Rheol Sefydlog 14
Arholiadau ar gyfer Graddau Cychwynnol
Diffiniadau
Mae'r diffiniadau canlynol yn berthnasol yn achos y Rheol Sefydlog hon (a'r Rheoliadau Prifysgol cyfatebol):
| Term | Diffiniadau |
|---|---|
| PA/y Brifysgol | Prifysgol Aberystwyth. |
| Prifysgol Cymru | Prifysgol Cymru ffederal. |
| Arholiad / Asesiad Prifysgol | Arholiad/asesiad sy'n cyfrannu at ddyfarnu cymhwyster Prifysgol yn Rhan Dau (Lefelau D a H Fframwaith yr ASA ar gyfer Cymwysterau AU) a graddau Meistr Integredig. |
| Ymgeisydd allanol | Ymgeisydd sydd wedi methu rhan o asesiad neu asesiad cyfan ac sydd wedi cael caniatâd y Bwrdd Arholi i ailgofrestru at bwrpas asesu yn unig. |
Mynediad
- 1.
- Caiff ymgeiswyr eu derbyn i gynlluniau astudio y Prifysgol yn unol â'i Rheoliadau.
Gwybodaeth i'w Rhoi i Ymgeiswyr
- 2.
- Bydd y Brifysgol yn cyhoeddi, er gwybodaeth yr ymgeiswyr:
- y dulliau asesu a ddefnyddir yn eu modiwlau, gan gynnwys y pwysoliad a roddir i gydrannau asesu unigol;
- gwybodaeth am Weithdrefn Ddilysu ac Apelio'r Brifysgol;
- gwybodaeth am y weithdrefn i'w dilyn os cyfyd honiadau o ymddygiad annheg;
- datganiad bod yn rhaid rhoi gwybod am unrhyw amgylchiadau personol eithriadol a allai fod wedi amharu ar eu perfformiad academaidd i'r Bwrdd/Byrddau Arholi priodol cyn i'r Byrddau Arholi gyfarfod.
Prif Arolygydd yr Arholiadau
- 3.
- Bydd Prif Arolygydd yr Arholiadau yn gyfrifol am y modd y cynhelir arholiadau/asesiadau yn y Brifysgol, yn ogystal â'u cywirdeb a'u diogelwch. Bydd cyfrifoldebau'r Prif Arolygydd yn cynnwys:
- enwebu goruchwylwyr a gwneud trefniadau ar gyfer goruchwylio arholiadau (fel bod un goruchwylydd yn gweithredu ar gyfer pob grwp o hanner cant o ymgeiswyr neu lai fel arfer);
- gwneud trefniadau priodol i ddelio â'r sawl sy'n absennol o arholiadau/asesiadau yn unol â darpariaethau'r Rheol Sefydlog hon, gan gynnwys hysbysu Byrddau Arholi o achosion a chofnodi ac adrodd achosion o'r fath;
- ar derfyn arholiadau, anfon adroddiad at y Brifysgol ar y dull y maent wedi eu cynnal, gan nodi unrhyw drafferthion a allai fod wedi codi ac ymgorffori unrhyw awgrymiadau am welliannau yn y modd y'u cynhelir. Dylai'r adroddiad hwn hefyd roi manylion ynglyn ag unrhyw drefniadau arbennig a wnaed mewn perthynas ag achosion o absenoldeb o arholiadau ac, yn unol â'r paragraff isod, mewn perthynas ag arholiadau a gynhaliwyd mewn sefydliad/man cymeradwy arall.
- 4.
- Bydd pob ymgeisydd yn cael ei arholi yn Aberystwyth, ac eithrio'r ffaith, o dan amgylchiadau eithriadol a chyda chymeradwyaeth yr Is-Ganghellor, y gall ymgeisydd sefyll arholiad ysgrifenedig mewn sefydliad cymeradwy arall neu, dan amodau wedi'u cymeradwyo, mewn sefydliad neu le arall tebyg. Gellir cymeradwyo ceisiadau o'r fath ar yr amod bod modd i Brif Arolygydd yr Arholiadau wneud trefniadau boddhaol ar gyfer yr arholiad; bod yr arholiad yn cael ei sefyll ar yr un pryd â'r papur yn Aberystwyth os yw'r un papur i'w sefyll gan ymgeiswyr eraill; a bod yr ymgeisydd yn talu unrhyw gostau sy'n codi.
- 5.
- Caiff unrhyw ymgeisydd ddewis cyflwyno sgriptiau arholiad neu waith i'w asesu yn y Gymraeg neu'r Saesneg - ni waeth ai'r Gymraeg ynteu'r Saesneg yw prif iaith asesu'r cynllun o dan sylw. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr sy'n dymuno cael eu hasesu mewn iaith (h.y. naill ai'r Gymraeg neu'r Saesneg) heblaw prif iaith yr hyfforddi ar gyfer y modiwl dan sylw hysbysu'r Cofrestrydd erbyn y terfyn amser a bennir gan y Brifysgol (8 Tachwedd ar gyfer asesiadau Semester 1 ac 14 Mawrth ar gyfer Semester 2).
- 6
- Bydd y Prif Arolygydd (neu'r sawl a enwebwyd ganddo/i) yn cydgysylltu yn ôl y galw ynghylch:
- darparu papurau cwestiwn drwy gyfrwng y Gymraeg;
- y trefniadau angenrheidiol ar gyfer cyfieithu a/neu farcio sgriptiau mewn pryd er mwyn i ganlyniadau'r ymgeiswyr gael eu cynnwys ar y ffurflen Hysbysu Canlyniadau swyddogol;
- cyflogi person neu bersonau addas i weithredu fel arholwyr ymgynghorol neu (am ffi a gymeradwyir) fel cyfieithwyr.
Paratoi Papurau Arholiad
- 7.
- Bydd Adrannau yn gyfrifol am baratoi papurau arholiad gyda chymeradwyaeth yr arholwr/arholwyr allanol perthnasol.
Newidiadau i Drefniadau Arholi/Asesu
- 8.
- Bydd y Pryifysgol yn gwneud newidiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr sydd ag anghenion penodol, yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth sydd mewn grym ar y pryd ac ar amod cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr.
Cynnal Arholiadau
- 9.
- Rhaid i oruchwylwyr beidio â derbyn unrhyw ymgeisydd i'r ystafell arholiadau heb awdurdod Prif Arolygydd yr Arholiadau.
- 10.
- Yn ystod yr arholiad cyfan, rhaid i'r goruchwylwyr gadw goruchwyliaeth gyson dros yr ymgeiswyr a sicrhau bod yr ymgeiswyr yn cael y deunyddiau angenrheidiol. Rhaid iddynt archwilio pob deunydd y deuir ag ef i'r ystafell arholiadau gan yr ymgeiswyr a sicrhau bod pob ymgeisydd yn cydymffurfio â'r "Cyfarwyddiadau i Ymgeiswyr".
- 11.
- Ni chaiff unrhyw ymgeisydd ddod i mewn i'r ystafell arholiadau hanner awr neu fwy ar ôl i arholiad ddechrau. Ni chaniateir i ymgeiswyr ymadael ag ystafell yr arholiad nes bod o leiaf dri chwarter awr wedi mynd heibio, ac ni chânt ymadael ychwaith yn ystod chwarter awr olaf yr arholiad. Ni chaniateir i unrhyw ymgeisydd sydd wedi ymadael â'r ystafell heb awdurdod y goruchwylydd ddod yn ôl i'r ystafell yn ystod yr arholiad. O dan amgylchiadau arbennig, gall y goruchwylwyr weithredu yn ôl eu disgresiwn a rhaid cyflwyno adroddiad ar yr amgylchiadau i Brif Arolygydd yr Arholiadau. Ni chaiff unrhyw ymgeisydd fynd ag unrhyw gopi o bapur arholiad allan o'r ystafell arholi am o leiaf dri chwarter awr ar ôl dechrau'r arholiad.
- 12.
- Yn ystod pob arholiad bydd gan y goruchwylwyr bwer i gau pawb allan o'r ystafell arholiadau heblaw swyddogion y Brifysgol a'r ymgeiswyr sy'n sefyll yr arholiad. Rhaid i'r goruchwylwyr atal unrhyw gyfathrebu diawdurdod ar ran yr ymgeiswyr ymhlith ei gilydd neu gydag unrhyw berson arall.
- 13.
- Rhaid i oruchwylydd sy'n credu neu yn amau bod ymgeisydd yn ymddwyn yn annheg mewn arholiad roi gwybod i'r ymgeisydd, yng ngwydd tyst os oes modd, y cyflwynir adroddiad am yr amgylchiadau ac y caiff yr ymgeisydd barhau yr arholiad hwnnw ac unrhyw arholiadau eraill heb ragfarnu unrhyw benderfyniad a gymerir, ond ni fydd methiant i roi rhybudd yn rhagfarnu unrhyw gamau dilynol. Lle bo'n briodol, rhaid i'r goruchwylydd gymryd a chadw tystiolaeth sy'n ymwneud ag unrhyw honiad o ymddygiad annheg mewn arholiad, fel ei bod ar gael ar gyfer unrhyw ymchwiliad dilynol. Cyn gynted ag y gellir, rhaid i'r goruchwylydd gyflwyno adroddiad ysgrifenedig am yr amgylchiadau i Gadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol ac i Brif Arolygydd yr Arholiadau.
- 14.
- Rhaid i'r goruchwylydd gasglu'r sgriptiau a threfnu iddynt gael eu trosglwyddo i Brif Arolygydd yr Arholiadau neu i'r sawl a enwebwyd ganddo/i, a fydd wedyn yn trefnu eu trosglwyddo i'r arholwyr priodol, ynghyd â'r copïau a oedd yn weddill o'r papur neu'r papurau arholiad a ffurflen yn rhoi enwau'r ymgeiswyr na wnaethant gyflwyno sgriptiau. Rhaid i'r goruchwylwyr gyflwyno adroddiad i Brif Arolygydd yr Arholiadau ynghylch sut y cafodd yr arholiadau eu cynnal, gan dynnu sylw at unrhyw amgylchiadau arbennig. Rhaid i'r goruchwylydd anfon ffurflen sy'n cynnwys yr wybodaeth hon a datganiad wedi ei lofnodi bod yr arholiad wedi ei gynnal yn unol â'r Rheol Sefydlog hon at Brif Arolygydd yr Arholiadau.
Absenoldeb o Arholiadau ac Asesiadau
- 15.
- Ystyrir bod ymgeisydd yn absennol gydag achos da o arholiad neu asesiad oherwydd salwch sydd wedi ei gofnodi, damwain, profedigaeth agos neu am resymau trugarog pur debyg.
Cynlluniau Astudio Modiwlar
- 16.
- Bydd gan y Bwrdd Arholi dan sylw ddisgresiwn i benderfynu, ar sail y dystiolaeth sydd wedi dod i law, a yw ymgeisydd wedi bod yn absennol gydag achos da.
- 17.
- Caiff ymgeisydd sydd, heb achos da, wedi bod yn absennol o unrhyw un o arholiadau'r Brifysgol neu sydd wedi methu â chwblhau unrhyw fathau eraill o asesu erbyn y dyddiad angenrheidiol, farc o sero am yr asesiad dan sylw. Trinnir y marc sero hwn fel unrhyw farc arall yng ngweithdrefn y Bwrdd Arholi ar gyfer cyfrifo canlyniad y radd. Os yw gweithdrefn y Bwrdd Arholi yn cynnwys ymarfer cyfrif cyfartaledd, rhaid i'r marc sero gael ei gynnwys fel marc. Rhaid i Fyrddau Arholi beidio â chyfrifo marc am yr arholiad a gollwyd drwy gyfrif cyfartaledd marciau eraill yr ymgeisydd na thrwy gyfrifo marc ar sail perfformiad yr ymgeisydd yn ystod y sesiwn. Os cydran yn unig yw'r arholiad a gollwyd o'r asesiad cyffredinol ar gyfer modiwl, rhaid cyfrif y marc a gafwyd yng nghydran arall yr asesiad, pro rata, wrth gyfrifo canlyniadau'r radd.
- 18.
- Os bydd ymgeisydd yn cwblhau modiwl ond ei fod/bod yn absennol o'r arholiad/asesiad dan sylw gydag achos da, gall y Brifysgol ganiatáu i'r ymgeisydd:
- sefyll arholiad atodol neu arholiad llafar arbennig, cyn cyfarfod y Bwrdd Arholi; neu
- sefyll yr arholiad neu gyflwyno'r gwaith sydd i'w asesu fel ymgais gyntaf y tro nesaf y disgwylir cynnal yr arholiad/asesiad.
- 19.
- Os yw'r Bwrdd Arholi yn fodlon bod ymgeisydd yn absennol gydag achos da o arholiad/asesiad terfynol ar ôl iddo/i gael ei gyflwyno/ei chyflwyno i'r Brifysgol, ar yr amod bod y Bwrdd Arholi yn fodlon bod yna seiliau rhesymol, fe all:
- ddyfarnu'r cymhwyster heb arholiad/asesiad pellach ar yr amod bod o leiaf ddau draean o'r modiwlau sy'n cyfrif tuag at y dyfarniad terfynol wedi eu cwblhau'n llwyddiannus; neu
- argymell bod yr ymgeisydd yn cael dyfarniad aegrotat.
- 20.
- Dim ond (i) os yw'r arholwr allanol yn cytuno bod y dystiolaeth ategol yn foddhaol, (ii) os yw perfformiad yr ymgeisydd yn yr arholiadau eraill neu'r gwaith arall sydd i'w asesu yn cyfiawnhau camau o'r fath a (iii) os yw awdurdod yr Is-Ganghellor wedi ei sicrhau y gellir defnyddio'r darpariaethau a ddisgrifir uchod.
- 21.
- Bydd gan Fyrddau Arholi ddisgresiwn i ddefnyddio'r darpariaethau uchod yn achos ymgeiswyr sy'n bresennol mewn arholiadau/asesiadau ond sydd wedyn yn cyflwyno tystiolaeth o salwch, damwain, profedigaeth agos neu seiliau trugarog eraill tebyg iawn.
Adfer Methiannau
- 22.
- Lle bydd yn ofynnol i ymgeisydd ail-wneud yr asesiad ar gyfer un neu ragor o fodiwlau cyn dechrau'r flwyddyn academaidd ganlynol, oni bai bod y Bwrdd Arholi yn penderfynu nad yw'n ymarferol bydd i'r ailasesu yr un strwythur a bydd wedi ei seilio ar yr un maes llafur â'r asesu adeg y methiant gwreiddiol.
- 23.
- Lle caniateir i ymgeisydd ail-wneud un neu ragor o fodiwlau a fethwyd fel ymgeisydd mewnol, rhaid i'r ailasesu fod o'r un strwythur a chael ei seilio ar y maes llafur a ddysgwyd i bob ymgeisydd mewnol adeg yr ailasesu.
- 24.
- Lle bydd ymgeisydd yn ailsefyll yr asesiad fel ymgeisydd allanol, bydd yr ailasesu yr un fath fel rheol ag ar gyfer ymgeiswyr sy'n ei sefyll yn fewnol, oni bai bod y Bwrdd Arholi yn penderfynu fel arall.
- 25.
- Lle bydd ymgeisydd yn ailsefyll yr asesiad fel ymgeisydd allanol a bod strwythur yr asesiad yn wahanol i'r asesiad a gafwyd adeg y methiant gwreiddiol a/neu fod yr ailasesiad i gael ei seilio ar faes llafur gwahanol, rhaid i Bennaeth yr Adran o dan sylw roi gwybod i'r ymgeisydd ymlaen llaw fod strwythur yr asesiad a chynnwys y maes llafur wedi newid.
- 26.
- Caiff ymgeisydd sy'n pasio modiwl y mae ef/hi wedi'i fethu o'r blaen y marc pasio isaf yn unig.
- 27.
- Os bydd ymgeisydd yn methu â chwblhau'r swm angenrheidiol o waith i'w asesu erbyn y dyddiad angenrheidiol, bydd y Bwrdd Arholi yn ei gosbi/chosbi yn unol â'r gyfryw gosb ag a bennir gan reoliadau'r Brifysgol neu fel y gwêl yn briodol o dan yr amgylchiadau. Gall y cosbau gynnwys, ymhlith pethau eraill, gostwng y marc, dyfarnu gradd methu neu fethu'r ymgeisydd yn y modiwl penodol hwnnw neu golli'r cyfle i ailsefyll. Er hynny, lle ceir amgylchiadau esgusodol megis salwch neu ddamwain sydd wedi atal yr ymgeisydd rhag cwblhau gwaith i'w asesu erbyn y dyddiad angenrheidiol, gall y Bwrdd Arholi ganiatáu ymestyn y cyfnod ar gyfer cyflwyno'r gwaith i'w asesu, ar yr amod bod digon o amser i'r gwaith gael ei asesu yn ddigonol ac yn briodol cyn i'r Bwrdd Arholi gyfarfod. Rhaid i dystiolaeth feddygol neu dystiolaeth arall briodol gael ei chyflwyno i'r Cadeirydd neu i'r sawl a enwebir ganddo/ganddi i gadarnhau'r salwch neu'r ddamwain.
Byrddau Arholi
- 28.
- Bydd PCA yn sefydlu Byrddau Arholi i ystyried canlyniadau ac i wneud argymhellion ynghylch ymgeiswyr sy'n dilyn cynlluniau sy'n arwain at ddyfarniadau Prifysgol Cymru. Bydd PCA yn sefydlu confensiynau ar gyfer cyfarfodydd o'r fath a fydd yn cynnwys trefniadau ar gyfer cworwm.
- 29.
- Ym mhob achos, bydd y marciau a ddyfernir yn ddarostyngedig i gadarnhad arholwr neu arholwyr allanol.
- 30.
- Ar gyfer pob Bwrdd Arholi rhaid cael:
- Cadeirydd, a benodir gan y Brifysgol ac a fydd yn uwch-aelod o'r staff academaidd amser llawn. [Yn ychwanegol at y Cadeirydd, fe ellir cael Cynullydd a fydd yn aelod o'r staff academaidd amser llawn, a benodir gan yr Adran dan sylw ac a fydd yn gyfrifol am y trefniadau gweinyddol sy'n gysylltiedig â gwaith y Bwrdd Arholi, a fyddai fel arall yn cael eu gwneud gan y Cadeirydd.];
- Arholwr (neu arholwyr) allanol a benodir ar ran yr Is-Ganghellor gan y Brifysgol;
- Arholwr (neu arholwyr) mewnol a/neu gynrychiolydd/gynrychiolwyr y modiwlau perthnasol a benodir gan y Brifysgol;
- Gall Cadeirydd Bwrdd Arholi wahodd personau priodol i fod yn bresennol mewn cyfarfod Bwrdd Arholi ar sail ymgynghorol. Ni fydd gan bersonau o'r fath unrhyw hawliau pleidleisio.
- 31.
- Rhaid, fel rheol, i bob Bwrdd Arholi gyfarfod yn Aberystwyth yn ôl y gofyn er mwyn ystyried perfformiad myfyrwyr ac i wneud penderfyniadau ar derfynu astudiaethau, symud ymlaen ac argymhellion ynghylch dyfarnu graddau neu ddyfarniadau canolradd fel y bo'n briodol. Y Senedd sydd i benderfynu ar y dyddiad olaf posibl i'r Byrddau Arholi gyfarfod mewn unrhyw sesiwn.
- 32.
- Os bydd unrhyw arholwr yn absennol o gyfarfod heb esboniad, rhaid i'r Cadeirydd gymryd y camau hynny y gwêl yn dda er mwyn i fusnes y cyfarfod gael ei gyflawni yn briodol, ac fe all ei ohirio at y diben hwnnw. Os yw'r Cadeirydd yn absennol, rhaid i'r Bwrdd Arholi benodi un o'i aelodau i'r Gadair
- 33.
- Lle bydd Bwrdd Arholi yn cyfarfod i ystyried canlyniadau modiwlau, dim ond yr unigolion canlynol fydd yn gorfod bod yn bresennol: y Cadeirydd, y Cynullydd (lle bo'n briodol), yr arholwr/arholwyr mewnol perthnasol a'r arholwr allanol (lle bo'r Bwrdd Arholi yn cyfarfod ar ôl prif gyfnod arholi yr haf neu ar ddiwedd y Sesiwn).
- 34.
- Yn ystod Semester Un, rhaid i'r arholwr/arholwyr allanol gyflawni'r holl dasgau sydd fel rheol yn gysylltiedig ag arholi megis cymeradwyo papurau arholiad. Ni fydd yn ofynnol i'r arholwr/arholwyr allanol fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y Bwrdd Arholi ond mae croeso iddo/iddi/iddynt fod. Ymgynghorir drwy ohebu neu drwy gyfrwng priodol arall. Rhaid i'r arholwr/arholwyr allanol fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y Bwrdd Arholi a chyflawni pob swyddogaeth sydd fel rheol yn gysylltiedig ag arholi yn Semester Dau.
Ffurflenni Canlyniadau a Rhestrau Pasio
- 35.
- Rhaid i'r Cofrestrydd roi i bob Bwrdd Arholi ffurflen hysbysu canlyniadau swyddogol mewn perthynas â'r ymgeiswyr hynny sydd wedi eu cyflwyno ar gyfer eu harholiadau terfynol. Yn unol â'r cyfarwyddiadau ar y ffurflen ganlyniadau, rhaid i'r Bwrdd Arholi nodi arni enwau'r ymgeiswyr hynny sy'n pasio'r arholiadau terfynol gyda dosbarthiadau Anrhydedd neu hebddynt lle bo'n briodol. Ar ôl ei llenwi, rhaid i'r Cadeirydd ddychwelyd y ffurflen hysbysu canlyniadau i'r Gofrestrfa ymhen un diwrnod gwaith.
- 36.
- Rhaid i'r ffurflen hysbysu canlyniadau gael ei llofnodi gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi a chan yr arholwr/arholwyr allanol. Yn achos yr arholwyr allanol hynny nad ydynt yn bresennol, rhaid gwneud trefniadau addas iddynt gymeradwyo'r canlyniadau a gynigir.
- 37.
- Pryd bynnag y ceir ymchwiliad i achos o ymddygiad annheg a amheuir adeg darparu'r ffurflen ganlyniadau, cedwir canlyniadau'r ymgeisydd dan sylw yn ôl o'r ffurflen ganlyniadau, a dylid nodi arni ei fod/bod ‘yn destun ymchwiliad ymddygiad annheg'. Dylid darparu a llenwi ffurflen atodol yn nes ymlaen fel y bo'n briodol.
- 38.
- Os ceir achos lle amheuir ymddygiad annheg ar ôl i restr basio gael ei chyhoeddi, a bod yr honiad yn erbyn yr ymgeisydd yn cael ei gadarnhau, yna rhaid i'r Bwrdd/Byrddau Arholi dan sylw adolygu ac ailbenderfynu ar ganlyniad yr ymgeisydd yng ngoleuni unrhyw gosb a allai fod wedi ei gosod. Mewn amgylchiadau o'r fath, os bydd angen rhaid i'r Bwrdd/Byrddau Arholi ddiddymu canlyniad a gyhoeddwyd o'r blaen a rhaid i'r Gofrestrfa ddarparu rhestr basio atodol i'w llenwi fel y bo'n briodol.
- 39.
- Yn achos ymgeiswyr sydd â dyledion sydd heb eu talu i'r Brifysgol, dylid cofnodi canlyniadau a'u cyhoeddi i'r ymgeiswyr. Fodd bynnag, gellir atal tystysgrif y dyfarniad hyd nes y bydd y swm sy'n ddyledus wedi cael ei dalu.
- 40.
- Rhaid i bob Bwrdd Arholi ddilyn confensiynau a gymeradwywyd gan y Brifysgol.
- 41.
- Rhaid trefnu bod cofnod ar gael yn y Bwrdd Arholi o'r marciau a enillwyd gan yr ymgeiswyr yn yr holl waith wedi'i asesu sy'n cyfrannu at y dyfarniad terfynol.
Cyhoeddi Rhestrau Pasio
- 42.
- Rhaid i gopïau gwreiddiol y ffurflenni hysbysu canlyniadau wedi eu llofnodi a dderbynnir oddi wrth y Byrddau Arholi gael eu cadw gan y Brifysgol.
Derbyn Ymgeiswyr i'w Graddau
- 43.
- Ceir manylion llawn y broses sydd i'w dilyn er mwyn derbyn ymgeiswyr i'w graddau yn Rheol Sefydlog 18 (‘Cynulliadau'r Brifysgol a Derbyn Ymgeiswyr i'w Graddau'). Fodd bynnag, yn gryno gellir derbyn ymgeiswyr i'w graddau naill ai
- drwy fod yn bresennol mewn cynulliad gradd ffurfiol neu
- in absentia, drwy ddyfarniad yr Is-Ganghellor Hyn. Y mae hon yn weithdrefn weinyddol a weithredir sawl gwaith drwy gydol y flwyddyn.
Apeliadau
- 44.
- Caiff ymgeiswyr sydd yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad yr arholwyr wneud hynny o dan amodau Gweithdrefn Ddilysu ac Apelio'r Brifysgol.
Dyfarniadau Aegrotat/ar ôl Marwolaeth
- 45.
- Y mae gan y Brifysgol Reoliadau sefydledig sy'n darparu ar gyfer gwneud dyfarniadau aegrotat neu ddyfarniadau ar ôl marwolaeth.
Ebrill 2005