Cynllun Casglu a Throsglwyddo Credydau

Is-adran o ddogfen fwy o faint yw'r we-ddalen hon. Dylid felly ei darllen yn ei chyd-destun ac nid fel dogfen annibynnol. I weld y ddogfen gyfan ewch i dudalen y ddewislen.


Trosglwyddo Credydau

15.
Amodau Achredu
  • Gellir asesu credydau ar sail astudio blaenorol, dysgu blaenorol trwy brofiad a dysgu ar sail gwaith;
  • dim ond y modiwlau rheiny sydd wedi eu pasio (neu rai sy'n cael eu cydnabod gan APEL) all gael eu derbyn ar gyfer trosglwyddo credydau;
  • caiff y lefel y derbynnir y credydau arni ei phenderfynu cyn derbyn i PA;
  • gellir derbyn lefel perfformiad y myfyriwr (yn nhermau gradd/marciau) yn y credydau a drosglwyddwyd i mewn a, lle bo'n briodol, gall gyfrif fel cyfraniad tuag at y dyfarniad;
  • mae'r cwestiwn pa un ai a yw'r credydau a gasglwyd ar gyfer astudiaeth flaenorol yn parhau yn ddilys mewn perthynas â'r cynllun astudio y caiff y myfyriwr ei (d)derbyn ar ei gyfer ai peidio yn fater i'w benderfynu cyn derbynir ir prifysgol, yn amodol ar y terfynau amser cyffredinol ar gyfer cwblhau cynlluniau astudio;
  • ni all ymgeiswyr sydd â gradd gychwynol ac sy'n dychwelyd i astudio pwnc cytras gyfrify credydau sydd ganddynt eisioed (ar Lefelau 1 a 2) am yr eilwaith tuag at radd gychwynnol ddilynol. Mewn achosion o'r fath, caiff ymgeiswyr sy'n dychwelyd i astudio ar Lefel 3 eu dyfarnu â Thystysgrif i Raddedigion neu Ddiploma i Raddedigion, fel y bo'n addas.
  • Terfynau Trosglwyddo

Yn unol â Rheoliadau PCA , dangosir y terfynau trosglwyddo credydau yn y tabl isod:
Cymhwyster Terfyn Trosglwyddo Credydau
Uwchraddedig
Gradd Meistr 120 credyd
Gradd Meistr Integredig 320 credyd
Diploma i Uwchraddedigion 60 credyd
Tystysgrif i Uwchraddedigion 30 credyd
Graddedig
Diploma i Raddedigion 60 credyd
Tystysgrif i Raddedigion 30 credyd
Israddedig
Gradd Anrhydedd 240 credyd*
Gradd Sylfaen 120 credyd
Diploma AU 160 credyd
Tystysgrif AU 80 credyd

* Lle bo uchafswm y credyd y gellir ei drosglwyddo wedi ei dderbyn, dylai'r credydau sy'n weddill ac sydd i'w hastudio yn y sefydliad derbyn fel arfer fod ar Lefel 6 neu'n uwch.

17
Dylai mynediad gyda chredyd academaidd fod yn amodol ar yr un egwyddorion â mynediad ar gyfer dechrau cynllun astudio, a chaiff ei reoli gan ofynion derbyn cynlluniau'r Brifysgol, fel y bo'n addas.
18
Lle bo ymgeiswyr gyda chymhwyster arbennig i'w derbyn yn rheolaidd gyda chyfanswm safonol o gredydau, dylai'r fath drefniadau gael eu ffurfioli yn y rheoliadau ar gyfer y cynllun dan sylw.

1 Rhagfyr 2005