Ymarferion Da Ymchwil

Cydnabyddir bod 95% o'r gwaith ymchwil a gyflwynwyd gan Brifysgol Aberystwyth i'r FfRhY2014 o safon rhyngwladol .. er mwyn cynnal ac adeiladu ar bortffolio ymchwil llwyddiannus y brifysgol, mae'n bwysig ein bod yn ymrwymo i gynnal ymchwil o’r safon uchaf, o ddylunio i ledaenu, drwy ddangos didwylledd, gywirdeb a gonestrwydd yn ein holl weithgarwch ymchwil.

Rydym yn cyflawni hyn drwy atgyfnerthu ein hymchwil gyda nifer o brosesau ansawdd a thrwy ddarparu cymorth, polisïau a chanllawiau perthnasol mewn fformat eang-hygyrch.

Fel derbynnydd arian cyhoeddus, ein nod yw ymgorffori egwyddorion a geir ym Mholisїau a Safonnau UKRI er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn arloesol ac uchelgeisiol ond cyfrifol a phroffesiynol o fewn y gymuned ymchwil.