Antony Corfield
Swyddog Cronfa Ddata Monitro Ymchwil
Cyswllt
E-bost: awc@aber.ac.uk
Swyddfa: Y Swyddfa Ymchwil, Y Ganolfan Ddelweddu, Penglais
Ffôn: +44 (0) 1970 628724
Cyfrifoldebau
- Datblygu Cronfa Ddata Gweithgaredd Ymchwil (RAD) y Brifysgol at ddibenion Monitro Ymchwil a’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY)
- Darparu cymorth technegol a gweithredol i ddefnyddwyr y RAD
- Datrys problemau a symleiddio i wella’r RAD gyfredol a datblygu hyn i ehangu ei defnydd a’i heffeithiolrwydd, ynghyd ag ymchwilio i systemau newydd
- Cynhyrchu data cysylltiedig ac adroddiadau mewn perthynas â gweithgaredd ymchwil y Brifysgol i reolwyr y Brifysgol
- Cydweithio’n agos i gefnogi gweithgaredd TGCh y Swyddfa Ymchwil a chyflenwi rôl cymorth defnyddwyr
Bywgraffiad
Ymunodd Antony â’r Swyddfa Ymchwil ym mis Medi 2011 ar ôl gweithio’n flaenorol o fewn y Gwasanaethau Gwybodaeth ar nifer o brosiectau ystorfa wedi’u cyllido gan JISC gan gynnwys y Prosiect Ehangu Ystorfa Cymru, oedd yn canolbwyntio ar ystorfeydd sefydliadol ym mhob Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru. Ymunodd Antony â Phrifysgol Aberystwyth yn 2007, ar ôl gweithio cyn hynny ym Mhrifysgol Rhydychen a Phrifysgol yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd fel Peiriannydd Meddalwedd yn cefnogi gwasanaethau gwybodaeth ac e-ddysgu. Mae ganddo radd MSc mewn Cyfrifiadureg.