Huw Merfyn Hughes

Photograph of Huw Merfyn Hughes.

Rheolwr Datblygu Ewropeaidd

Cyswllt

E-bost: hmh@aber.ac.uk
Swyddfa: Y Swyddfa Ymchwil, Y Ganolfan Ddelweddu, Campws Pensglais
Ffôn: +44 (0) 01970 628742
Ffacs: +44 (0) 01970 622959

Cyfrifoldebau

Huw Merfyn Hughes yw’r Rheolwr Datblygu Ewropeaidd, yn Uned Ewropeaidd y Swyddfa Ymchwil.  Gan weithio’n agos â staff y swyddfa cyllid, mae Huw yn gyfrifol am oruchwylio cyflenwi gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ymwneud ag ymgeisio i gronfeydd strwythurol ac ymchwil yr UE, ond gan ganolbwyntio’n benodol ar geisio cyllid ymchwil.

Bywgraffiad

Cyn ymuno â’r Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori, bu Huw yn gweithio i ystod o fudiadau yn y sector cyhoeddus a’r gymuned. Mae ganddo gyfoeth o brofiad rheoli prosiectau a chyllid ac mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Cydlynydd Amgylchedd Cymru (partneriaeth dan nawdd y Cynulliad sy’n darparu grantiau i grwpiau yn y gymuned) a Rheolwr Prosiectau Corfforaethol ‘cronfa’ Rheoli Prosiectau sy’n ennill ffïoedd yng Nghyngor Gwynedd. Bu hefyd yn Athro, yn Rheolwr Cefn Gwlad a Phrif Warden a Swyddog Dysgu a Dehongli yng Nghymru i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae Huw yn aelod o’r Cyngor Addysgu Cyffredinol, y Gymdeithas Rheolwyr Prosiect a Chymdeithas Rheolwyr Prosiect y Gymuned Ewropeaidd.