Concordat Prifysgol Aberystwyth

Cytundeb yw’r Concordat rhwng noddwyr a chyflogwyr ymchwilwyr yn y DU, sy’n cynrychioli datblygiad sylweddol ym maes polisi cenedlaethol ar gyfer cefnogi rheoli ymchwilwyr a’u gyrfaoedd yn dda.

Egwyddorion y Concordat:

  • Cydnabod pwysigrwydd recriwtio, dewis a chadw ymchwilwyr sydd â’r potensial uchaf i gyrraedd rhagoriaeth ym maes ymchwil                          
  • Cydnabyddir a gwerthfawrogir ymchwilwyr gan y sefydliad sy’n eu cyflogi fel elfen hanfodol o adnoddau dynol y sefydliad ac elfen allweddol o’r strategaeth gyffredinol i ddatblygu a chyflawni ymchwil o safon fyd-eang  
  • Rhoddir yr adnoddau a’r gefnogaeth i ymchwilwyr fod yn hyblyg mewn amgylchfyd ymchwil byd-eang sy’n gynyddol amrywiol a symudol. 
  • Cydnabod yn glir bwysigrwydd datblygiad personol a datblygiad gyrfa ymchwilwyr, a dysgu gydol oes, a hyrwyddo hynny ar bob adeg yn ystod eu gyrfa                         
  • Ymchwilwyr unigol yn rhannu’r cyfrifoldeb a’r angen i gymryd diddordeb byw yn eu datblygiad personol a datblygiad eu gyrfa, a dysgu gydol oes           
    Rhaid hyrwyddo amrywioldeb a chydraddoldeb ym mhob agwedd ar recriwtio a rheoli gyrfa ymchwilwyr                 
  • Bydd y sector a phob hapddaliwr yn cynnal cydadolygiad rheolaidd o’u cynnydd drwy gryfhau elfennau deniadol a chynaliadwy gyrfaoedd ymchwil yn y DU                            
     

Ceir testun cyflawn y Concordat yn ogystal â manylion pellach am gefndir y cytundeb yma.

Mae gan Brifysgol Aberystwyth Ddatganiad Polisi ar gyfer Recriwtio, Rheoli a Datblygu Staff Ymchwil sy’n berthnasol i’r Concordat, yn ogystal â chynllun gweithredu’r Concordat. Gellir lawrlwytho’r ddwy ddogfen isod.           

Mae gan Brifysgol Aberystwyth hefyd grŵp tasg Concordat sy’n arolygu adolygiad blynyddol y Datganiad Polisi ac yn rheoli’r cynllun gweithredu. Os hoffech gynnig unrhyw sylwadau neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Chadeirydd y Grŵp Tasg: Gary Reed, Pennaeth y Swyddfa Ymchwil.

 

I gael mwy o wybodaeth ynghylch cefnogaeth ar gyfer Staff Ymchwil, ewch i http://www.aber.ac.uk/staffdevelopment/cymraeg/research.htm