Rheoliadau ar gyfer Graddau Sylfaen

Diwygiwyd ym mis Medi 2017 ac yn berthnasol i’r holl fyfyrwyr sy’n cychwyn Rhan Un eu gradd o fis Medi 2016 neu Ran Dau eu gradd o fis Medi 2017.

Mynediad

1.  I fod yn gymwys i'w dderbyn neu i'w derbyn i astudio am un o Raddau Sylfaen y Brifysgol, rhaid i ymgeisydd fod wedi bodloni unrhyw amodau mynediad pellach a all fod yn ofynnol gan y Brifysgol a/neu'r athrofa mewn perthynas â'r cynllun dan sylw.

Strwythur y Cynlluniau

2.  Caiff cynlluniau Graddau Sylfaen eu cynnig ar sail cyfnod astudio amser-llawn dwy flynedd neu dair blynedd (neu'r hyn sy'n cyfateb yn rhan-amser).

3.  Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr amser-llawn ddilyn yr hyn sy'n cyfateb i 120 o gredydau o leiaf ym mhob blwyddyn academaidd.

Trosglwyddo Credydau

4..Er gwaethaf paragraffau 2 a 3 uchod, caiff y Brifysgol, o fewn y cyfyngiadau cyffredinol a ddangosir isod, farnu bod perfformiad myfyriwr neu fyfyrwraig yn naill ai'r astudiaethau blaenorol a ddilynwyd ac/neu mewn unrhyw ddysgu drwy brofiad blaenorol yn cyfrif tuag at y gofynion ar gyfer dyfarnu Gradd Sylfaen. Rhaid i'r cyfryw astudio neu ddysgu drwy brofiad blaenorol fod yn berthnasol i'r cynllun sydd i'w ddilyn a rhoddir gwerth credydau iddo yn unol â disgresiwn yr athrofa sy'n derbyn. Bydd yr astudio blaenorol wedi ei gwblhau yn y Brifysgol, neu mewn prifysgol neu sefydliad arall y mae ei chynlluniau neu ei gynlluniau wedi eu cydnabod gan y Brifysgol at ddiben bodloni ei pholisi ar Gasglu a Throsglwyddo Credydau.

Ni fydd uchafswm y credydau y gellir eu derbyn i gyfrif tuag at un o Raddau Sylfaen y Brifysgol yn fwy na 120. Lle y bo uchafswm y credyd trosglwyddadwy a ganiateir wedi ei dderbyn, bydd gweddill y credydau sydd i'w dilyn drwy'r sefydliad derbyn ar Lefel 2 AU/ Lefel 5 FfCChC o leiaf fel rheol.

Asesu

5.  Fel rheol caiff cynnydd ymgeisydd ei asesu yn y cyfnod yn union ar ôl iddo neu iddi gwblhau'r uned astudio.

6.  Y marc pasio ar gyfer unedau asesu, modiwlau a dyfarniadau fydd 40%.

7.   Bydd pob ymgeisydd am Radd Sylfaen yn cwblhau pob modiwl o fewn y cyfnodau canlynol:

  • Dull amser-llawn: dim mwy na phedair blynedd o ddechrau'r cynllun dwy flynedd a dim mwy na phum mlynedd o ddechrau’r cynllun tair blynedd;
  • Dull rhan-amser: dim mwy na deng mlynedd o ddechrau'r cynllun. 

(Gellir ymestyn y terfynau amser cyffredinol uchod mewn achosion eithriadol)

Lle y bo trosglwyddo credydau wedi ei gymeradwyo, o dan baragraff 5 uchod, caiff y Brifysgol gyfrifo lleihad pro-rata i'r terfyn amser cyffredinol ar gyfer yr ymgeisydd unigol. Rhoddir gwybod i’r ymgeisydd am y terfyn amser hwn ar y dechrau.)

Methu

8.  Yn unol â disgresiwn y Bwrdd Arholi, gellir caniatáu i fyfyrwyr Rhan Un (blwyddyn 1 fel rheol) hyd at dair* ymgais i adfer modiwl a fethwyd. Bydd myfyrwyr yn gymwys am y marc pasio lleiaf o 40% wrth ailsefyll yn Rhan Un. Caniateir dwy ymgais bellach i fyfyrwyr Rhan Dau ailsefyll modiwl a fethwyd. Dim ond y marc pasio lleiaf (h.y. 40%) y gellir ei ddyfarnu iddynt ym mhob modiwl o'r fath, waeth beth fo lefel wirioneddol eu perfformiad.

Dyfarnu

9.  Gellir dyfarnu cymhwyster ymadael (Tystysgrif Addysg Uwch) i ymgeiswyr sydd wedi dilyn 120 o gredydau o leiaf ond sy'n canfod eu hunain yn methu, wedi hynny, â chwblhau'r cynllun (neu na chaniateir iddynt ei gwblhau).

10.  I fod yn gymwys i'w ystyried neu i'w hystyried am ddyfarniad Gradd Sylfaen, bydd ymgeisydd wedi:

  • dilyn cynllun astudio cymeradwyedig am y cyfnod a bennir gan y Brifysgol, ac eithrio fel y darperir gan Reoliad 4 uchod;
  • dilyn 240 o gredydau o leiaf, y bydd o leiaf 120 ohonynt ar Lefel 2 AU / Lefel 5 FfCChC, neu'n uwch;
  • bodloni unrhyw amod(au) pellach sy'n ofynnol gan y Brifysgol.

Rhaid i ymgeiswyr basio 200 o 240 o gredydau sy’n cyfrannu tuag at ddyfarnu y Radd Sylfaen. Ni chaiff myfyrwyr fethu mwy nag 20 credyd yn eu Blwyddyn Olaf.

11.  Wrth bennu a ellir dyfarnu Gradd Sylfaen i ymgeisydd, bydd Byrddau Arholi yn dilyn y confensiynau a gymeradwywyd gan y Brifysgol. Gall y confensiynau hyn gynnwys gweithdrefnau neu fecanweithiau er mwyn i'r Bwrdd Arholi ymarfer disgresiwn. Gall Bwrdd Arholi gymryd i ystyriaeth ddatblygiad academaidd yr ymgeisydd drwy gydol y cynllun astudio.

12.  Dyfernir i ymgeiswyr am radd sylfaen sydd wedi bodloni gofynion y cynllun radd yn un o’r dosbarthiadau isod:

  •  Pasio
  • Teilyngdod
  • Rhagoriaeth

 

 

 

 

CBB

Medi 2017