Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae gan Brifysgol Aberystwyth draddodiad hir a disglair o waith ymchwil blaengar mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau sydd o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol. Mae Cynllun Strategol 2009-13 y Brifysgol yn datgan ‘Byddwn yn cynhyrchu ymchwil o ansawdd uchel sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, gan ymateb i anghenion deallusol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd’.  

Mae ymchwil yn rhan greiddiol o genhadaeth a gwaith y Brifysgol. Fe'i cefnogir gan Strategaeth Ymchwil, a phwrpas y Strategaeth honno yw sicrhau y gall y Brifysgol barhau i gynhyrchu swmp sylweddol o waith o safon uchel ac ymateb i amgylchedd sy'n prysur newid yn y DU mewn perthynas ag ymchwil a chyllido ymchwil.

Mae gan y Brifysgol ystod rhagorol o gyfleusterau ac adnoddau sydd o gymorth i weithgareddau ymchwil gan gynnwys pedair llyfrgell sylweddol, yr hawl i ddefnyddio ystod eang o ffynonellau gwybodaeth electronig, ac adnoddau helaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru o fewn tafliad carreg i'r campws.

 

Canolfannau ac Adrannau


Swyddfa Ymchwil

Mae ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael cefnogaeth gan y Swyddfa Ymchwil. Gweithgareddau craidd y swyddfa yw: cymorth cyn dyfarnu grant ymchwil, y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil [FfRhy2014] a monitro ymchwil, cyfathrebiadau ynglŷn ag ymchwil, rheoli prosiectau mawr, a chymorth rheoli prosiectau ar gyfer ennill grantiau. 

Gwobrau



Fframweithiau Ymchwil