Ymarfer Asesiad Ymchwil (YAY)
Bob rhyw bum blynedd bydd cyrff cyllido'r DU yn Lloegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cynnal Ymarfer Asesiad Ymchwil (YAY) er mwyn asesu safon y gwaith ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch ledled y DU. Cynhaliwyd yr YAY cyntaf yn 1986 a'r diweddaraf yn 2001. Cyhoeddir canlyniadau'r YAY presennol yn 2008. Defnyddir canlyniadau'r YAY i ddosbarthu dros £1 biliwn yn y DU bob blwyddyn at ddibenion ymchwil.
Cynhelir yr YAY drwy broses o adolygu gan gymheiriaid. Caiff y gwaith adolygu ei wneud gan baneli o 9-18 o arbenigwyr yn cwmpasu meysydd pwnc gwahanol (o'r gymuned academaidd yn bennaf, ond ceir cynrychiolaeth o ddiwydiant a byd busnes yn ogystal). Dosberthir gwaith ymchwil i un o blith nifer o 'unedau asesu' (UA), sy'n seiliedig ar y ddisgyblaeth (e.e. Athroniaeth, Cemeg, Hanes).
Gall sefydliadau addysg uwch gyflwyno deunydd i ba faint bynnag o'r Unedau Asesu ag y dymunant. Bydd pob cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth am yr uned academaidd sy'n cael ei hasesu, manylion am y staff sy'n ymgymryd â gwaith ymchwil, hyd at bedwar cyhoeddiad neu gynnyrch ymchwil arall ar gyfer pob aelod o staff sy'n ymgymryd â gwaith ymchwil, data am fyfyrwyr ymchwil, manylion ynghylch incwm ymchwil, a gwybodaeth ynghylch yr amgylchedd ymchwil a mesuryddion sy'n dynodi barn am y gwaith.
Mewn Ymarferion Asesiad Ymchwil yn y gorffennol, byddai'r paneli yn dyfarnu gradd ansawdd ar raddfa 7 bwynt (1, 2, 3b, 3a, 4, 5 a 5*), yn unol â'r lefel y bernid yr oedd y gwaith ymchwil yn ei chyrraedd o ran rhagoriaeth genedlaethol neu ryngwladol.
Mae'r pedwar corff cyllido addysg uwch (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE), Cyngor Cyllido'r Alban (SFC), Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) a'r Adran Gyflogaeth a Dysgu yng Ngogledd Iwerddon, (DEL) yn defnyddio'r graddfeydd ansawdd hyn i bennu'r grantiau ymchwil a ddosberthir ganddynt i bob sefydliad addysg uwch.
Ar gyfer Ymarfer 2008, diddymwyd y raddfa ansawdd 7-bwynt a gosod proffiliau ansawdd yn eu lle a fydd yn dangos y canrannau o weithgaredd ymchwil mewn cyflwyniad y bernir eu bod yn cwrdd â phob un o'r pum lefel ansawdd. 4* fydd y radd uchaf a gradd ddiddosbarth fydd yr isaf. Bydd y drefn hon yn dangos yr ystod o weithgaredd ymchwil a lefelau ansawdd mewn cyflwyniad, yn hytrach na darparu un radd gyffredinol yn unig. Bydd hyn felly yn galluogi'r cyrff cyllido i adnabod canolfannau rhagoriaeth. Cyhoeddir canlyniadau YAY 2008 ym mis Rhagfyr 2008.
Mae’n bosibl y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn: