynas â hyn.
- 16.
- Bydd y Bwrdd Arholi yn ystyried unrhyw gyflwyniad ysgrifenedig at y Cadeirydd gan oruchwyliwr neu oruchwylwyr yr ymgeisydd ac unrhyw ymateb gan yr ymgeisydd yn unol â'r darpariaethau uchod.
- 17.
- Gall yr arholwyr ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd sefyll arholiad ysgrifenedig.
- 18.
- Os na fydd y Bwrdd Arholi yn cymeradwyo'r traethawd, cyfrifoldeb y Cadeirydd fydd crynhoi a darparu adborth i'r ymgeisydd a'r goruchwyliwr (gweler Rheoliad 22).