Rhwydwaith Cynghori ar Ymchwil
Mae Rhwydwaith Cynghori ar Ymchwil y Brifysgol yn cynnwys saith o uwch staff academaidd Prifysgol Aberystwyth sy’n cydweithio’n agos fel grŵp ac sy’n gwneud pob ymdrech i hybu datblygiad ymchwil rhyngddisgyblaethol newydd. Gall aelodau’r Rhwydwaith gynnig arweiniad ar ddisgwyliadau noddwyr, a rhoi cyngor academaidd arbenigol ar fethodoleg prosiect a’r tebygolrwydd y bydd yn gymwys i dderbyn cymorth. Pan fyddwch yn chwilio am gymorth, fe’ch anogir i gysylltu â’r swyddogion datblygu ymchwil, ac fe allant roi cymorth ymarferol i chi wrth i chi ddatblygu’ch cais am grant ac fe fyddant hefyd yn gallu cydlynu â’r unigolyn mwyaf priodol yn y Rhwydwaith i’ch prosiect chi. Fel arall, cysylltwch â'r Swyddfa Ymchwil ar ymchwil@aber.ac.uk / 01970 628734.
Dyma Aelodau'r Rhwydwaith Ymchwil Ymgynghorol :
Yr Athro Colin McInnes
Gwleidyddiaeth Ryngwladol
cjm@aber.ac.uk 01970 622700
Diddordebau ymchwil:
Cysylltiadau Rhyngwladol a’r berthynas rhwng polisïau iechyd, tramor a diogelwch, yn enwedig yng nghyd-destun HIV ac AIDS
Meysydd arbenigedd:
Cyfarwyddwr Fforwm Ymchwil Diogelwch Cyngor Ymchwil y Deyrnas Unedig, cyn-aelod o Fwrdd Ymchwil Strategol y Cyngor Ymchwil Economaidd a’i Bwyllgor Cynghori Rhyngwladol. Mae hefyd wedi cadeirio neu wedi bod yn aelod o baneli comisiynu ar gyfer y Cyngor Ymchwil Economaidd, y Cyngor Ymchwil i’r Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Cyngor Ymchwil Meddygol, ac wedi bod ynghlwm wrth digwyddiadau Sandpit y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol. Chwaraeodd ran yn y broses o ddatblygu rhaglenni rhyng-Gynghorol Cyngor Ymchwil y Deyrnas Unedig. Mae ganddo brofiad sylweddol o wneud ceisiadau llwyddiannus am gyllid o ffynonellau amrywiol, gan gynnwys y Cyngor Ymchwil Economaidd, y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd, Ymddiriedolaeth Nuffield a byd diwydiant.
Yr Athro Jamie Newbold
IBERS
cjn@aber.ac.uk 01970 622242
Diddordebau ymchwil:
Maeth anifeiliaid a microbioleg y coluddion
Meysydd arbenigedd:
Mae Jamie Newbold yn Gyfarwyddwr Ymchwil yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ac mae’n hapus i weithredu fel porth i’r arbenigedd perthnasol sydd yn yr adran a thu hwnt. Mae IBERS yn gweithredu panel monitro grantiau ymchwil a mentora ac mae ganddo arbenigedd sylweddol mewn sicrhau cyllid oddi wrth y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol, y Cyngor Ymchwilyr Amgylchedd Naturiol, Defra, Yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, Rhaglen Fframwaith yr Undeb Ewropeaidd, Ymddiriedolaeth Wellcome a’r Asiantaeth Safonau Bwyd.
Yr Athro Qiang Shen
Cyfrifiadureg
qqs@aber.ac.uk 01970 621825
Diddordebau ymchwil:
Deallusrwydd Cyfrifiannu, cymorth penderfynu deallus, rhesymu dan ansicrwydd, gwella ac ailddefnyddio gwybodaeth.
Meysydd arbenigedd:
Aelod hirdymor o Goleg Adolygu gan Gymheiriaid y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, cyn-aelod coleg/panel ar gyfer cynghorau cyllido ymchwil Seland Newydd ac Iwerddon. Mae ganddo brofiad sylweddol o wneud ceisiadau llwyddiannus am gyllid oddi wrth y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol.
Yr Athro Patrick Sims-Williams
Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
pps@aber.ac.uk 01970 622137
Diddordebau ymchwil:
Iaith a Llenyddiaeth Wyddelig a Chymreig cynnar, ieitheg Geltaidd gymharol, hanes ynysol canoloesol cynnar
Meysydd arbenigedd:
Cymrawd o’r Academi Frenhinol. Cyfarwyddwr prosiect yr Academi Brydeinig ar Ddatblygiad yr Iaith Gymraeg. Mae ganddo brofiad sylweddol o wneud ceisiadau llwyddiannus am gyllid oddi wrth y Cyngor Ymchwil i’r Celfyddydau a’r Dyniaethau, yr Academi Brydeinig, y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, ac Ymddiriedolaeth Leverhulme.
Yr Athro David Trotter
Ieithoedd Ewropeaidd
dtt@aber.ac.uk 01970 622551
Diddordebau ymchwil:
Ieithyddiaeth Ffrangeg hanesyddol, Ffrangeg canoloesol (yn enwedig testunau nad ydynt yn llenyddol), tafodieitheg hanesyddol, yn enwedig Ffrangeg ddwyreiniol a’r Geiriadur Eingl-normanaidd.
Meysydd arbenigedd:
Aelod o goleg yr AHRC o aseswyr adolygu gan gymheiriaid ers 2004. Gwerthuswr i gynghorau ymchwil cenedlaethol eraill neu sefydliadau cyfatebol yn Iwerddon, Awstria, Yr Eidal, Ffrainc, Canada, Gwlad Belg. Mae wedi gwneud ceisiadau llwyddiannus am £1.65m oddi wrth amrywiol ffynonellau er 1996, gan gynnwys llwyddiant sylweddol gyda cheisiadau am gyllid oddi wrth y Cyngor Ymchwil i‘r Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Yr Athro Mike Woods
IGES
zzp@aber.ac.uk 01970 622589
Diddordebau ymchwil:
Yr economi wledig gyfredol, cymdeithas a ffurflywodraeth, materion amgylcheddol, globaleiddio, llywodraeth
leol a rhanbarthol, mudiadau cymdeithasol a gwleidyddiaeth etholiadol.
Meysydd arbenigedd:
Llwyddodd i sicrhau cyllid oddi wrth y Cyngor Ymchwil Economaidd, 7fed Rhaglen Fframwaith yr Undeb Ewropeaidd, Sefydliad Joseph Rowntree, Cyngor Ymchwil Awstralia a chyrff llywodraethol yn cynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru, Defra a Chomisiwn y Cymunedau Gwledig. Mae ganddo brofiad o adolygu cynigion ymchwil i’r Cyngor Ymchwil Economaidd, Cronfa Wyddoniaeth Genedlaethol UDA a Llywodraeth yr Alban. Mae ganddo hefyd brofiad helaeth o weithio gyda budd-ddeiliaid nad ydynt yn academaidd.