Tim Williams
Rheolwr Datblygu Cronfa Ymchwil IBERS
Cyswllt
E-bost: tdw@aber.ac.uk
Swyddfa: Ystafell 0.13, Adeilad Newydd IBERS, Penglais
Ffôn: +44 (0)1970 728754
Cyfrifoldebau
Tim Williams sy’n gyfrifol am gymorth ymchwil yn IBERS, gan helpu i ddatblygu prosiectau ymchwil, llunio ceisiadau am grantiau, chwilio am bartneriaid masnachol, a meithrin a rheoli cysylltiadau.
Bywgraffiad
Cyn i Tim ddychwelyd i swydd Rheolwr Datblygu Cronfeydd Ymchwil yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, swydd a gafodd gyntaf yn 2009, treuliodd Tim 18 mis fel Swyddog Prosiectau a’r Cyfryngau i Gonsortiwm Newid Hinsawdd Cymru, gwaith a olygai gydlynu â phrif ymchwilwyr prifysgolion Caerdydd, Bangor ac Abertawe. Bu Tim gynt yn swyddog prosiect ym Mywydfan Aber ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan weithio fel rhan o dîm y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori. Graddiodd Tim o Brifysgol Aberystwyth gyda BSc Anrhydedd ym Motaneg a gweithiodd i’r Weinyddiaeth Amddiffyn fel dadansoddwr data wrth astudio ffiseg cyn iddo symud i Lundain a threulio dros 20 mlynedd ym myd busnes. Roedd y gwaith hwnnw’n cynnwys bod yn gyfarwyddwr ar bedwar cwmni cyfyngedig, yn bennaf ym maes technolegau digidol yn ymwneud â chyhoeddi, gan gynnwys cyhoeddi cronfeydd data a chynhyrchu papurau newydd. Mae profiad proffesiynol Tim yn cynnwys rheoli newid a phrosiectau, ansawdd ISO, a safonau amgylcheddol, rheoli cyhoeddiadau (gan gynnwys cyhoeddi ar y rhyngrwyd); mae hefyd wedi golygu dau gyfnodolyn.