Canlyniadau YAY 2008
Ymchwil o Safon Fyd-eang ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae ymchwil o safon fyd-eang wedi ei adnabod mewn 15 o 16 pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ôl canlyniadau Asesiad Ymchwil (AY) 2008.
Mae Prifysgol Aberystwyth bellach yn ail yng Nghymru am safon yr ymchwil ac yn 41 allan o 119 yn y Deyrnas Gyfunol yn ôl Research Fortnight RAE2008 Quality Index of University Research.
Mae’r canlyniadau yn dangos fod 48% o waith ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth o safon byd-eang neu ragoriaeth ryngwladol ac fod 97.4% o ymchwilwyr yn gweithio mewn disgyblaethau lle mae gwaith ymchwil o safon byd eang yn cael ei wneud.
Mae dros 60% o waith ymchwil mewn pum adran academaidd (1 o bod 3 o’r cyflwyniadau) wedi derbyn gradd 4* (safon fyd-eang yn nhermau gwreiddioldeb, arwyddocâd a chywirdeb) neu 3* (rhagoriaeth rhyngwladol o safbwynt gwreiddioldeb, arwyddocâd a chywirdeb).
- Cafodd 40% o ymchwil a gyflwynwyd gan yr Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol radd 4*, sydd yn gosod yr adran yn 3 uchaf yn y Deyrnas Gyfunol.
- Cafodd 70% o ymchwil a gyflwynwyd gan yr Adran Cyfrifiadureg radd 4* neu 3*.
- Cafodd 65% o ymchwil a gyflwynwyd gan Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ac Adran y Gymraeg raddau 4* neu 3*.
- Cafodd 60% o ymchwil a gyflwynwyd gan Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu raddau 4* neu 3*.
Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth;
"Rwyf yn fodlon iawn gyda chanlyniadau Asesiad Ymchwil 2008 ac am longyfarch staff academaidd yn gynnes iawn ar yr hyn y maent wedi ei gyflawni. Mae’r gwaith caled o baratoi’r cyflwyniadau wedi dwyn ffrwyth ac mae llwyddiant eithriadol nifer o’n hadrannau yn cadarnhau safon uchel a dylanwad ei hymchwil."
Cafodd arbenigedd chwech aelod staff o Brifysgol ei gydnabod wrth iddynt gael eu penodi i baneli pwnc Asesiad Ymchwil 2008. Y chwech oedd Yr Athro Ross King (Cyfrifiadureg a Gwybydeg), Yr Athro David Ellis (Rheolaeth Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth), Yr Athro Ken Booth (Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol), Yr Athro Tim Woods (Astudiaethau Americanaidd ac Astudiaethau Ardaloedd Lle Siaredir Saesneg), Yr Athro Aled Jones (Hanes), a’r Athro Martin Barker (Cyfathrebu, Astudiaethau Diwylliant a’r Cyfryngau).
Gweld canlyniadau Asesiad Ymchwil 2008
Mae’r holl broffiliau ansawdd ar gael yn gyhoeddus ar wefan yr Asesiad Ymchwil yn www.rae.ac.uk ar y ffurfiau isod:
- Dogfen wedi’i chyhoeddi "RAE 2008: the outcome"
- Ar ffurf cymwysiadau’r we: gall defnyddwyr weld y proffiliau ansawdd i bob Uned Asesu a phob Sefydliad Addysg Uwch neu fe ellir lawrlwytho’r proffiliau ansawdd ar ffurf tabl ‘MS Excel’
Mae’n bosibl y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn: