Rheoliadau ar gyfer Graddau Meistr Proffesiynol ac ar sail Ymarfer trwy Arholiad a Thraethawd Ymchwil neu Bortffolio

Mae’r rheoliadau hyn yn llywodraethu dyfarnu Graddau Meistr mewn ymarfer proffesiynol (Meistr Proffesiynol – MProf yw’r enw generig – neu ddyfarniad ac iddo enw penodol) ym Mhrifysgol Aberystwyth. Caiff Graddau Meistr Proffesiynol ac ar sail Ymarfer eu dyfarnu i gydnabod cwblhau’n llwyddiannus raglen astudio trwy gwrs gymeradwyedig, ynghyd â chwblhau prosiect ymchwil yn y gweithle yn llwyddiannus.

Fel arfer, bydd prosiectau ymchwil yn y graddau Meistr Proffesiynol yn cael eu lleoli ym mhroffesiwn neu faes ymarfer yr ymgeisydd. Mewn graddau Meistr ymarferwyr neu faes ymarfer, bydd allbwn yr ymgeisydd yn cwmpasu deunyddiau sy’n gysylltiedig ag ymarfer. Er enghraifft, yn y celfyddydau perfformio, mae’r allbwn yn cynnwys elfen ysgrifenedig, sy’n cyd-fynd â’r elfen ymarfer ac yn cynnwys myfyrio a chyd-destun, ac un neu ddau arteffact arall, megis nofel (ar gyfer ysgrifennu creadigol), portffolio o waith (ar gyfer celf a dylunio), neu un neu ragor o ddarnau perfformio (ar gyfer astudiaethau theatr, dawns neu gerddoriaeth).

Mae gwreiddiau graddau Meistr Proffesiynol mewn disgyblaeth academaidd yn ogystal â phroffesiwn (addysg, y gyfraith ac yn y blaen). Bydd ymgeiswyr y mae eu gwaith ymchwil yn seiliedig ar ymarfer yn unig, ac nad ydynt yn gweithio mewn maes proffesiynol sy’n perthyn i faes academaidd, ac sy’n treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn dysgu yn y gweithle yn hytrach na chyda’r darparwr addysg uwch yn fwy tebygol o gwblhau gradd Meistr ar sail ymarfer. Yn achos graddau Meistr ar sail ymarfer a Meistr Proffesiynol, gall ymchwil yr ymgeisydd arwain yn uniongyrchol at newid sefydliadol neu newid polisi.

Diben y radd yw galluogi gweithwyr proffesiynol cymwys i ymwneud â Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar lefel uchel ac i astudio am radd Meistr tra eu bod hefyd yn gyflogedig ac â chyswllt clòs â’u proffesiwn/gweithle.

Gall y radd MProf fod yn gymhwyster annibynnol neu’n bwynt gadael oddi mewn i raglen Doethuriaeth Broffesiynol. Yn achos yr olaf, byddai’r MProf yn ffurfio Rhan Un rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol (DProf).

Bydd graddau o’r fath yn cael eu dyfarnu i fyfyrwyr sydd wedi dangos bod ganddynt:

• ddealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu syniadau newydd, y mae llawer ohonynt ar flaen y gad ym maes eu hymarfer proffesiynol, neu’n seiliedig arno
• ddealltwriaeth gynhwysfawr o dechnegau y gellir eu defnyddio ar gyfer eu gwaith ymchwil neu ysgolheictod uwch
• wreiddioldeb wrth ddefnyddio gwybodaeth, yn ogystal â dealltwriaeth ymarferol o sut y defnyddir technegau ymchwilio ac ymholi traddodiadol i greu a dehongli gwybodaeth yn y ddisgyblaeth neu faes ymarfer proffesiynol neu sy’n debygol o arwain at newid proffesiynol neu sefydliadol yng ngweithle/proffesiwn y myfyriwr;
• ddealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr i gloriannu’n feirniadol ymchwil cyfredol ac ysgolheictod uwch yn y ddisgyblaeth a/neu i gloriannu methodolegau a datblygu beirniadaethau ohonynt a, lle bo’n briodol, i gynnig damcaniaethau newydd.

Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu:

• ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol, barnu’n gadarn yn absenoldeb data cyflawn, a gallu cyfathrebu eu casgliadau yn glir i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol
• arddangos hunangyfeiriad a gwreiddioldeb wrth fynd i’r afael â phroblemau a’u datrys, a gweithredu yn ymreolus wrth gynllunio a gweithredu tasgau ar lefel broffesiynol neu lefel gyfatebol
• parhau i wella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, ac i ddatblygu sgiliau newydd i lefel uwch.

A bydd gan ddeiliaid:

y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer mynediad i, neu ddatblygiad proffesiynol parhaus oddi mewn i, broffesiwn neu gyflogaeth penodol, gan gynnwys

• defnyddio menter ac arfer cyfrifoldeb personol
• gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy
• y gallu i ddysgu’n annibynnol

Caiff graddau Meistr Proffesiynol eu hasesu trwy gwblhau modiwlau a ddysgir a gwaith prosiect ymchwil a fydd yn dangos i ba raddau y mae’r ymgeisydd yn deall technegau cyfredol yn y pwnc, er enghraifft trwy arddangos ymgysylltu â, a’r defnydd o, ddulliau ymchwil a sut maent yn hysbysu neu’n arwain at newid mewn ymarfer proffesiynol.

Ar ôl cwblhau Meistr Proffesiynol (MProf), bydd graddedigion wedi cyflawni Lefel 7, fel y’i diffinnir gan Fframwaith yr ASA ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch Cyrff Dyfarnu Graddau’r DU Hydref 2014.

Rheoliadau

Mynediad

1. Rhaid i ymgeiswyr fod mewn cyflogaeth berthnasol neu’n ymwneud ag ymarfer proffesiynol perthnasol. I gael eu derbyn, rhaid iddynt NAILL AI ddal un o’r cymwysterau canlynol cyn dechrau’r cynllun:

(a) gradd gychwynnol o’r Brifysgol;
(b) gradd gychwynnol a ddyfarnwyd gan gorff dyfarnu cymeradwyedig arall;
(c) cymhwyster anraddedig neu fod wedi cwblhau modiwlau uwchraddedig y mae’r Brifysgol wedi barnu eu bod o safon foddhaol at ddiben derbyn uwchraddedigion.

NEU gellir eu derbyn ar sail eu hoed a phrofiad perthnasol yn ôl tystiolaeth cyhoeddiadau, adroddiadau neu bortffolio o dystiolaeth briodol arall.

2. Ni waeth beth fo cymwysterau’r ymgeisydd, rhaid i’r sefydliad fodloni ei hun fod yr ymgeisydd o’r safon academaidd sy’n ofynnol i gwblhau’r cynllun astudio arfaethedig.

3. Rhaid i ddarpar ymgeisydd sydd eisoes yn meddu ar radd ddoethur ddangos bod y cynllun Gradd Meistr y bwriedir ei ddilyn mewn gwahanol faes astudio i’r maes y dyfarnwyd gradd ddoethur ar ei gyfer.

4. Rhaid i’r holl ymgeiswyr gofrestru fel myfyrwyr yn y Brifysgol ar ddechrau’r rhaglen a thalu’r ffioedd priodol.

Strwythur y Cynllun a’r Dyfarniadau

5. Bydd ymgeiswyr yn dilyn cynllun astudio modiwlar, gan ddechrau ar y dyddiad dechrau priodol a gymeradwyir ar gyfer y cynllun.

6. Caiff ymgeiswyr ymgymhwyso am Radd Meistr Proffesiynol Modiwlar wedi iddynt gwblhau’n llwyddiannus 180 o gredydau FfCChC Lefel 7 (sef y Lefel M Addysg Uwch yn flaenorol) ar gynllun astudio modiwlar cymeradwyedig a ddarperir yn amser llawn, yn rhan-amser neu trwy ddysgu o bell. Beth bynnag fo’r dull dysgu, bydd cynnwys academaidd cynlluniau yn briodol ar gyfer astudiaethau Lefel 7 a rhaid i’r asesiad gynnwys prosiect ymchwil yn y gweithle neu’r hyn sy’n cyfateb ac sy’n gymeradwyedig i hynny.

7. Efallai na chaiff ymgeiswyr a dderbynnir i gynllun Gradd Meistr Proffesiynol Modiwlar ymgymhwyso am ddyfarniadau canolradd y Brifysgol.

8. Bydd y modiwlau a ddysgir yn cwmpasu gwerth hyd at 120 o gredydau a gymeradwyir gan y Brifysgol. Bydd elfen y prosiect, neu’r elfen gymeradwy gyfatebol, gwerth o leiaf 60 credyd.

Trosglwyddo Credydau

9. Ni chaiff mwyafswm y credydau y gellir eu trosglwyddo i gynlluniau astudio fod yn uwch na 60. Rhaid i weddill y credydau sydd i’w dilyn fod ar Lefel 7 FfCChC, (Lefel M Addysg Uwch yn flaenorol). Ni cheir priodoli credyd trosglwyddadwy i’r prosiect neu elfen gymeradwy gyfatebol cynllun. O fewn y terfynau hyn, gall y Brifysgol, yn ôl ei disgresiwn, farnu bod perfformiad myfyriwr mewn unrhyw ddysgu blaenorol drwy brofiad perthnasol yn cyfrif tuag at y gofynion ar gyfer dyfarnu Gradd Meistr modiwlar.

Asesu

10. Caiff modiwlau eu hasesu fesul un, yn unol â’r dulliau asesu cymeradwyedig.

11. Caiff y prosiect ei gyflwyno ar ffurf traethawd hir neu waith cyfatebol heb fod yn fwy na 15,000 o eiriau.

12. Rhaid i fyfyrwyr basio o leiaf 160 o gredydau ac ennill marc o 50% am y cyfan ar gyfartaledd, er mwyn ymgymhwyso ar gyfer dyfarniad gradd Meistr a/neu symud ymlaen i Ran Dau Gradd Ddoethurol (DProf).

13. Y marc pasio modiwlar fydd 50%. Bydd y Byrddau Arholi yn dyfarnu marciau cyffredinol yn unol â’r graddfeydd canlynol:

70% a throsodd: Lefel rhagoriaeth
60 - 69%: Lefel teilyngdod
50 - 59%: Pasio
0 - 49%: Methu

14. Er mwyn cael gradd Meistr â Rhagoriaeth rhaid i ymgeisydd ennill marc cyfartaledd wedi’i bwysoli o 70% o leiaf am y cyfan. Gall ymgeiswyr nad ydynt yn cwrdd â’r gofynion ar gyfer Rhagoriaeth ond sy’n ennill marc cyffredinol ar gyfartaledd o 60% neu ragor ennill gradd Meistr â Theilyngdod. Esbonnir y gofynion hyn yn y Confensiynau Arholi ar gyfer cynlluniau uwchraddedig trwy gwrs.

15. Rhaid cwblhau modiwlau a ddysgir fel a bennir gan strwythur y cynllun astudio cymeradwyedig. Rhaid cwblhau’r cynllun gradd llawn, gan gynnwys cyflwyno’r traethawd hir ar y ffurf a bennir, erbyn y cyfnodau canlynol o ddyddiad y cofrestru cychwynnol:

Ymgeiswyr amser llawn: nid mwy na blwyddyn
Noder: yn achos ymgeiswyr amser llawn, bydd y canlyniadau yn cael eu cyflwyno i Fwrdd Arholi ar ôl y dyddiad cau terfynol o flwyddyn ar gyfer ystyried yr holl ymgeiswyr, hyd yn oed os bydd myfyrwyr unigol yn cyflwyno’r traethawd hir yn gynnar
Ymgeiswyr rhan-amser: nid mwy na 3 blynedd

Methu ac Adfer

16. Ni chaiff ymgeiswyr ailsefyll unrhyw fodiwl nac uned asesu yr enillwyd marc pasio amdano yn flaenorol.

Er hynny, caiff ymgeiswyr sydd, gyda chytundeb Bwrdd Arholi’r Senedd, yn ailsefyll blwyddyn astudio lawn wneud hynny am yr union farciau a enillir ar yr amod bod y marciau blaenorol yn cael eu hildio’n llawn o’r cychwyn.

17. Gellir ailarholi ymgeiswyr sy’n ennill llai na 50% mewn modiwl yn y modiwl hwnnw un tro arall, a hynny o fewn y terfyn amser cyffredinol a bennir ar gyfer y cynllun. Ni fydd ymgeiswyr a ailarholir mewn modiwl yn gymwys ond am y marc pasio moel (h.y. 50%). Os derbynnir bod amgylchiadau arbennig wedi effeithio ar berfformiad, gellir caniatáu ailsefyll ar gyfer y marc llawn.

Ffurfiau’r Prosiect ac Adfer Methiannau

18. Gall y prosiect ymchwil fod ar ffurf prosiect/traethawd hir ond gellir ei gymeradwyo hefyd mewn ffurfiau eraill sy’n bodloni canlyniadau dysgu’r cynllun gradd ym marn Panel Cymeradwyo’r Cynllun. Er enghraifft, gall cynlluniau’r Celfyddydau Creadigol a Pherfformiadol fod ar ffurf arteffact, sgôr, portffolio o weithiau gwreiddiol, perfformiad neu arddangosfa, ynghyd â sylwebaeth ysgrifenedig sy’n ei osod yn ei gyd-destun academaidd, ac unrhyw eitemau eraill a all fod yn ofynnol (e.e. catalog neu recordiad sain neu weledol).

Dylid cymryd bod cyfeiriadau yn y paragraffau canlynol at ‘brosiect’ yn cynnwys unrhyw ffurfiau cyfatebol o gyflwyno/asesu a fanylir yn y paragraff hwn.

19. Mae ymgeiswyr yn rhydd i gyhoeddi’r cyfan, neu ran, o’r gwaith a gynhyrchir yn ystod cyfnod cofrestru’r ymgeiswyr yn y Brifysgol cyn iddynt ei gyflwyno yn ei gyfanrwydd, neu fel rhan o draethawd hir, ar yr amod na ddatgenir yn unman yn y gwaith cyhoeddedig ei fod yn cael ei ystyried am radd uwch. Caiff unrhyw gyfryw waith cyhoeddedig ei ymgorffori yn ddiweddarach yn y traethawd hir a gyflwynir i’w arholi.

20. Ni chaiff ymgeiswyr ddiwygio’r traethawd hir, nac ychwanegu ato na dileu oddi wrtho ar ôl iddo gael ei gyflwyno i’w arholi.

21. Wrth gyflwyno traethawd hir, rhaid i’r holl ymgeiswyr ddatgan i ba raddau y mae’n ganlyniad i’w gwaith neu i’w harchwiliad hwy eu hunain, a rhaid iddynt nodi unrhyw rannau y maent yn ddyledus i ffynonellau eraill amdanynt. Dylid rhoi cyfeiriadau clir, a rhaid atodi llyfryddiaeth lawn wrth y gwaith.

22. Wrth gyflwyno traethawd hir, bydd pob ymgeisydd yn tystio nad yw eisoes wedi ei dderbyn yn sylweddol ar gyfer unrhyw ddyfarniad academaidd ac nad yw’n cael ei gyflwyno ar yr un pryd mewn ymgeisyddiaeth ar gyfer dyfarniad arall o’r fath.

23. Os na chyflwynir y traethawd hir o fewn y terfyn amser a bennir gan y Brifysgol (gweler Rheoliad 15 uchod) bernir bod yr ymgeisyddiaeth wedi dod i ben ac ni fydd cyfle arall i gyflwyno.

24. Os bydd yr arholwyr yn methu traethawd hir, caiff yr ymgeisydd ei ailgyflwyno unwaith yn unig. Caiff y dyddiad ar gyfer ailgyflwyno ei gyfathrebu i’r ymgeisydd gyda’r canlyniad a bydd angen ei ailgyflwyno mewn pryd ar gyfer cyflwyno’r marc ailsefyll i’r Bwrdd Arholi 12 mis ar ôl cadarnhau’r canlyniad gwreiddiol. Bydd ffi yn daladwy am arholi’r cyfryw draethawd hir a ailgyflwynir.