Rheoliadau ar gyfer Gradd Athro mewn Athroniaeth (MPhil)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rheoli dyfarnu gradd Athro mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, sef y Brifysgol o hyn ymlaen. Maent yr un mor berthnasol hefyd i’r radd LLM drwy Ymchwil.

Gall gradd Athro mewn Athroniaeth gael ei dyfarnu gan y Brifysgol i gydnabod y llwyddwyd i gwblhau cwrs astudio ac ymchwilio pellach y bernir bod ei ganlyniadau yn werthusiad a dadansoddiad beirniadol o gorff o wybodaeth ac/neu yn gyfraniad gwreiddiol at wybodaeth.
Wedi iddynt gwblhau MPhil, bydd graddedigion wedi cyrraedd o leiaf Lefel M, fel y’i diffinnir gan Fframwaith yr ASA ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch yn Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Dulliau Astudio

1. Gall ymgeisydd astudio ar gyfer y radd drwy gyfrwng un o'r dulliau canlynol:

A. drwy wneud ymchwil lawn-amser yn y Brifysgol;
B. drwy wneud ymchwil lawn-amser mewn man cyflogaeth allanol;
C. drwy wneud ymchwil ran-amser yn y Brifysgol;
D. drwy wneud ymchwil ran-amser yn allanol;
E. drwy wneud ymchwil ran-amser yn y Brifysgol fel aelod llawn-amser neu ran-amser o'r staff.

2. Mae’n bosibl, mewn achosion addas, i drosglwyddo o un dull o’r rheoliadau i un arall, e.e. o lawn-amser (Dull A) i ran-amser (Dull C) ac fel arall. Mewn achosion o’r fath, bydd y Brifysgol yn pennu isafswm cyfnod astudio diwygiedig ac yn gosod y dyddiad cynharaf y caniateir cyflwyno’r traethawd ymchwil.

3. Yn achos aelodau o staff rhan-amser, cyfyngir ymgeisyddiaeth i aelodau o staff dan gontract a chanddynt radd, neu gymhwyster cyfatebol, sydd â chontract rheolaidd o gyflogaeth am gyflog sy’n cyfateb i o leiaf draean o gyflog aelod llawn-amser yn y categorïau staff priodol.

Cymhwystra

4. Rhaid i ymgeisydd am radd MPhil feddu ar un o'r cymwysterau canlynol cyn dechrau ei ymchwil neu ei hymchwil:

(a) gradd gychwynnol o Brifysgol Aberystwyth;
(b) gradd gychwynnol o Brifysgol arall a gymeradwywyd at y diben hwn;
(c) cymhwyster nad yw'n radd y mae'r Brifysgol wedi barnu ei fod yn cyfateb i radd.

Rhaid i ddarpar ymgeisydd a chanddo/a chanddi eisoes radd ddoethurol allu dangos bod y cynllun MPhil mewn maes ymchwil gwahanol i’r un y dyfarnwyd y PhD (neu radd ddoethurol arall) amdano.

5. Beth bynnag fo cymwysterau ymgeisydd, rhaid i'r Brifysgol fodloni ei hun fod ymgeisydd o'r safon academaidd sy'n ofynnol er mwyn cwblhau'r cynllun ymchwil arfaethedig.

6. Mae’n ofynnol i’r holl ymgeiswyr fatricwleiddio gyda’r Brifysgol. Mae’r Brifysgol yn darparu rhestr o safonau a gymeradwywyd a fydd yn caniatáu mynediad i ymgeisyddiaeth am un o raddau uwch y Brifysgol. Cynhwysir y rhestr hon yn y “Rheoliadau ar gyfer Cymeradwyo Cymwysterau a/neu Brofiad Perthnasol ar gyfer Derbyn i Raddau, Diplomâu a Thystysgrifau Uwch Prifysgol Aberystwyth”.
Yn achos ymgeisydd nad oes ganddo/ganddi gymhwyster mynediad cydnabyddedig, rhaid i’r Adran dan sylw wneud argymhelliad arbennig ar gyfer ei d(d)erbyn i’r Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion a rhaid i’r gymeradwyaeth gael ei chadarnhau cyn bod cynllun astudio arfaethedig yr ymgeisydd yn cychwyn.

Cyfnodau Cofrestru

7. Rhaid i’r ymgeisydd ymrestru naill ai fel myfyriwr llawn-amser neu ran-amser yn y Brifysgol, talu’r ffi briodol a bennir a dilyn y cynllun am yr isafswm cyfnod a ddiffinnir isod:

Dulliau A a B:
Isafswm cyfnod: blwyddyn
Dulliau C, D ac E:
Isafswm cyfnod: dwy flynedd

Serch yr uchod, gall yr Adran ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd wneud ymchwil am gyfnod hwy na’r cyfnodau isafswm hyn.

8. Er mwyn caniatáu i'r arholiad gael ei gwblhau, gall ymgeisydd blwyddyn gyflwyno traethawd ymchwil, ar y cynharaf, bythefnos cyn i'r cyfnod astudio ddod i ben. Gall ymgeisydd dwy flynedd gyflwyno traethawd ymchwil, ar y cynharaf, chwe mis cyn i'r cyfnod astudio ddod i ben, h.y. flwyddyn a hanner ar ôl y dyddiad cofrestru cychwynnol. Bydd ffioedd dysgu, fodd bynnag, yn ddyledus am yr holl gyfnod cofrestru.

Lle mae gofyn i’r ymgeisydd gyflawni cyfnod ychwanegol o ymchwil (fel y'i disgrifir o dan baragraff 7 uchod), estynnir dyddiad cyflwyno cynharaf yr ymgeisydd yn ôl cyfnod o amser sy'n gyfartal o ran hyd i hyd y cyfnod astudio ychwanegol.

Terfynau Amser

9. Daw ymgeisyddiaeth i ben os na chyflwynir traethawd ymchwil, yn y ffurf a’r modd a bennir yn y rheoliadau, erbyn y terfynau amser canlynol:

(a) Dulliau A a B – dwy blynedd o ddechrau swyddogol cyfnod astudio'r ymgeisydd fel myfyriwr ymchwil, fel y'i pennir ym mharagraff 6 uchod.
(b) Dulliau C, D ac E – pedair blynedd o ddechrau swyddogol cyfnod astudio'r ymgeisydd fel myfyriwr ymchwil, fel y'i pennir ym mharagraff 6 uchod.

Gall y terfynau amser uchod gael eu hymestyn gan y Brifysgol, ond mewn achosion eithriadol yn unig ac yn unol â meini prawf a bennir yn y Rheoliadau ar gyfer Cyflwyno Traethodau Ymchwil am Raddau Ymchwil a’u Harholi. Rhaid i gais rhesymedig, wedi ei ategu gan dystiolaeth annibynnol briodol, gael ei gyflwyno gan adran yr ymgeisydd i'r Brifysgol ei ystyried.

D.S. I fyfyrwyr a dderbyniwyd o fis Medi 2018, mae’r Cyfyngiadau Amser canlynol ar gyfer Cwblhau, gan gynnwys unrhyw gyfnodau o dynnu’n ôl dros dro ac estyniadau a gymeradwywyd gan Bennaeth Ysgol y Graddedigion, yn berthnasol:

O’r dyddiad cofrestru cychwynnol tan eich bod yn cyflwyno’r traethawd ymchwil i’w arholi am y tro cyntaf:

MPhil/LLM Ymchwil amser-llawn: pedair blynedd
MPhil/LLM Ymchwil rhan-amser: chwe blynedd

Gellir cael estyniadau i’r cyfyngiadau hyn gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil) o dan yr amod:

1. Bod tystiolaeth o amgylchiadau arbennig yn cael ei chyflwyno
2. Bod adran y myfyriwr yn cadarnhau bod y prosiect ymchwil yn parhau i fod yn gyfredol ac yn ddichonadwy a bod y myfyriwr yn gallu cwblhau’r prosiect o fewn cyfnod yr estyniad.

Goruchwylio

10. Rhaid i'r Brifysgol sicrhau bod ymgeiswyr yn cael eu goruchwylio, yn rheolaidd ac yn barhaus, yn unol â'i gweithdrefnau cyffredinol ar gyfer goruchwylio uwchraddedigion.

11. Ar gyfer pob ymgeisyddiaeth, rhaid i'r Brifysgol gymeradwyo tîm o oruchwylwyr yn cynnwys o leiaf un prif oruchwylydd ac ail oruchwylydd, a enwebir gan Adran yr ymgeisydd.

• Fel arfer bydd y prif oruchwylydd yn aelod llawn-amser o staff academaidd y Brifysgol;
• Fel arfer, bydd yr ail oruchwylydd yn aelod llawn-amser o staff academaidd y Brifysgol neu sefydliad neu gorff cydweithrediadol.

Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod y gweithdrefnau ar gyfer goruchwylio uwchraddedigion ar gael i fyfyrwyr a goruchwylwyr trwy gyfrwng y Codau Ymarfer a’r Llawlyfr Goruchwylwyr.
Hyd y Traethawd Ymchwil, a’i Gyflwyno

12. Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau ei (h)ymchwil drwy gyflwyno traethawd ymchwil (fel arfer heb fod yn hwy na 60,000 o eiriau o ran hyd, heb gynnwys cyfeiriadau ac atodiadau) sy'n ymgorffori canlyniadau'r ymchwil, o fewn y terfynau amser penodedig.

13. Bydd angen Bwrdd Arholi wedi ei gyfansoddi’n briodol i gynnal arholiad llafar ar gyfer yr ymgeisydd MPhil sy’n cyflwyno traethawd ymchwil i’w arholi. Er hynny, fe allai’r gofyniad hwn gael ei hepgor ar ddisgresiwn y Bwrdd Arholi, wrth arholi traethawd ymchwil sydd wedi ei ailgyflwyno a bod yr arholwyr yn argymell pasio’n glir heb newidiadau, neu gyda chywiriadau neu newidiadau mân iawn yn unig. Dan amgylchiadau eraill eithriadol, gellir hepgor arholiad llafar ar gyfer ailgyflwyno gyda chymeradwyaeth y Bwrdd Arholi a Phennaeth Ysgol y Graddedigion.

14. Rhaid i ymgeiswyr lofnodi datganiad yn ardystio na dderbyniwyd y gwaith a gyflwynir yn ei hanfod am unrhyw radd neu ddyfarniad, ac nad yw'n cael ei gyflwyno ar yr un pryd mewn ymgeisyddiaeth am unrhyw radd neu ddyfarniad arall. Rhaid cynnwys y datganiad, wedi ei lofnodi, ym mhob copi o'r gweithiau a gyflwynir i'w harholi.

15. Rhaid i'r Brifysgol sicrhau bod ffurf cyflwyno ac arholi'r traethawd ymchwil yn cydymffurfio â Rheoliadau'r Brifysgol ar gyfer Cyflwyno Traethodau Ymchwil a’u Harholi.
Cynlluniau Gradd yn y Celfyddydau Creadigol

16. Yn achos ymgeiswyr sy'n dilyn cynlluniau gradd ymchwil cymeradwyedig sy'n syrthio o fewn maes pwnc Celfyddydau Creadigol a Pherfformiadol y Brifysgol, gall y traethawd ymchwil fod ar un neu ragor o'r ffurfiau canlynol: arteffact, sgôr, testun, portffolio o weithiau gwreiddiol, perfformiad neu arddangosfa. Rhaid cyflwyno, ar y cyd â’r gwaith, sylwadaeth sy'n ei osod yn ei gyd-destun academaidd, ynghyd ag unrhyw eitemau eraill a all fod yn ofynnol (e.e. catalog neu recordiad sain neu weledol).

Ym mhob achos, rhaid i'r hyn a gyflwynir a'r sylwadaeth ysgrifenedig fod wedi'u rhwymo, a'r eitemau eraill sy'n ofynnol (e.e. tâp neu gyfryngau eraill) wedi'u hamgáu mewn cynhwysydd sy'n addas i'w storio ar silff llyfrgell ac yn dwyn yr un wybodaeth ar y meingefn ag sy'n ofynnol ar feingefn traethawd hir neu draethawd ymchwil. Rhaid lleoli'r wybodaeth hon fel y bydd yn rhwydd i’w darllen ar y cynhwysydd yn y safle lle caiff ei storio.