Rheol Sefydlog 20
Is-adran o ddogfen fwy o faint yw'r we-ddalen hon. Dylid felly ei darllen yn ei chyd-destun ac nid fel dogfen annibynnol. I weld y ddogfen gyfan ewch i dudalen y ddewislen.
Arholiadau am Raddau PhD, Doethur drwy Arholiad a Thraethawd, MPhil, a LLM (Ymchwil)
Nodiadau Rhagarweiniol
Mae'r Rheol Sefydlog hon yn dilyn patrwm Rheoliadau'r Brifysgol am raddau uwch drwy ymchwil. Bwriedir i'r Rheol Sefydlog gael ei darllen mewn cysylltiad â'r Rheoliadau perthnasol yng nghyd-destun canllawiau defnyddwyr gan ei bod yn ymhelaethu arnynt, yn enwedig wrth gyfeirio at drefniadau gweinyddol. Mewn unrhyw wrthdaro rhwng y Rheol Sefydlog a Rheoliadau'r Brifysgol, yr olaf fydd mewn grym.
Graddau PhD a Doethur drwy Arholiad a Thraethawd
Dull Ymgeisio
- 1.
- 1. Ymgeisio
- 1.a
- Gall ymgeisydd ymgymhwyso am radd PhD drwy unrhyw un o'r dulliau canlynol a chaiff ei gofrestru o dan un o'r pum adran ganlynol (A-E) o'r Rheoliadau.
- 1.a.a.
- drwy ddilyn ymchwil amser llawn yn y Brifysgol mewn amodau a gymeradwyir gan y Brifysgol ar gyfer dibenion y Rheoliadau hyn;
- 1.a.b.
- drwy ddilyn ymchwil amser llawn mewn man cyflogi allanol;
- 1.a.c.
- drwy ddilyn ymchwil ran amser yn y Brifysgol;
- 1.a.d.
- drwy ddilyn ymchwil ran amser yn allanol;
- 1.a.e.
- drwy ddilyn ymchwil yn y Brifysgol fel aelod amser llawn neu ran amser o'r staff.
- 1.b.
- Gall ymgeisydd ymgymhwyso am radd Doethur drwy Arholiad a Thraethawd drwy un o'r dulliau a nodir yn A-D uchod a chaiff ei (ch)gofrestru o dan adran briodol y Rheoliadau.
- 2.
- Mae modd trosgwyddo, mewn achosion priodol, o un adran o'r rheoliadau i un arall, e.e. o amser llawn (Adran A) i ran amser (Adran C) ac i'r gwrthwyneb. Mewn achosion o'r fath, bydd y Brifysgol yn pennu lleiafswm y cyfnod astudio o'r newydd a bydd yn pennu'r dyddiad cynharaf ar gyfer cyflwyno'r traethawd. Dangosir y dull a ddefnyddir i gyfrifo'r cyfnod astudio newydd a'r dyddiad cynharaf ar gyfer cyflwyno'r traethawd yn Atodiad I y Rheol Sefydlog hon.
Amodau Mynediad
- 3.
- Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd fatricwleiddio yn y Brifysgol.
Mae'r Brifysgol yn darparu rhestr o gymwysterau sy'n caniatáu mynediad i ymgeisyddiaeth am radd uwch y Brifysgol. Mae'r rhestr hon wedi ei chynnwys yn rheoliadau "Cymeradwyo Cymwysterau a/neu Brofiad Perthnasol i Dderbyn Personau i Ymgeisyddiaethau am Raddau Uwch, Diplomâu a Thystysgrifau Prifysgol Cymru, Aberystwyth".
Rhaid i'r Adran perthnasol gyflwyno argymhelliad derbyn yn achos ymgeisydd nad oes ganddo neu ganddi gymhwyster mynediad cydnabyddedig i'r Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion cyn i gynllun astudio arfaethedig yr ymgeisydd gychwyn.
Cofrestru a Therfynau Amser
- 4.
- Rhestrir yn y rheoliadau "Cymeradwyo Cymwysterau a/neu Brofiad Perthnasol i Dderbyn Personau i Ymgeisyddiaethau am Raddau Uwch, Diplomâu a Thystysgrifau Prifysgol Cymru, Aberystwyth" y Prifysgolion y mae eu graddau Athro wedi eu cymeradwyo at ddibenion eithrio o'r cyfnod prawf.
- 5.
- Disgwylir y bydd mwyafrif helaeth yr ymgeiswyr yn cyflwyno eu traethawd o fewn y terfyn amser a nodir gan y rheoliadau. Gall y Brifysgol atal ymgeisyddiaeth neu estyn y terfyn amser, ond mewn achosion eithriadol yn unig ac yn unol â'r meini prawf canlynol:
- 5.a.
- Fel arfer caiff ataliadau/estyniadau eu caniatáu yn unig ar sail dosturiol, neu mewn achosion o salwch, anawsterau domestig difrifol neu ymrwymiadau proffesiynol eithriadol y mae modd dangos eu bod yn cael effaith niweidiol ar yr ymgeisydd. Rhaid i'r adran lunio achos llawn a rhesymegol, wedi ei ategu gan dystiolaeth feddygol addas neu gan dystiolaeth annibynnol arall, i'w ystyried gan y Brifysgol.
- 5.b.
- Yn achos ymgeiswyr sy'n nodi ymrwymiadau proffesiynol eithriadol, rhaid cyflwyno gyda'r cais gadarnhad a disgrifiad ysgrifenedig gan y cyflogwr o'r pwysau gwaith eithriadol sydd ar yr ymgeisydd.
- 5.c
- Mewn achosion sy'n codi oherwydd salwch:
- 5.c.i
- Rhaid cyflwyno tystiolaeth feddygol foddhaol, gan gynnwys tystysgrif feddygol. (Mae maint a natur y salwch fel y'u disgrifir yn y dystysgrif yn amhrisiadwy wrth asesu'r achos.)
- 5.c.ii
- Rhaid cyflwyno datganiad clir, yn dangos bod yr adran berthnasol wedi asesu'r sefyllfa y mae'r ymgeisydd ynddi o ganlyniad i'r salwch a'i bod yn ystyried bod y cais am estyniad yn briodol. Bydd datganiad o'r fath, lle y bo modd, yn dilyn cyswllt uniongyrchol rhwng yr ymgeisydd a'r adran.
- 6.
- Rhaid cyfeirio ceisiadau am ataliadau/estyniadau drwy oruchwylydd a Phennaeth Adran yr ymgeisydd i Swyddfa'r Deoniaid.
Goruchwyliaeth
- 7.
- Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod y gweithdrefnau ar gyfer goruchwyliaeth ôlraddedig ar gael i fyfyrwyr ac i oruchwylwyr drwy gyfrwng y Canllawiau a'r Llawlyfr i Oruchwylwyr.
Cyflwyno Traethawd
- 8.
- At ddibenion yr arholiad, bydd ymgeiswyr yn cyflwyno'r canlynol i'w Pennaeth Adran neu swyddog penodedig:
- 8.1.
- Dau gopi o'r traethawd wedi eu teipio a'u rhwymo* a phob un yn cynnwys:
- Dau gopi o'r traethawd wedi eu teipio a'u rhwymo* a phob un yn cynnwys:
- crynodeb heb fod yn hwy na thri chant o eiriau;
- datganiad, wedi ei lofnodi gan yr ymgeisydd, yn dangos i ba raddau mae'r gwaith a gyflwynir yn ganlyniad ymchwil yr ymgeisydd ei hun; cydnabyddir ffynonellau eraill gan droednodiadau'n rhoi cyfeiriadau penodol. Rhaid cynnwys llyfryddiaeth lawn yn atodiad i'r gwaith;
- datganiad, wedi ei lofnodi gan yr ymgeisydd, i dystio nad yw'r gwaith eisoes wedi ei dderbyn o ran sylwedd am unrhyw radd, ac nad yw yr un pryd yn cael ei gyflwyno mewn ymgeisyddiaeth am unrhyw radd;
- datganiad wedi ei lofnodi ar argaeledd y traethawd.
- fersiwn electronig o'r testun cyflawn wedi ei gadw ar gyfrwng symudol, e.e. crynoddisg; ynghyd â 'Ffurflen Cyhoeddi Traethodau Estynedig a Thraethodau Ymchwil yn Electronig' wedi ei chwblhau
- Yn ogystal â hyn, copi rhydd o'r crynodeb a baratowyd gan yr ymgeisydd ar ffurflen a geir gan Gofrestrfa.
- Ffurflen rybudd ymgeisyddiaeth, wedi ei llenwi, y ceir copïau ohoni gan y Gofrestrfa.
- Cadarnhad bod yr ymgeisydd wedi cyflawni'r holl rwymedigaethau ariannol sy'n weddill a'i fod neu ei bod wedi bodloni'r angen i fatricwleiddio'n llwyddiannus.
- 9.
- Caiff unrhyw ymgeisydd sy'n dilyn cynllun astudio yn y Brifysgol ddewis cyflwyno sgriptiau arholiad neu waith i'w asesu yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Mae'n ofynnol i ymgeisydd sy'n dymuno cael ei asesu neu ei hasesu mewn iaith (h.y. y Gymraeg neu'r Saesneg) heblaw prif iaith yr hyfforddi/asesu ar gyfer y cynllun o dan sylw hysbysu Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg erbyn y dyddiad cau a bennir gan y Brifysgol. Yna dylai'r swyddog enwebedig gysylltu â Chadeirydd neu Gynullydd ac Ysgrifennydd y Bwrdd Arholi ynghylch y canlynol:
- y cyfryw drefniadau y bydd efallai eu hangen (e.e. darparu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd) ar gyfer yr arholiad llafar;
- y trefniadau angenrheidiol, y mae'n rhaid iddynt gael eu cymeradwyo - ar gais Cadeirydd neu Gynullydd y Bwrdd Arholi - gan yr arholydd neu'r arholwyr allanol, ar gyfer cyfieithu a/neu farcio y gwaith;
- cyflogi person neu bersonau addas i weithredu fel arholydd neu arholwyr ymgynghorol neu - am ffi gymeradwyedig - fel cyfieithydd neu gyfieithwyr.
- 10.
- Disgwylir i ymgeiswyr sy'n ailgyflwyno traethawd sydd wedi methu â bodloni'r Arholwyr o'r blaen gyflwyno i'w Pennaeth Adran ddau gopi o'r traethawd diwygiedig ynghyd â'r dogfennau a nodir ym mharagraff 8 uchod.
- 11.
- Mae manylion ffioedd cyfredol ar gael oddi wrth y Gofrestrfa a/neu'r Swyddfa Gyllid.
- 12.
- Ni fydd testun y traethawd (heb gynnwys Atodiadau a throednodiadau dilys) fel arfer yn hwy na 100,000 o eiriau.
- 13.
- Ceir cyfarwyddiadau manwl ar gyflwyno'r traethodau yn y Nodiadau Canllaw a roddir i ymgeiswyr sydd ar fin cyflwyno eu traethawd.
Arholi
- 14.
- Gall Penaethiaid Adran ddirprwyo tasgau gweinyddol yn ymwneud â chyflwyno ac arholi traethawd i aelod hyn o'u staff academaidd a all wedyn weithredu'n Gynullydd ac yn Ysgrifennydd Bwrdd Arholi. Pan fo Pennaeth Adran hefyd yn oruchwylydd yr ymgeisydd o dan sylw, dylid dirprwyo tasgau gweinyddol y Cynullydd ac Ysgrifennydd i aelod hyn o staff academaidd yr Adran.
- 15.
- Os yw'n fodlon bod achos prima facie dros gyfeirio'r traethawd i'w arholi'n fanwl, bydd Cynullydd ac Ysgrifennydd y Bwrdd Arholi'n penodi o leiaf un arholydd mewnol ac yn rhoi enw'r arholydd allanol arfaethedig i'r Gofrestrfa yn ysgrifenedig.
- 16.
- Bydd Pennaeth yr Adran neu ei ddirprwy fel Cynullydd ac Ysgrifennydd (gweler paragraff 14 uchod) yn anfon y ddau gopi i'r Gofrestrfa. Anfonir un copi at yr arholwyr mewnol; anfonir y copi arall at yr arholydd allanol, ynghyd â'r dogfennau a nodir ym mharagraff 8 uchod wedi eu llenwi.
- 17.
- Disgwylir i'r Pennaeth Adran, fel arfer, gadeirio Bwrdd Arholi ond gall ddirprwyo'r rôl hon yn unol â darpariaethau paragraff 26. Lle mae'r Pennaeth Adran hefyd yn oruchwylydd yr ymgeisydd o dan sylw, rhaid i aelod hyn o staff academaidd yr Adran neu'r Sefydliad gadeirio cyfarfod y Bwrdd Arholi yn ei le. Bydd Cadeirydd y Bwrdd yn annibynnol ar y broses arholi, a bydd yn gyfrifol i'r Is-Ganghellor am gynnal yr arholiad.
- 18.
- Cyn cyflwyno'r traethawd, neu ar adeg gwneud hynny, rhaid i'r Pennaeth Adran neu Gadeirydd neu Gynullydd y Bwrdd Arholi roi enw'r arholydd allanol arfaethedig i'r Gofrestra yn ysgrifenedig ar Ffurflen Bwriad Cyflwyno.
- 19.
- Penodir yr arholydd allanol ar ran yr Is-Ganghellor. Dylid anfon at yr arholydd allanol un copi o draethawd yr ymgeisydd, y ffurflenni angenrheidiol i gynnal yr arholiad a ffurflen i'r arholydd allanol hawlio ei ffioedd a threuliau yn dilyn yr arholiad.
- 20.
- Rhaid i'r arholydd allanol fod yn ymwybodol o natur a phwrpas y radd yr arholir yr ymgeisydd ar ei chyfer a meddu ar wybodaeth arbenigol ac arbenigedd yn nhestun yr ymchwil. Ni ellir tynnu arholwr allanol o blith aelodau staff unrhyw Brifysgol sy'n dyfarnu graddau Prifysgol Cymru, oni bai bod amgylchiadau eithriadol, megis diffyg gwybodaeth pwnc arbenigol yn unrhyw le arall. Rhaid i achosion o'r fath gael eu cyfeirio drwy'r Gofrestrfa at y Bwrdd Graddau Ymchwil i gael penderfyniad.
- 21.
- Fel arfer, ni ellir penodi arholydd allanol y bu ganddo(i) gysylltiad helaeth â'r ymgeisydd. Fodd bynnag, mewn achosion lle bu cysylltiad helaeth, dylid rhoi gwybod am fanylion a natur y cysylltiad.†
- 22.
- Gofynnir i'r arholydd allanol nodi bod y Brifysgol yn disgwyl, fel arfer, fod arholi ymgeisydd yn cael ei gwblhau o fewn cyfnod o ddeuddeg wythnos waith o ddyddiad cyflwyno'r gwaith gan yr ymgeisydd.
Gwahardd Caffaeledd
- 23.
- Rhaid i'r Adran wneud unrhyw argymhelliad ar wahardd caffaeledd i'r Brifysgol, drwy gyfrwng y Bwrdd Graddau Ymchwil, ar ôl ystyried cais gan oruchwylydd ymgeisydd, gyda chefnogaeth y Pennaeth Adran. Cyfrifoldeb y goruchwylydd fydd gwneud cais cyn gynted ag y bo'n rhesymol o ymarferol. Fel arfer bydd yr Adran yn anfon argymhelliad i'r Brifysgol ar adeg cofrestru cynllun ymchwil yr ymgeisydd. Rhaid i'r argymhelliad gynnwys datganiad ynghylch sail yr argymhelliad. Gan amlaf gwneir argymhelliad ar sail sensitifrwydd masnachol yr ymchwil, a allai fod wedi ei noddi'n rhannol gan gorff masnachol neu ddiwydiannol.
- 24.
- Yn dilyn arholiad llwyddiannus, bydd y Gofrestrfa yn rhoi gwybod i Gynullydd ac Ysgrifennydd y Bwrdd Arholi, Llyfrgellydd y Brifysgol a'r Llyfrgellydd Cenedlaethol fod y gwaith yn cael ei gadw rhag caffaeledd am gyfnod penodedig.
- 25.
- Er bod y gwaharddiad yn cael ei ystyried yn weithredol cyn gynted ag y cyflwynir y traethawd, cyfrifir y cyfnod a gymeradwyir o'r dyddiad yr hysbysir yr ymgeisydd yn ffurfiol gan y Brifysgol ei fod neu ei bod wedi derbyn cymhwyster gradd.
*Gellir cyflwyno traethodau i'w harholi naill ai mewn rhwymiad clawr caled, parhaol neu mewn rhwymiad diogel, dros dro.
†Gweler y ddogfen ar wahân ‘Cod Ymarfer i Arholwyr Allanol: Graddau Ymchwil' am ragor o wybodaeth