Cynllun Casglu a Throsglwyddo Credydau
Is-adran o ddogfen fwy o faint yw'r we-ddalen hon. Dylid felly ei darllen yn ei chyd-destun ac nid fel dogfen annibynnol. I weld y ddogfen gyfan ewch i dudalen y ddewislen.
Casglu Credydau
- 6
- Fframwaith Dyfarniadau
Mae rheoliadau'r Brifysgol ar gyfer cynlluniau astudio modiwlar yn darparu ar gyfer dyfarnu'r cymwysterau a restrir isod trwy gasglu credydau. Gall cynlluniau astudio israddedig, graddedig ac uwchraddedig, gyda dilyniant cyfnodol o gymwysterau is i rai uwch, gael eu llunio ar y sail ganlynol: - 6.a
- Lefel Israddedig
Tystysgrif Addysg Uwch
Diploma Addysg Uwch
Gradd Sylfaen
Gradd Gychwynnol
- 6.b
- Lefel Raddedig
Tystysgrif i Raddedigion
Diploma i Raddedigion
- 6.c
- Lefel Uwchraddedig
Tystysgrif i Uwchraddedigion
Diploma i Uwchraddedigion
Gradd meist Integredig
Gradd Meist
- 7
- Gall y credydau sy'n angenrheidiol ar gyfer dyfarnu'r cymwysterau hyn gael eu casglu drwy gwblhau'r cynlluniau astudio perthnasol yn foddhaol, neu ran ohonynt yn unol â'r hyn a bennir yn y Rheoliadau.
- 8
- Gall myfyrwyr sy'n gadael cynllun astudio gyda neu heb gymhwyster ar adeg gadael, yn ôl disgresiwn y sefydliad, gael caniatâd i ailymuno â'r cynllun yn y man addas, ar yr amod nad ydynt yn flaenorol wedi cynnig am a methu'r cymhwyster uwch ar ôl disbyddu pob hawl adfer ac yn amodol ar y terfynau amser ar gyfer cwblhau'r cynllun astudio.
- 9
- Gellir hefyd ddefnyddio'r Dystysgrif a'r Ddiploma, ar lefel israddedig ac uwchraddedig fel ei gilydd, fel amcanion cymwysterol yn eu hawl eu hun.
Yn unol â Rheoliadau'r Brifysgol, mae'r Ddiploma i Uwchraddedigion (yn ymgorffori Tystysgrif i Uwchraddedigion fel y bo'n addas) yn cynrychioli elfen ddysgu gradd Meistr trwy gwrs, gyda'r traethawd estynedig neu'r elfen gyfatebol a gymeradwywyd yn cynrychioli'r cam Meistr.
10. Strwythur y Cynlluniau ac Amlenni Credyd
Dangosir y gwerthoedd credyd isaf ac uchaf a argymhellir ar gyfer Cymwysterau Uwchraddedig, Graddedig ac Israddedig yn y tabl canlynol:
| Cymhwyster | Isafswm y credydau a astudiwyd yn gyffredinol | Yr amrywiaeth o lefelau Nifer y credydau ar y lefel uchaf | Uchafswm y credydau ar y lefel isaf |
|---|---|---|---|
| Uwchraddedig | |||
| Gradd Meistr | 180 credyd | Lefelau (3),M Isafswm o 150 credyd ar Lefel M |
Uchafswm o 30 credyd ar Lefel 3 |
| Gradd Meistr Integredig | 480 credyd | Lefelau (0),1,2,3 ac M Isafswm o 120 credyd ar Lefel M |
Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0 |
| Diploma i Uwchraddedigion | 120 credyd | Lefelau (3),M Isafswm o 90 credyd ar Lefel M |
Uchafswm o 30 credyd ar Lefel 3 |
| Tystysgrif i Uwchraddedigion | 60 credyd | Lefelau (3),M Isafswm o 40 credyd ar Lefel M |
Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 3 |
| Graddedig | |||
| Diploma i Raddedigion | 120 credyd | Lefelau (0,1,2),3 Isafswm o 90 credyd ar Lefel 3 |
Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0 |
| Tystysgrif i Raddedigion | 60 credyd | Lefelau (0,1,2),3 Isafswm o 90 credyd ar Lefel 3 |
Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0 |
| Israddedig | |||
| Gradd Anrhydedd | 360 credyd | Lefelau (0),1,2,3 Isafswm o 120 credyd ar Lefel 3 |
Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0 |
| Gradd Gyffredin | 300 credyd | Lefelau (0),1,2,3 Isafswm o 60 credyd ar Lefel 3 |
Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0 |
| Gradd Sylfaen | 240 credyd | Lefelau (0),1,2 Isafswm o 100 credyd ar Lefel 2 |
Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0 |
| Gradd Anrhydedd | 240 credyd | Lefelau (0),1,2 Isafswm o 100 credyd ar Lefel 2 |
Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0 |
| Tystysgrif AU | 120 credyd | Lefelau (0),1 Isafswm o 100 credyd ar Lefel 1 |
Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0 |
- 11
- Asesu
Bydd cymwysterau yn cael eu hasesu a'u dyfarnu yn unol â'r darpariaethau yn:- y rheoliadau PCA perthnasol;
- confensiynau PCA ; a'r
- rheoliadau ar gyfer y cynllun astudio penodol.
Gellir graddio myfyrwyr ar raddfeydd amrywiol. Er mwyn sicrhau cymaroldeb o ran mesur llwyddiant cymharol myfyrwyr wrth gyflawni eu credydau ac i hwyluso achredu astudiaeth flaenorol oddi mewn ac oddi allan i'r Brifysgol, awgrymir defnyddio'r tabl canlynol fel graddfa drosi gyffredinol ar gyfer dyfarniadau israddedig:Canran Canlyniad Gradd 70 ac uwch Anrhydedd Dosbarth Cyntaf 60 - 69 Anrhydedd Ail Ddosbarth Uwch 50 - 59 Anrhydedd Ail Ddosbarth Is 40 - 49 Anrhydedd Trydydd Dosbarth 35 - 39 Gradd Pasio 34 ac is Methu - 13.
-
Uwchraddedig
Defnyddir y term ‘Rhagoriaeth' i ddynodi perfformiad ardderchog gan ymgeiswyr ar gyfer graddau Meistr trwy gwrs ac fe'i gosodir ar 70% ar Lefel M neu'n uwch. Er mwyn ennill Gradd Meistr gyda Rhagoriaeth bydd angen i ymgeiswyr sicrhau marc cyffredinol o ddim llai na 70% ar ôl sicrhau dim llai na 65% yn Rhan Un a dim llai na 70% yn Rhan Dau.
Defnyddir y term ‘Rhagoriaeth' hefyd i ddynodi perfformiad ardderchog gan ymgeiswyr ar gyfer tystysgrifau a diplomâu uwchraddedig ac fe'i gosodir ar 70% ar Lefel M neu'n uwch. <.dd> - 14.
-
Dyfarniadau
Fel rheol, ni fyddai'r cymhwyster is (h.y. Tystysgrif neu Ddiploma) yn cael ei ddyfarnu'n awtomatig i fyfyrwyr sy'n cyflawni'r gofynion ar gyfer y cymhwyster hwnnw pa un ai a ydynt yn symud ymlaen yn uniongyrchol i ran nesaf y cynllun ai peidio, h.y. fel ‘dyfarniad canolradd', ond dim ond i'r myfyrwyr cymwysedig hynny sydd:
- yn gadael ran o'r ffordd drwy'r cynllun (dyfarniadau pwynt gadael); neu
sydd wedi cwblhau'r cynllun ond wedi methu'r cymhwyster uwch (dyfarniadau canolradd).
Cynllun Casglu a Throsglwyddo Credydau