Cynllun Casglu a Throsglwyddo Credydau

 Is-adran o ddogfen fwy o faint yw'r we-ddalen hon. Dylid felly ei darllen yn ei chyd-destun ac nid fel dogfen annibynnol. I weld y ddogfen gyfan ewch i dudalen y ddewislen.


Credyd

1.
Diffiniad o Gredyd

Mae ir prifysgol yn cadarnhau barn Llywodraeth Cynulliad Cymru, fel y'i cyflwynwyd yn ei Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (y Fframwaith), y gellir diffinio credyd fel dyfarniad a roddir i ddysgwr i gydnabod llwyddiant mewn canlyniadau dysgu dynodedig ar lefel gredyd benodedig.

Mae swm y credyd a briodolir yn seiliedig ar amcangyfrif o'r amser dysgu a gymerai dysgwr cyffredin i gyflawni'r canlyniadau dysgu penodedig.
2.
Pwysiad Credydau ac Oriau Tybiannol

Mae un credyd* yn cyfateb i 10 awr dybiannol o ddysgu gan fyfyriwr, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd ac astudio annibynnol, ac asesu.

Ar y sail hon byddai myfyriwr israddedig amser-llawn yn casglu 120 o gredydau o fewn blwyddyn academaidd o 1,200 awr a byddai myfyriwr Meistr trwy Gwrs amser-llawn yn casglu 180 o gredydau mewn blwyddyn academaidd o 1,800 awr.
3.
Credydau Cyffredinol a Phenodol

Credydau cyffredinol yw'r cyfanswm credydau sydd gan fyfyriwr yn sgil ei (d)dysgu blaenorol. Yn nhermau trosglwyddo credydau, mae'r holl gredydau cyffredinol sydd gan fyfyriwr yn gymwys i'w hystyried. Credydau penodol yw'r gyfran o gyfanswm credydau'r myfyriwr sy'n cael ei derbyn fel un sy'n uniongyrchol berthnasol i'r cynllun astudio y mae'r myfyriwr yn cael ei (d)derbyn ar ei gyfer.
4.
Lefel yr Uned Astudio Fodiwlar

Yn unol â'r Fframwaith, gellir diffinio lefelau credyd fel dangosyddion o'r baich a'r cymhlethdod cymharol, dyfnder cymharol y dysgu ac ymreolaeth gymharol dysgwr ar sail disgrifyddion lefel generig y cytunwyd arnynt.

Nid yw lefelau yn hanfodol berthynol i flynyddoedd astudio amser-llawn nac i'r addysg a gyflawnwyd yn flaenorol nac i/neu i brofiad y dysgwr. Mae lefelau credyd yn ymwneud â modiwlau yn hytrach na dyfarniadau cyflawn.

Mae lefelau, fel y diffiniwyd uchod, yn ddangosol ac o'r herwydd yn wahanol i ganlyniadau dysgu penodol a'r meini prawf asesu cysylltiedig, sy'n nodi'r safonau trothwy sy'n angenrheidiol i ddyfarnu credyd ar gyfer unrhyw fodiwl neu uned benodol.
5.
Mae ir prifysgol wedi mabwysiadu disgrifyddion lefel sy'n seiliedig ar y rhai a baratowyd gan System Gasglu a Throsglwyddo Credydau Gogledd Iwerddon (NICATS) yng ngoleuni'r cyngor a roddwyd gan Gonsortia Credyd y Deyrnas Gyfunol (UKCC) a Fframwaith Credyd a Chymwysterau Cymru**. Mae'r lefelau sy'n berthnasol i Addysg Uwch fel a ganlyn:

*   Ceir tabl sy'n dangos y gydberthynas rhwng credydau PA a System Gasglu a Throsglwyddo Credydau Ewrop yn Atodiad A.
** Ceir tabl sy'n dangos y gydberthynas rhwng y lefelau credyd a argymhellir gan y Fframwaith a'r lefelau AB ac AU a ddefnyddir yn gyffredin yn Atodiad B.

Lefel Anghenion
AU0/Lefel 3 y Fframwaith Defnyddio gwybodaeth a sgiliau o fewn ystod o weithgareddau cymhleth gan arddangos dealltwriaeth o ddamcaniaethau perthnasol; cyrchu a dadansoddi gwybodaeth yn annibynnol a gwneud penderfyniadau rhesymegol, gan ddethol o blith dewis sylweddol o weithdrefnau, mewn cyd-destunau cyfarwydd ac anghyfarwydd, a chyfeirio'ch gweithgareddau eich hun, gyda pheth cyfrifoldeb dros gynnyrch pobl eraill.

[Modiwlau a astudir yn y flwyddyn ragarweiniol/sylfaen sy'n arwain at fynediad i gynllun gradd cychwynnol.]
AU1/Lefel 4 y Fframwaith Datblygu dull cadarn o gaffael sail eang o wybodaeth; defnyddio ystod o sgiliau arbenigol; gwerthuso gwybodaeth a'i defnyddio i gynllunio a datblygu strategaethau ymchwiliol ac i benderfynu ar ddatrysiadau i amrywiaeth o broblemau anrhagweladwy; a gweithredu o fewn ystod o gyd-destunau amrywiol a phenodol, i sicrhau canlyniadau penodol.

[Modiwlau a astudir fel arfer yn ystod blwyddyn gyntaf cynllun gradd amser-llawn neu'r hyn sydd gyfwerth.]
AU2/Lefel 5 y Fframwaith Cynhyrchu syniadau drwy ddadansoddi cysyniadau ar lefel haniaethol, gyda meistrolaeth ar sgiliau arbenigol a chreu ymatebion i broblemau sydd wedi'u diffinio'n glir a phroblemau haniaethol; dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth; datblygu'r gallu i ddefnyddio crebwyll sylweddol ar draws ystod eang o weithgareddau; a derbyn cyfrifoldeb dros bennu canlyniadau personol a/neu ganlyniadau grwp.

[Modiwlau a astudir fel arfer yn ystod ail flwyddyn cynllun gradd amser-llawn neu'r hyn sydd gyfwerth.]
AU3/Lefel 6 y Fframwaith Adolygu'n feirniadol, atgyfnerthu ac ymestyn corff systematig a chydlynol o wybodaeth, gan ddefnyddio sgiliau arbenigol ar draws maes astudio; gwerthuso'n feirniadol gysyniadau a thystiolaethau newydd o ystod o ffynonellau; trosglwyddo a defnyddio sgiliau diagnostig a chreadigol a defnyddio crebwyll sylweddol mewn ystod o sefyllfaoedd; a derbyn cyfrifoldeb dros bennu a chyflawni canlyniadau personol a/neu ganlyniadau grwp.

[Modiwlau a astudir fel arfer yn ystod trydedd flwyddyn a/neu flwyddyn olaf cynllun gradd safonol amser-llawn neu'r hyn sydd gyfwerth.]
AUM/Lefel 7 y Fframwaith Arddangos meistrolaeth dros faes cymhleth ac arbenigol o wybodaeth a sgiliau; defnyddio sgiliau uwch i gynnal ymchwil, neu weithgaredd technegol neu broffesiynol uwch; derbyn atebolrwydd dros wneud penderfyniadau perthnasol gan gynnwys y defnydd o oruchwyliaeth a, dan amgylchiadau addas, cynghori eraill.

[Modiwlau a astudir fel arfer ym mlwyddyn olaf cynllun gradd Meistr integredig cychwynnol amser-llawn neu fel rhan o gynllun Meistr trwy Gwrs, gan gynnwys y traethawd estynedig neu'r hyn sydd gyfwerth.]
AUD/Lefel 8 y Fframwaith Gwneud cyfraniad sylweddol a gwreiddiol i faes ymchwil arbenigol gan arddangos meistrolaeth dros faterion methodolegol a chymryd rhan mewn deialog feirniadol â chymheiriaid; derbyn atebolrwydd llawn dros ganlyniadau.

[Mae hyn yn cynrychioli gwaith ymchwil ar lefel ddoethurol.]