Anne Howells
Swyddog Datblygu Ewropeaidd
Manylion Cyswllt
E-bost: nsh@aber.ac.uk
Swyddfa: Swyddfa Ymchwil, Y Ganolfan Ddelweddu, Penglais
Ffôn: +44 (0)1970 624127
Ffacs: +44 (0)1970 622959
Cyfrifoldebau
Anne Howells yw’r Swyddog Datblygu Ewropeaidd yn Uned Ewropeaidd y Swyddfa Ymchwil. Gan gydweithio’n agos â staff y swyddfa gyllid, mae Anne yn gyfrifol am oruchwylio darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth sy’n ymwneud ag ymgeisio am holl Gronfeydd Strwythurol yr UE; Cronfa Gymdeithasol Ewrop, ERDF ac INTERREG.
Bywgraffiad
Cyn ymuno â’r Swyddfa Ymchwil, bu Anne yn gweithio fel Cydlynydd Prosiect y prosiect a ariannwyd gan INTERREG, Rhwydweithiau Dysgu Cynaliadwy Iwerddon a Chymru, yn Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth. Mae hi’n Rheolwraig Prosiect brofiadol a fu’n dal swyddi yn Addysg Uwch, Diwydiant Preifat a’r Gwasanaeth Sifil. Mae hi’n dod o gefndir gwyddonol, yn meddu ar radd PhD mewn Cemeg a gradd BSc anrhydedd cyfun mewn Cemeg a Biocemeg. Mae gan Anne hefyd ddeng mlynedd o brofiad fel Rheolwraig Prosiect Ymchwil a Datblygu mewn Busnes Bach a Chanolig sy’n gweithgynhyrchu defnyddiau traul cemegol arloesol yn Ne Cymru, lle bu’n datblygu ac yn rheoli cydweithredu â Chwmnïau Fferyllol a Sefydliadau Ymchwil drwy Gontract.