Pwy sy'n gwneud Mynediad Agored yn ofynnol?

Mae’r Pwyllgor Ymchwil Prifysgol Aberystwyth a'r Awdurdod Gweithredol wedi'i gwneud yn orfodol bod pob cyfraniad cyfnodol newydd, gan gynnwys Trafodion Cynhadledd a gyhoeddwyd mewn rhifyn cylchgrawn, ar gael trwy lwybr Gwyrdd y MA. Mynediad Agored a Pholisi Cyflwyno PURE.

O fewn Prifysgol Aberystwyth, gellir dilyn llwybr Mynediad Agored Gwyrdd drwy gadw cofnodion cynnyrch ymchwil yn PURE wrth iddynt gael eu derbyn i’w cyhoeddi, ynghyd â fersiwn llawn o’r testun unwaith y bydd ar gael. Ar ôl iddynt gael eu cadarnhau, bydd y cofnodion cynnyrch yn cael eu trosglwyddo’n awtomatig i Porth Ymchwil Aberystwyth.

Noder nad yw cadw papurau ar safleodd cyfryngau cymdeithasol megis ResearchGate, Mendeley and Academia.edu yn cyflawni gofynion Mynediad Agored UKRI, naill ai ar ran cynnwys metadata neu'r gallu i gydgasglu a chynhaeafu'r cofnodion - ac efallai bydd yn torri hawlfraint. Cyflwynwch eich papurau i PURE fel eich prif ddull o gadw'ch ymchwil drwy Mynediad Agored.

Polisïau Mynediad Agored Cyllidwyr Ymchwil

Mae UKRI yn disgwyl bod pob erthygl ymchwil a gyflawnir o ganlyniad i brosiectau a gyllidir ganddynt a’u cyflwyno i’w cyhoeddi mewn cyfnodolion neu drafodion cynhadledd ar gael drwy Fynediad Agored. Rhaid i’r erthyglau hyn gynnwys manylion y cyllid a ariannodd yr ymchwil ac, os yw’n berthnasol, ddatganiad am sut y gellir dod o hyd i’r deunyddiau ymchwil sylfaenol, megis data, samplau a modelau.

Y llwybr a ffefrir gan UKRI yw’r llwybr Aur er mwyn sicrhau mynediad ar unwaith i’r gwaith ymchwil a gyhoeddir, ond mae’r cyngor hefyd yn cefnogi’r llwybr Gwyrdd: cadw llawysgrif yr awdur unwaith iddi gael ei derbyn (ôl-gyhoeddiad) mewn storfa sefydliadol (o fewn 1 mis).

Ar gyfer MA Gwyrdd bydd arnoch chi angen polisi cadw hawliau i gyd-fynd â'ch cyflwyniad. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw noddwyr cOAlition S, gan gynnwys UKRI a'r Wellcome Trust. Gweler Polisi Cadw Hawliau PA.

Ni chaniateir hawlio costau prosesu erthyglau Mynediad Agored Aur drwy grantiau UKRI; fe’i hariennir yn hytrach drwy grantiau bloc i sefydliadau i’w dosbarthu. Ceir gwybodaeth lawn am sut i gael grant bloc PA gan UKRI ar y tudalen "Mynediad Agored - Ble" yn yr adran am Mynediad Agored Aur/Cymysg.

Bydd arnoch chi angen trwydded CC-BY ar gyfer MA Aur ond mae Trwydded Llywodraeth Agored yn dderbyniol. Os nad yw'r cyhoeddwr yn caniatáu hyn, gellwch chi wneud cais am eithriad gan UKRI i ganiatáu trwydded CC-BY-ND. Os nad yw trwydded CC-BY-ND yn dderbyniol i'r cyhoeddwr ychwaith, cysylltwch â mynediadagored@aber.ac.uk i gael cyngor pellach.

Mae cyllidwyr eraill fel Ymddiriedolaeth Wellcome a’r Comisiwn Ewopreaidd yn caniatáu hawlio costau ariannu prosesu erthyglau i gael eu cynnwys mewn ceisiadau grantiau. Fodd bynnag, maent hefyd yn cefnogi’r llwybr Gwyrdd. Mae Ymddiriedolaeth Wellcome yn mynnu bod llawysgrif yr awdur yn cael ei chadw unwaith iddi gael ei derbyn (ôl-gyhoeddiad) mewn storfa sefydliadol (o fewn 1 mis). Cyfnodau embargo Horizon 2020 yw 6 mis ar gyfer pynciau STEM a 12 mis ar gyfer y Celfyddydau, y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Dyniaethau.

Ceir manylion am bolisïau Mynediad Agored cyllidwyr eraill drwy wasanaeth SHERPA Juliet: http://www.sherpa.ac.uk/juliet/.

Ceir gofynion data cyllidwyr ymchwil ar gyfer argaeledd data ymchwil ar: .

Polisi Mynediad Agored y FfRhY

Mae UKRI (ar ran CCAUC) yn cyflwyno polisi mynediad agored sy’n gysylltiedig ag asesiadau ymchwil yn dilyn ymarfer FfRhY dyfodol. Er mwyn bod yn gymwys i’ch cyflwyno ar gyfer y FfRhY, dylid creu cofnod mewn storfa sefydliadol ar gyfer erthygl mewn cyfnodolyn neu drafodion cynhadledd a gyflwynir i gyhoeddiad sy’n dwyn Rhif Cyfresol Safonol Rhyngwladol (ISSN) o fewn 3 mis ar y mwyaf ar ôl i’r erthygl gael ei derbyn i’w chyhoeddi. Dylid sicrhau bod ôl-gyhoeddiad o’r cynnyrch ar gael drwy Fynediad Agored o fewn 12 mis ar y mwyaf os bwriedir ei gyflwyno i Baneli A a B (disgyblaethau STEM) neu o fewn 24 mis os bwriedir ei gyflwyno i Baneli C a D (disgyblaethau’r Celfyddydau, y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Dyniaethau, gan gynnwys Daearyddiaeth). Serch hynny, os ariennir eich ymchwil gan UKRI, nodwch fod angen rhoi'r ymchwil yn y storfa o fewn 1 mis fel nodwyd uchod.

Ceir rhagor o wybodaeth am ôl-gyhoeddiadau a cyfnodau embargo ar y tudalen "Mynediad Agored - Pryd" ar https://www.aber.ac.uk/cy/research/good-practice/open-access/when/.

Disgwylir cydymffurffio’n llwyr â’r polisi hwn ond mae cyfres o eithriadau posibl wedi’u nodi yn y polisi fel rhesymau cymwys pam na ellid cyhoeddi cynnyrch drwy’r llwybr mynediad agored a nodir. Ni chaniateir mynediad agored ôl-weithredol i allbynau ymchwil ar gyfer pwrpasau'r FfRhY.

Sut i Gydymffurfio a'r Polisi Mynediad Agored (MA) FfRhY ym Mhrifysgol Aberystwyth

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, er mwyn i allbynau cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid fod yn gymwys ar gyfer y FfRhY, rhaid rhoi cofnod o’r papur, gyda’r fersiwn ôl gyhoeddiedig wedi’i atodi, yn PURE (http://pure.aber.ac.uk) o fewn 3 mis o gael ei dderbyn (ond rhaid cadw ymchwil a ariennir gan UKRI yn y storfa o fewn 1 mis fel nodwyd uchod). Mae’r rheol hon yn berthnasol i bob erthygl cyfnodolyn â adolygir gan gymheiriaid ac i bapurau cynhadledd a gyhoeddir mewn cyfnodolion gydag ISSN. Mynediad Agored a Pholisi Cyflwyno PURE

Pan fo’r papur yn cael ei gyhoeddi (h.y. yn ymddangos ar wefan y cyhoeddwr neu yn ymddangos mewn print), caiff manylion terfynol yr allbwn (cyfrol, rhifyn, rhifau tudalennau, dolen i fersiwn y cyhoeddwr o’r papur ayyb) eu gwirio a'u hychwanegu i’r cofnod PURE. Caiff unrhyw gyfnod embargo priodol ei osod ar gyfer fersiwn terfynol y papur.

Gellir gwirio cyfnodau embargo ar wefan Sherpa/Romeo: http://www.sherpa.ac.uk/romeo/index.php

Gellwch chi hefyd ddefnyddio'r Journal Checker Tool (JCT) i wirio a yw'ch cyfnodolyn dewisol yn caniatáu cydymffurfiaeth â'r polisi ac a yw cyhoeddi ynddo'n gymwys i gael noddiant UKRI.

Cyhoeddir y cofnod ymchwil drwy Porth Ymchwil Aberystwyth. Ni fydd y testun llawn o’r papur yn cael ei ryddhau i Porth Ymchwil Aberystwyth nes bod unrhyw gyfnod embargo wedi dod i ben.

Papurau Mynediad Agored Aur

Nodwch nad oes angen cyflywno ôl-gyhoeddiadau ar gyfer y FfRhY os yw’r papurau wedi’u gwneud yn Fynediad Agored trwy’r llwybr Aur, h.y. lle bo taliad Ffi Prosesu Erthygl (APC) yn sicrhau bod y fersiwn terfynol o’r papur ar gael i bob darllenwr yn syth iddo gael ei gyhoeddi. Mae angen cyflwyno’r fersiwn cyhoeddedig terfynol o bapurau MA Aur i PURE cyn gynted a phosib ar ôl cyhoeddi.

Mae’r Cwestiynnau a Holir Amlaf ar Fynediad Agored ar gael ar: https://www.ref.ac.uk/faqs/#OA. Ceir cymorth pellach drwy gysyllltu â mynediadagored@aber.ac.uk.