Rhannu

(dolenni allanol yn Saesneg yn unig)

Sut i rannu data eich ymchwil

I holl brif gyllidwyr ymchwil Prifysgol Aberystwyth, y gofyniad lleiaf o ran y data i’w gadw a’i rannu yw’r data a ddefnyddir yn sail i gynnyrch ymchwil cyhoeddedig. Yn y lle cyntaf, dylid cynnig data ymchwil o’r fath i’w adneuo a’i gadw mewn storfa pwnc-benodol neu wasanaeth data cenedlaethol neu ryngwladol priodol, yn unol â chyngor cyllidwr yr ymchwil. Mae rhestr o storfeydd o’r fath ar gael yma. Os nad oes storfa o’r fath ar gael, dylid cadw setiau data yn y Brifysgol drwy PURE.

 

Paratoi i rannu data

Cyn rhannu data, dylid cadarnhau y caiff holl delerau ac amodau’r drwydded defnyddwyr sy’n gysylltiedig â rhannu data trydydd parti a ddefnyddir yn y prosiect eu parchu (dylai’r telerau a’r amodau hyn fod wedi eu cofnodi yng Nghynllun Rheoli Data’r (CRhD) prosiect).

Dylid nodi hefyd y caniateir cadw yn ôl unrhyw ddata sy’n cynnwys gwybodaeth y credir ei bod wedi’i heithrio o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 h.y. data personol nad yw’n ddienw; data ac ymchwil deilliedig pellach y bwriedir eu cyhoeddi yn y dyfodol; data â buddiannau masnachol.

Os nad ydych o’r farn bod eich set ddata’n addas i’w rhannu’n agored, mae’n bosib y gallai eich data fod ar gael i’r rhai sydd â diddordeb a bwrw eu bod yn gallu bodloni amodau penodedig. Er enghraifft gallai data sy’n ‘fasnachol gyfrinachol’, lle mae gan sefydliad busnes fuddiant dilys, fod ar gael i eraill yn amodol ar gytundeb diffyg dadlennu addas y mae modd ei orfodi’n gyfreithiol. Rhaid nodi’r amodau hyn yng nghofnod y set ddata a grëir yn PURE a byddant ar gael i’r cyhoedd mewn catalog y gellir ei chwilio ar y we. Os oes gennych bryderon ynghylch rhannu eich data neu os hoffech drafod amgylchiadau penodol lle y gallai fod cyfyngiadau, cysylltwch ag infocompliance@aber.ac.uk.

 

Trwyddedu rhannu data a’i ailddefnyddio

Argymhellir y dylai setiau data a fydd ar gael i’w rhannu a’u hailddefnyddio gan eraill fod yn destun trwydded defnyddiwr. Argymhelliad Prifysgol Aberystwyth oedd y dylid mabwysiadu trwydded sy’n nodi gofyniad lleiaf i briodoli’r data i grëwr y data hwnnw, megis priodoli drwy Creative Commons neu Open Data Commons.

Ni ddylid trosglwyddo hawliau unigryw i ailddefnyddio neu gyhoeddi data ymchwil i asiantau neu gyhoeddwyr masnachol heb gadw’r hawl i gynnig y data’n agored i’w ailddefnyddio h.y. ni ddylid rhoi’r data ar ffurf Priodoli (Attribution) yn Creative Commons heb drwydded ShareAlike neu PDDL (Open Data Commons Public Domain Dedication and License), onid yw hynny’n un o amodau’r cyllid.

  • Mae rhagor o wybodaeth am drwyddedu data ymchwil ar gael yng nghanllawiau’r Ganolfan Curadu Data, 'How to License Research Data'.
  • Mae rhagor o wybodaeth am drwyddedau Creative Commons ar gael ar eu gwefan.
  • Mae rhagor o wybodaeth am drwyddedau Open Data Commons ar gael ar eu gwefan.