Canllawiau ar gyfer Cynnal Arholiadau Viva Voce drwy Ddulliau Electronig

Cred y Brifysgol fod arholiadau viva voce (arholiadau llafar) yn rhan hanfodol o'r broses arholi ymgeiswyr am raddau ymchwil. I'r perwyl hwn, mae Rheoliadau'r Brifysgol yn mynnu y cynhelir arholiad o'r fath, ac mae cyfarwyddyd ar gael y bwriedir iddo osod sylfaeni ar gyfer yr arholiad llafar ei hun. Dangosir detholiad o'r Rheoliadau a'r cyfarwyddyd cysylltiedig ynghyd yn Atodiad y ddogfen hon.

Fel y gwelir o'r detholiad yn yr Atodiad, disgwylia'r Brifysgol y cynhelir yr arholiadau llafar ar sail wyneb yn wyneb, gyda phob un perthnasol yn bresennol yn yr un ystafell, ar yr un pryd.

Serch y disgwyliad hwn, mae'r Brifysgol yn cydnabod y gall fod yn angenrheidiol - o dan amgylchiadau arbennig iawn - wneud trefniadau i arholiadau ddigwydd drwy ddulliau electronig. (Ni fydd y Brifysgol yn cymeradwyo defnyddio cysylltiadau ffôn yn unig ar gyfer arholiadau.) Gan hynny, mae gan y Bwrdd Graddau Ymchwil (BGY) yr awdurdod i roi cymeradwyaeth i geisiadau am ddefnyddio dulliau electronig y gellir eu defnyddio, o dan amgylchiadau arbennig, fel y'u diffinnir isod:

  • lle y cododd amgylchiadau lle na fyddai'n bosibl fel arall fynd ymlaen â'r arholiad llafar (e.e. lle na all myfyriwr neu fyfyrwraig ddychwelyd i'r DU oherwydd cyfyngiadau fisa neu achos arall) neu
  • lle bu'n rhaid terfynu trefniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer arholiad llafar wyneb yn wyneb oherwydd amgylchiadau annisgwyl (e.e. tywydd drwg iawn, salwch un o'r cyfranogwyr). Noder: lle cyfyd amgylchiadau o'r fath, byddai'r Brifysgol yn disgwyl, yn arferol, ohirio'r arholiad llafar, yn hytrach na'i gynnal drwy ddulliau electronig, ond derbynnir y bydd yn angenrheidiol - weithiau - ddefnyddio dulliau electronig (e.e. lle byddai'r myfyriwr neu'r fyfyrwraig yn dioddef yn anghyfatebol oherwydd gohiriad).

Dylai Cadeirydd y Bwrdd Arholi o dan sylw, neu, yn ei absenoldeb ef neu hi, Ysgrifennydd a Chynullydd y Bwrdd, anfon achosion, lle y gallai dulliau electronig fod yn angenrheidiol ar gyfer arholiadau llafar i'r BGY. Bydd y BGY yn ystyried pob achos a ddygir ger ei fron ar ei haeddiant unigol ei hun, er y bydd hefyd yn disgwyl gweld y canlynol:

  • cadarnhad ysgrifenedig gan y cyfranogwyr bwriadedig (gan gynnwys yr ymgeisydd) nad oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad i gynnal yr arholiad, ar amser y cytunir arno, drwy ddulliau electronig,
  • datganiad ysgrifenedig gan yr ymgeisydd ei fod neu ei bod wedi ildio unrhyw hawl i apelio yn erbyn canlyniad yr arholiad ar sail defnyddio cyfrwng electronig neu ganlyniadau'n deillio o ddefnyddio'r cyfryw gyfrwng;
  • fod digon o amser wedi ei ganiatáu ar gyfer yr arholiad llafar ei hun, ac y bydd y gefnogaeth dechnegol angenrheidiol ar gael;
  • y gwnaed amser ychwanegol (tua 10 munud o hyd) ar gael cyn dechrau'r arholiad ffurfiol i alluogi'r cyfranwyr i ymgyfarwyddo â chwmpas a chyfyngiadau'r cyfrwng a ddefnyddir;
  • y bydd naill ai'r ymgeisydd ei hun neu aelodau'r Bwrdd Arholi yn 'bresennol' yn yr arholiad drwy gyfrwng un o'r stiwdios rhwydwaith fideo a gynhelir gan y Brifysgol.

Lle cymeradwyir trefniadau o'r fath, awgrymir bod Cadeirydd y Bwrdd Arholi, cyn belled â bod yr ymgeisydd yn cytuno, yn estyn gwahoddiad i'r goruchwyliwr neu'r oruchwylwraig fod yn bresennol yn yr un lleoliad â'r ymgeisydd yn ystod yr arholiad llafar..

Bydd y BGY yn adrodd yn ôl i'r Senedd ar bob achos lle y cymeradwyodd y defnydd o gyfryngau electronig ar gyfer arholiadau graddau ymchwil.

Atodiad

Graddau Ymchwil: Yr Arholiad Llafar


Mae Rheoliadau'r Brifysgol ar gyfer Cyflwyno ac Arholi Traethodau a'r Rheoliadau ar gyfer Gradd Doethur mewn Athroniaeth (sy'n gymwys i ddarpariaeth cydweithredol) yn gwneud y darpariaethau canlynol mewn perthynas â phob gradd ymchwil*:

8.
Mae'n ofynnol i'r Bwrdd Arholi roi arholiad llafar i ymgeiswyr am raddau ymchwil ym mhob achos ac eithrio lle y cynhelir arholiad ar gyfer traethawd a ailgyflwynir. (O dan yr amgylchiadau hyn, gellir gwneud i ffwrdd â'r gofyn hwn, yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi.)
19.
Fel rheol, cynhelir yr arholiad llafar yn y Brifysgol, er, yn ôl disgresiwn yr Is-Ganghellor, gellir cynnal yr arholiad llafar mewn man arall.
20.
Yn achos ymgeisydd sy'n byw, fel rheol, y tu allan i'r Deyrnas Unedig, gellir gohirio'r arholiad llafar nes i'r ymgeisydd ddychwelyd i'r wlad hon, ar yr amod:
20.a.
y bydd pob ymgeisydd yn rhoi nid llai na deufis o rybudd i'r Brifysgol o'r dyddiadau y bydd ar gael rhyngddynt ar gyfer arholiad llafar yn y wlad hon;
20.b.
na chaiff yr arholiad llafar mo'i ohirio am gyfnod dros ddeuddeng mis o ddyddiad cyflwyno'r traethawd;
20.c.
mai'r ymgeisydd fydd yn talu unrhyw gost ychwanegol a dynnir dryw gynnal yr arholiad llafar gohiriedig.
Yn ychwanegol, mae'r detholiad canlynol allan o 'Nodiadau'r Brifysgol ar gyfer Arholwyr Allanol a Mewnol a Chynullwyr a Chadeiryddion Byrddau Arholi (Graddau Ymchwil) + yn berthnasol:

Yr Arholiad Llafar:

5.1.
Fel arfer cynhelir yr arholiad llafar yn y Brifysgol yn unol â Rheoliadau dyfarnu'r radd. Yn ôl doethineb yr Is-Ganghellor, fodd bynnag, gellir cynnal yr arholiad llafar mewn lleoliad arall.
5.2.
Yn achos ymgeisydd sy'n preswylio mewn man ar wahân i'r Deyrnas Unedig adeg cyflwyno, gellir gohirio'r arholiad llafar nes i'r ymgeisydd ddychwelyd i'r wlad hon, yn unol â'r amodau am ohirio arholiad a bennir yn y Rheoliadau.
5.3.
Bydd Byrddau Arholi, wrth argymell ymgeisydd am radd, yn tystio bod y traethawd a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn adlewyrchu'n sylweddol y cynllun ymchwil a gymeradwywyd ar ei gyfer neu ar ei chyfer gan y Brifysgol.
5.4.
Rhaid i'r canlynol fod yn bresennol yn yr arholiad llafar:
  • y Cadeirydd
  • yr Arholwr Allanol
  • yr Arholwr Mewnol 1
Noder: Cadeirydd y Bwrdd fel arfer fydd y Pennaeth Adran/Ysgol o dan sylw, ar wahân i lle mae'r Pennaeth yn dewis dirprwyo'r swyddogaeth hon i aelod hyn o'r staff academaidd, oni bai bod y Pennaeth hefyd yn oruchwyliwr neu'n oruchwylwraig yr ymgeisydd ac felly rhaid dirprwyo rôl Cadeirydd y Bwrdd i aelod hyn o'r staff academaidd.
5.5.
Penodir aelodau'r Bwrdd yn unol â Rheoliadau a Rheolau Sefydlog y Brifysgol ar gyfer y radd. Ni phenodir goruchwyliwr neu oruchwylwraig yr ymgeisydd yn arholwr mewnol, er y gellir ei wahodd ef neu hi i fynychu'r arholiad llafar gyda chaniatâd yr ymgeisydd. Ni chaiff goruchwylydd sy'n bresennol mewn arholiad llafar siarad ond pan fydd y Cadeirydd yn ei wahodd i wneud. Bydd Cadeirydd y Bwrdd yn gyfrifol i'r Is-Ganghellor am gynnal yr arholiad.
5.6.
Mae pwrpas triphlyg i'r arholiad allanol:
  • galluogi'r arholwyr i sicrhau eu hunain mai gwaith yr ymgeisydd ei hun yw'r traethawd;
  • rhoi cyfle i'r ymgeisydd amddiffyn y traethawd ac i egluro unrhyw bwyntiau aneglur ynddo;
  • galluogi'r arholwyr i asesu gwybodaeth gyffredinol yr ymgeisydd yn ei faes neu ei maes arbennig o ddysg.
5.7.
O dan amgylchiadau arbennig iawn, gall Bwrdd Graddau Ymchwil y Brifysgol, ar ôl derbyn rhybudd digonol, ystyried caniatau i arholiadau llafar ddigwydd drwy ddulliau electronig. Cyhoeddir canllawiau ar wahan ar gyfer hyn a gofynnir i arholwyr y gofynnwyd iddynt gynnal arholiad llafar drwy ddulliau electronig ymgyfarwyddo â'r cynnwys. Mae copïau o'r ddogfen Canllawiau ar gyfer Cynnal Arholiadau viva voce drwy Ddulliau Electronig ar gael yn y Gofrestrfa.
5.8.
Dylid bod yn ofalus i sicrhau yr anogir ymgeiswyr i deimlo'n gartrefol fel y bônt yn gallu arddangos eu gwybodaeth a'u gallu ar eu gorau, a dylid cydnabod ac archwilio cryfderau'r traethawd, yn ogystal â'i wendidau. Yn gynnar yn y broses, dylid rhoi cyfle i ymgeiswyr egluro'n fanwl beth y gobeithir ei gyflawni gyda'u traethawd a ble y gwelant ei arwyddocâd fel cyfraniad i wybodaeth. Pe deuai i'r amlwg bod gwahaniaeth sylfaenol rhwng amcanion yr ymgeisydd ac union gynnwys y traethawd, dylid ymchwilio i'r anghysonderau hyn. Felly hefyd dylid gofyn i ymgeiswyr egluro eu dewis o deitl pan welir nad yw'n hollol gyd fynd â chynnwys y traethawd. Dylid rhoi cyfle hefyd i ymgeiswyr egluro unrhyw fethiant amlwg i ddefnyddio deunyddiau pwysig, naill ai sylfaenol neu eilaidd, neu i ddiystyru ymdriniaethau neu fethodolegau perthnasol.
5.9.
Mae'n bwysig, lle bo traethawd yn dangos diffygion arwyddocaol a allai arwain at adroddiad nad yw'n ddigamsyniol ffafriol, dynnu sylw'r ymgeisydd at enghreifftiau cynrychioliadol o'r rhain, a bod amser ar gael yn yr arholiad i egluro ac amddiffyn y rhain.
5.10.
Mae'n bosibl i arholwyr anghydweld i raddfa mwy neu lai yn eu gwerthusiad o'r gwaith. Felly mae'n ddymunol bod yr arholwyr yn ymgynghori cyn yr arholiad llafar fel, pe amlygid gwahaniaeth barn arwyddocaol, y gellid llunio strategaeth a fyddai'n datrys y gwahaniaethau hyn drwy ddulliau y cytunir arnynt (a allai gynnwys strwythuro gofalus ar yr arholiad llafar). Er ei bod yn ddymunol bod arholwyr yn ceisio datrys eu gwahaniaeth barn, petai'n amhosibl iddynt wneud, dylai Cadeirydd y Bwrdd adrodd y ffaith hon i Gofrestrfa, ac ni ddylid gwneud unrhyw argymhelliad am unrhyw ddyfarniad, neu wrthodiad. Dan yr amgylchiadau hyn, gellir troi at Arholwr Dyfarnu Allanol yn unol a nodyn 6.7 isod.
5.11.
Atgoffir arholwyr fod yr arholiad llafar yn rhan annatod o'r broses arholi ar gyfer gradd ymchwil, gyda'r bwriad penodol a nodir uchod, a dylid gofalu na roddir yr argraff ar unrhyw adeg yn ystod yr arholiad llafar mai ffurfioldeb yn unig, mewn unrhyw fodd, yw'r arholiad llafar.

* In the case of certain Research Master's degree candidatures (i.e. those which began before the Regulations were amended at the commencement of Session 2000-2001 so as to require all candidates to undergo oral examination) it may be the case that there is no requirement for an oral examination to be held. Where there is any doubt, the Examining Board is advised to clarify the position with the Registry.

1 Yn achos arholi ymgeisydd sy'n aelod o'r staff, bydd dau arholydd allanol yn lle. (Gweler paragraff 7 Rheoliadau ar gyfer cyflwyno Traethodau Ymchwil i'w Haroli a pharagraffau 26 a 33 Rheol Sefydlog 20)

+ Mae fersiynau ar wahân o'r Nodiadau hyn ar gael ar gyfer Graddau Athro a Addysgir. Gellir cael copïau o'r Nodiadau hyno'r Gofrestra

Mai 2006