Cyfarpar Ymchwil

Catalog y Brifysgol

Mae gan Brifysgol Aberystwyth ystod eang o gyfarpar a chyfleusterau ymchwil; mae i ni hanes cadarn o gydweithio gyda sefydliadau a chwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol. Hoffem hyrwyddo’r perthnasau hyntrwy sicrhau bod ein rhwydwaith ymchwil mewnol ar gael i'w ddefnyddio neu ei logi.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi sefydlu prosiect gyfredol i gynhyrchu a chynnal catalog o’n cyfarpar a’n cyfleusterau ymchwil.

Bydd y catalog yn galluogi:

  • Ymchwilwyr i adnabod adnoddau sydd eisoes yn bod i’w cynnwys er mwyn cefnogi cynigion ymchwil.
  • Meithrin diwylliant o rannu; i wella effeithiolrwydd adnoddau.
  • Agor ein hoffer a'n cyfleusterau i'r byd ehangach; caniatáu cydweithrediad newydd gyda diwydiant, sefydliadau, a meysydd eraill o'r economi fyd-eang.

Bwriad y catalog yw cael y gwerth a’r deunydd gorau posibl o’r cyfarpar sydd gennym tra’n osgoi’r gost o ddyblygu. Mae’r prosiect yn ymateb i ganllawiau newydd ar gyfer ceisiadau am grant i Gynghorau Ymchwil sy’n galw am ystyriaeth i rannu cyfarpar cyn i’r opsiwn o bwrcasu gael ei ystyried.

Mae catalog Prifysgol Aberystwyth yn cael ei chadw yn ein System Gwybodaeth Ymchwil Gyfredol (CRIS): PURE. Mae ar gael i'w weld yma.

 

Catalog y DU

Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn cyfrannu i gatalog ymchwil genedlaethol y DU a gedwir yn equipment.data. Siop un safle yw equipment.data sy’n cael ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg  (EPSRC) ar gyfer cyrchu cyfarpar ymchwil ledled y DU mewn unrhyw sefydliad sy’n cyfrannu. Mae’n darparu porth syml i gyrchu’r catalogau hyn a’i fwriad yw gwella effeithiolrwydd a symbylu cydweithrediad.

Rydyn ni wedi cyflawni cydymffurfiad aur yn ôl eu safonau drwy wneud ein catalog mor hawdd i’w darganfod a’i harchwilio ag sy’n bosibl.

Mae cyfraniad Aberystwyth i'r y catalog cenedlaethol yn chwiliadwy yn gyhoeddus ar wefan equipment.data