Moeseg Ymchwil

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gwbl ymroddedig i gynnal ac adeiladu ar bortffolio ymchwil llwyddiannus y prifysgol. Yn ganolog i hyn yw'r ymwybyddiaeth o'r ystyriaethau moesegol sy'n gysylltiedig â phob prosiect ymchwil; os yw’n cynnwys cyfranogwyr dynol neu beidio, meinwe dynol, anifeiliaid neu ddata personol.

Er mwyn cyflawni hyn, mae'n bwysig ein bod wedi ymrwymo i gynnal y safonau moesegol a phroffesiynol uchaf yn ein gwaith ymchwil, o ddylunio i ledaenu. Dylai ymchwilwyr weithredu’n gyson gydag uniondeb, atebolrwydd, gonestrwydd, didwylledd a dangos lefelau sensitifrwydd at bob diwylliant ac amgylchedd.

Mae angen asesiad ar gyfer pob prosiect ymchwil, cynlluniwyd y  broses i beidio gweithredu fel rhwystr i waith ymchwil. Rydym yn cyflawni hyn drwy sail ein hymchwil gyda nifer o brosesau priodol, hawdd eu defnyddio a thrwy ddarparu cymorth, polisïau a chanllawiau perthnasol mewn fformat eang-hygyrch. Dylai ymchwilwyr hefyd fod yn ymwybodol o unrhyw ganllawiau gyrff proffesiynol, gweithdrefnau adrannol ac oblygiadau moesegol eraill.

 

Ymchwil i Ymchwilwyr

For further information, support and details on the process, information regarding the Concordat to Support Research Integrity and information on the animal ethical review process click below:

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i gefnogi gwaith ymchwil gwyddonol o’r ansawdd gorau o ran moeseg, ymddygiad ac effaith. Mae’n cefnogi’n gryf fwriad y Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986, a addaswyd gan Gyfarwyddeb 2010/63/EU yr UE, ac sydd, dan gyfarwyddyd Is-Adran Uned Reoliadau Anifeiliaid mewn Gwyddoniaeth y Swyddfa Gartref, yn rheoli’n llym y gwaith arbrofol sy’n defnyddio anifeiliaid. Fel rhan o’n hymrwymiad, rydym yn cymeradwyo’n llwyr ganllawiau ARRIVE a luniwyd gan y Ganolfan Genedlaethol Er Cyfnewid, Mireinio a Lleihau Nifer Anifeiliaid mewn Ymchwil (NC3Rs) sy’n canolbwyntio ar wella cynllunio astudiaethau anifeiliaid ac adrodd amdanynt. Bydd pob prosiect ymchwil sy’n cynnwys anifeiliaid, boed yn cael ei drafod gan Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986 ai peidio, yn dilyn proses adolygu moesegol gan y Corff Adolygu Moeseg a Lles Anifeiliaid sy’n cynnwys aelodau lleyg, aelodau allanol a chynrychiolwyr ar draws y Brifysgol.