Skip logo, search and navigation. Go straight to the main content.



Mae Ymchwil ABER yn newyddlen dymhorol sy’n canolbwyntio ar faterion yn ymwneud ag ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Darllenwch ein cylchlythyr diweddaraf.


Rhagor o lwyddiant gyda chnydau i wyddonwyr

Dydd Iau 18 Mawrth 2010

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth unwaith eto’n arwain y ffordd wrth ddatblygu mathau newydd o un o gnydau pwysicaf gwledydd Prydain. Ac, wrth wneud, maen nhw wedi curo’r Tardis!

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Dr Athole Marshall gyda'i geirch gaeaf

Dr Athole Marshall gyda'i geirch gaeaf


Y Brifysgol yn rhan o ymgyrch ymchwil rhyngwladol £1m

Dydd Mercher 17 Mawrth 2010

Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o ymgyrch ymchwil rhyngwladol gwerth £1 miliwn i geisio goresgyn llyngyr yr iau - parasit sy’n achosi clefyd i anifeiliaid, a biliynau mewn colledion ariannol i amaethwyr ar draws y byd.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Peter Brophy a Neil Mackintosh, IBERS
Peter Brophy a Neil Mackintosh, IBERS

Tu hwnt i'r wyneb

Mawrth 16 Mawrth 2010

Partneriaeth arloesol newydd rhwng ymchwilwyr o'r Adran Gyfrifiadureg a'r Coleg Celf Brenhinol i arsylwi ar deimladau ac emosiynau.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Yr Athro Reyer Zwiggelaar
Yr Athro Reyer Zwiggelaar

Academydd yn Arddangos Ymchwil Gofod a Roboteg yn San Steffan

Dydd Mercher 3 Mawrth 2010

Gwaith ymchwil gan academydd o Aberystwyth ar robot fydd yn tynnu lluniau ar blaned Mawrth yn cael ei gyflwyno ym Mhalas Westminster ar yr 8 Mawrth 2010.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Stephen Pugh, Adran Gyfrifiadureg
Stephen Pugh, Adran Gyfrifiadureg

Datganiad Dydd Gŵyl Dewi

Dydd Llun 1 Mawrth, 2010

Prifysgolion amlycaf Cymru yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi trwy adnewyddu eu hymrwymiad ar y cyd i ysgogi economi wybodaeth Cymru.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Yr Hen Goleg
Yr Hen Goleg

Gwyddonwyr IBERS yn mynd i'r afael â diogelwch cig

Mawrth 2010

Mae gwyddonwyr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol , Amgylcheddol  a Gwledig  Prifysgol Aberystwyth ar fin chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o sicrhau diogelwch cig.  Mae'r Adran wedi ennill cytundeb pwysig i ymchwilio i ddulliau o ganfod achosion o halogi cig a hynny mewn ymgais i atal heintiau difrifol fel E.coli rhag lledu.   

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Gwartheg yn pori
Gwartheg yn pori

Cyflwyno Gwobr Addysg Uwch y Frenhines i Brifysgol Aberystwyth

Dydd Llun 22 Chwefror 2010

Bu aelodau o staff a myfyrwyr ym Mhalas Buckingham ddydd Gwener 19eg Chwefror, i dderbyn Gwobr Addysg Uwch ac Addysg Bellach y Frenhines i Brifysgol Aberystwyth. Cyflwynwyd medal a thystysgrif gan y Frenhines a Dug Caeredin i’r Athro Noel Lloyd, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth ac i’r Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS.

Rhagor o wybodaeth...


Yr Athro Noel Lloyd a'r Athro Wayne Powell yn derbyn y wobr oddi wrth y Frenhines a Dug Caeredin.
Yr Athro Noel Lloyd a'r Athro Wayne Powell yn derbyn y wobr oddi wrth y Frenhines a Dug Caeredin. Llun drwy law BCA Ltd

Hawliau Rhieni ym Maes Addysg Plant

Dydd Mawrth 2 Chwefror 2010

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i dewis i gynrychioli’r Deyrnas Gyfunol mewn prosiect ymchwil Ewropeaidd ar hawliau rhieni ym maes addysg plant.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Dr Marco Odello (ar y dde) a Jill St George
Dr Marco Odello (ar y dde) a Jill St George

Time yn cydnabod darganfyddiad robot

Dydd Mawrth 5 Ionawr 2010

Time Magazine yn cydnabod darganfyddiad gan robot o Aber fel un o'r pump darganfyddiad gwyddonol mwyaf arwyddocaol yn 2009.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Yr Athro Ross King ag Adam yn y cefndir
Yr Athro Ross King ag Adam yn y cefndir

Ysgoloriaeth Ymchwil Uwchraddedig

Dydd Gwener 22 Ionawr 2010

Mae Aberystwyth yn galw ar i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn astudio ar gyfer doethuriaeth gyflwyno’u ffurflenni cais mor fuan â phosib er mwyn cael eu hystyried ar gyfer ysgoloriaeth sy’n werth dros £50,000 dros gyfnod o dair blynedd.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Simon Payne a dderbyniodd ysgoloriaeth APRS ar gyfer ei waith yn yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.
Simon Payne a dderbyniodd ysgoloriaeth APRS ar gyfer ei waith yn yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Partneriaeth Aberystwyth/Bangor yn llwyddo tu hwnt i’r targed

Mercher 9 Rhagfyr 2009

Parneriaeth Ymchwil a Menter Aber-Bangor yn cyrraedd ei tharged ar gyfer incwm ymchwil ddwy flynedd yn gynharach na'r disgwyl.

Rhagor o wybodaeth...

Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a'r Athro Merfyn Jones, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor ar adeg arwyddo cytundeb y bartneriaeth yn 2006.
Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a'r Athro Merfyn Jones, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor ar adeg arwyddo cytundeb y bartneriaeth yn 2006.

Menter newid hinsawdd newydd

Dydd Gwener 27 Tachwedd 2009

Aberystwyth i gydlynu Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru (C3W), canolfan ragoriaeth £4 miliwn a gyhoedwyd ddydd Gwener 27 Tachwedd.

Rhagor o wybodaeth...

Ia

Plant, teledu a'r we

Dydd Iau 26 Tachwedd 2009

Y ffordd y mae plant rhwng saith ac unarddeg oed yn defnyddio technoleg yn ganolbwynt i astudiaeth ymchwil ar y cyd rhwng Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu a chwmni cynhrychu rhaglenni i blant,Boomerang+.

Rhagor o wybodaeth...

Chwith i’r Dde: Angharad Garlick a Dafydd Felix Roberts o Boomerang+, Idris Price o Knowledge Transfer Partnerships a Dr Merris Griffiths o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth.
Chwith i’r Dde: Angharad Garlick a Dafydd Felix Roberts o Boomerang+, Idris Price o Knowledge Transfer Partnerships a Dr Merris Griffiths o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth.

Chwilio am fiodanwydd gwyrddach


Dydd Mercher 25 Tachwedd 2009

Prosiect arloesol yn dod â gwyddonwyr, ffermwyr, a gwneuthurwyr a dosbarthwyr tanwydd at ei gilydd i greu biodanwydd gwyrddach.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Dr Joe Gallagher
Dr Joe Gallagher

Gwobr Addysg Uwch y Frenhines

Dydd Mercher 18 Tachwedd 2009

Dyfarnwyd Gwobr Addysg Uwch ac Addysg Bellach y Frenhines i Brifysgol Aberystwyth.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o IBERS, Gogerddan
IBERS Gogerddan

Gallai Aberystwyth arwain y byd

Dydd Mawrth 27 Hydref 2009


Mae un o fywydegwyr enwoca’r byd yn dweud bod datblygiadau newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ei gosod mewn lle delfrydol i arwain y byd ar faterion amgylcheddol.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Yr Athro Steve Jones
Yr athro Steve Jones

Gwobr sustemau niwlog

Dydd Llun 28 Medi 2009

Sefydliad y Peirianwyr Trydanol ac Electronaidd yn gwobrwyo papur sydd yn cyflwyno damcaniaeth arloesol newydd ar resymu rhyngbegynol niwlog (fuzzy interpolative reasoning).

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Yr Athro Qiang Shen
Yr Athro Qiang Shen

Cytuno ar gôd bar DNA planhigiol

Dydd Llun 27 Gorffennaf 2009

Mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr, gan gynnwys ymchwilwyr yn Aberystwyth, wedi cwblhau ymdrech pedair-blynedd i gytuno ar ‘gôd bar DNA planhigol’ safonol.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Dr CAroline Ford a'r Athro Mike Wilkinson
Dr Caroline Ford a'r Athro Mike Wilkinson

Cyfraniad Economaidd IBERS

Dydd Llun 20 Gorffennaf 2009

Mae canolfan ymchwil fwyaf newydd Cymru, y Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol ac Amaethyddol (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cyfrannu miliynau i economi Cymru a Phrydain ac werth biliynau o bunnoedd i ffermwyr ac i’r amgylchedd.

Rhagor o wybodaeth...


Ffotograff o IBERS, Gogerddan
IBERS, Gogerddan

Taith Arctig

Newyddion gan yr Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Mae’r rhewlifegydd, Alun Hubbard, o’r SDGD wedi mynd ar daith gyda Greenpeace am dri mis i gofnodi effaith newid yn yr hinsawdd ar len iâ Yr Ynys Las. Gellir gweld ffotograffau ysblennydd o’r daith ar wefan y Guardian ar:  http://www.guardian.co.uk/environment/
gallery/2009/jul/20/greenpeace-arctic
-impacts-expedition

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Dr Alun Hubbard
Dr Alun Hubbard

The Cambrian Muses

Newyddion gan Adran y Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Llongyfarchiadau i Sarah Prescott ar ennill Gwobr fawreddog Datblygu Ymchwil yr Academi Brydeinig. Mae’r wobr yn galluogi i Sarah, am un flwyddyn, ddatblygu ei hymchwil ddiddorol ac arloesol i lenyddiaeth siaradwyr Saesneg Cymru cyn 1800. Bydd ei llyfr nesaf, Seventeenth and Eighteenth Century Women Writers from Wales: The Cambrian Muses, yn cael ei gyhoeddi yng nghyfres ‘Gender Studies in Wales’, Gwasg Prifysgol Cymru.
 
Ffotograff o Dr Sarah Prescott
Dr Sarah Prescott

Hwb o £25m i ganolfan

Dydd Mercher 22 Gorffennaf 2009

Fe fydd gwyddonwyr yng Nghymru yn buddsoddi £25 miliwn mewn canolfan sy'n ymchwilio i effeithiau newid hinsawdd.

Dywedodd Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth y byddai'r arian yn codi safonau.

Rhagor o wybodaeth: Gwefan BBC

Ffotograff o IBERS, Gogerddan
IBERS, Gogerddan

Blodau menyn yn datgelu oedran dôl

Dydd Mawrth 23 Mehefin 2009

Mae nifer y petalau ar flodau menyn yn adlewyrchiad o oedran cae neu ddôl yn yr un modd ag y mae rhychau ar wyneb person yn ôl astudiaeth gan Dr John Warren o IBERS.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Dr John Warren
Dr John Warren

Lansio IBERS yn Ewrop

Dydd Llun 22 Mehefin 2009

IBERS yn cyflwyno ei gweledigaeth ar gyfer mynd i’r afael â rhai o'r heriau dyrys sydd yn wynebu dynoliaeth yn ei lansiad Ewropeaidd ym Mrwsel.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o IBERS Gogerddan
IBERS Gogerddan

Newyddion Ymchwil

Tirweddau Byw

Dydd Mercher 17 Mehefin 2009

Bydd y gynhadledd ryngwladol 'Living Landscapes', sydd yn cael ei chynnal yr wythnos hon (18-21 Mehefin) gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, yn trafod y berthynas amrywiol rhwng tirwedd, yr amgylchedd a pherfformio.

Rhagor o wybodaeth...


Living Landscapes

Gwahanwyd gan gân

Dydd Mercher 3 Mehefin 2009

Mae titwod mawrion mewn trefi’n ymateb yn gryfach i ganeuon eu cyd-drigolion trefol nag ydynt i’w cefndryd o’r wlad ac mae agwedd titwod mawrion o’r wlad yr un mor wahaniaethol yn ol ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi yn Nhrafodion y Gymdeithas Frenhinol.

Rhagor o wybodaeth...


Ffotograff o Titw mawr: Llun gan Maria Gill
Titw mawr: Llun gan Maria Gill

Genom rhygwellt

Dydd Iau, 14 Mai 2009

Dyfarnwyd £1.6m i’r Grŵp Geneteg Cnydau, Genomeg a Bridio yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig i ddatblygu map ffisegol o genom rhygwellt parhaol.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Dr Ian Armstead
Dr Ian Armstead

Hybu Ymddiriedaeth mewn Byd Niwclear

Dydd Iau, 14 Mai 2009


Dyfarnwyd £538,000 i’r Athro Nicholas Wheeler o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol i gynnal astudiaeth i’r cysyniad o hybu ymddiriedaeth yng nghyd-destun gwladwriaethau sydd ag arfau niwclear a’r rhai sy’n ymarfogi’n niwclear.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Yr Athro Nicholas Wheeler
Yr Athro Nicholas Wheeler


Gornesta Geiriadurol?

Dydd Mawrth, 28 Ebrill 2009

Y Geiriadur Eingl Normaneg yn Aberystwyth a’r Dictionnaire de l’ancien français ym Mhrifysgol Heidelberg i gydweithio ar astudiaeth o destun Eingl Normaneg ynglŷn â’r Groesgad Gyntaf.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Professor David Trotter
Professor David Trotter

Cymdeithas Ryngwladol i’r Cyfryngau a Hanes (IAMHIST) Cynhadledd 2009

Newyddion gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru 
a’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Mae Canolfan Hanes y Cyfryngau yn falch o groesawu cynhadledd ddwyflynyddol rhif XXIII y Gymdeithas Ryngwladol i’r Cyfryngau a Hanes. Cynhelir y Gynhadledd, ar y thema Ofnau Cymdeithasol a Braw Moesegol ym Mhrifysgol Aberystwyth o ddydd Mercher 8fed hyd ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf 2009.

Rhagor o wybodaeth...

Prifysgol Aberystwyth and iamhist logos


Un o’r Prif Gyfnodolion yn Canmol Cyn Fyfyriwr

Newyddion gan Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Mae prawf ymarfer corff a ddatblygwyd yn yr Adran Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi’i ddefnyddio mewn gwaith ymchwil a gydnabuwyd gan un o’r prif gyfnodolion seicoleg sef, Experimental Physiology. Cafodd y “prawf pob-ymdrech 3 munud” ei ddatblygu a’i ddilysu gan y Dr Anni Vanhatalo, y Dr Mark Burnley a’r Athro Jo Doust fel rhan o Ddoethuriaeth Anni a gyflwynwyd yn llwyddiannus yn 2007.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Dr Anni Vanhatalo
Dr Anni Vanhatalo


Grant gwerth £165k gan yr AHRC grant am ymchwil i gelfyddyd berfformiadol yng Nghymru

Newyddion gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Cafodd y Dr Heike Roms grant ymchwil, sef £165,779, yn ddiweddar gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) i gynnal prosiect ymchwil am ddwy flynedd o’r enw “'It was forty years ago today…': Lleoli Hanes Cynnar Celfyddyd Berfformiadol yng Nghymru 1965-1979”.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Dr Heike Roms
Dr Heike Roms

Grant gan yr EPSRC mewn Rheolaeth Gwantwm

Newyddion gan Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol

Mae’r Dr Rolf Gohm a’r Athro John Gough o’r Grŵp Ymchwil Rheolaeth Gwantwm wedi cael tua £250,000 o grant gan yr EPSRC am brosiect a gynhelir dros dair blynedd o’r enw 'Quantum Control: Approach based on Scattering Theory for Non-commutative Markov Chains and Multivariate Operator Theory'.

Rhagor o wybodaeth...

An image of feedback using a beam-splitter
Image: Feedback using a beam-splitter



Cymrodoriaeth yn Princeton

Newyddion gan Adran y Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Mae’r Athro Sarah Hutton wedi cael cynnig cymrodoriaeth ymchwil ymweld (Aelodaeth) yn Sefydliad Astudio Uwch, i dymor yr hydref 2009-10.

Ffotograff o Professor Sarah Hutton
Professor Sarah Hutton



Grant Heidelberg-Aberystwyth

Newyddion gan yr Adran Ieithoedd Ewropeaidd

Mae’r Athro David Trotter wedi cael £66,353 fel rhan o grant a roddwyd ar y cyd i  Heidelberg ac Aberystwyth gan Deutsche Forschungsgemeinschaft (DFG) a’r AHRC.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Professor David Trotter
Professor David Trotter


Astudio silff iâ

Dydd Mercher 8 Ebrill 2009

Yn ddiweddar treuliodd Dr Bryn Hubbard o Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear fis ar silff iâ yn nwyrain yr Antarctig lle bu'n astudio rhew môr.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Dr Bryn Hubbard gyda colofn iâ
Dr Bryn Hubbard gyda colofn iâ



Y darganfyddiad gwyddonol cyntaf gan robot

Dydd Iau 2 Ebrill 2009


'Adam', gwyddonydd robotaidd sydd wedi ei ddatblygu yn yr Adran Gyfrifiadureg, yw'r peiriant cyntaf o'i fath i ddarganfod gwybodaeth wyddonol newydd.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Yr Athro Ross King ag Adam yn y cefndir
Yr Athro Ross King ag Adam yn y cefndir


Seliau hanesyddol

Dydd Mercher 18 Mawrth 2009

Mae'r hanesydd, yr Athro Phillipp Schofield yn arwain astudiaeth gerth £490,000 i seliau seliau Cymreig.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o un o'r seliau sydd yn y LLyfrgell Genedlaethol ac sydd yn dyddio o 1199
Un o'r seliau sydd yn y LLyfrgell Genedlaethol ac sydd yn dyddio o 1199.


Manteision amgylcheddol ffermydd mewn ardaloedd llai ffafriol

Dydd Mercher 4 Mawrth, 2009

Dyfarnwyd €226,000 i IBERS fel rhan o gynllun Ewropeaidd gwerth €3m i fesur y manteision amgylcheddol sydd yn deillio o ffermydd mewn ardaloedd llai ffafriol.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Dr Peter Dennis
Dr Peter Dennis


Rhestr fer gwobr lenyddol

Dydd Llun 2 Mawrth 2009


Cyhoeddwyd fod Dr Sarah Prescott, uwch-ddarlithydd yn yr Adran Saesneg, wedi ei chynnwys ar rhestr fer am un o brif wobrau llenyddol Cymru, rhestr sydd yn cynnwys menywod yn unig.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Dr Sarah Prescott
Dr Sarah Prescott


Cyfarwyddwr newydd

Dydd Gwener 27 Chwefror 2009

Penodwyd Dr Catrin Fflur Huws i swydd Cyfarwyddwr Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig. Mae Dr Huws yn olynu Ann Sherlock a fu yn rhan mor allweddol o sefydlu’r ganolfan arloesol hon, yr unig un o’i bath. 

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Dr Catrin Fflur Huws
Dr Catrin Fflur Huws


Ymchwil arlein

Dydd Gwener 20 Chwefror 2009

Lansiwyd y Rhwydwaith Cadwrfeydd Cymreig, gwasanaeth ar-lein lle y cyhoeddir gwaith ymchwil holl Brifysgolion Cymru.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Dr Andrew Prescott (PC Llanbedr Pont Steffan) gyda Dr Mike Hopkins a Stuart Lewis o Brifysgol Aberystwyth
Dr Andrew Prescott (PC Llanbedr Pont Steffan) gyda Dr Mike Hopkins a Stuart Lewis o Brifysgol Aberystwyth


Ardaloedd gweldig yn oes globaleiddio

Dydd Llun 2 Chwefror 2009

Mae Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn arwain astudiaeth traws-Ewropeaidd gwerth 1.5m ewro i effeithiau globaleiddio ar gymunedau gwledig.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Professor Michael Woods
Professor Michael Woods



Tanwydd gwyrdd

Dydd Mawrth 27 Ionawr 2009

Rhan flaenllaw i wyddonwyr o IBERS mewn menter gwerth £27m i ddatblygu tanwydd glan, gwyrdd a chynaliadwy.

Rhagor o wybodaeth...

Ffotograff o Dr Iain Donnison gyda Miscanthus yn y cefndir
Dr Iain Donnison gyda Miscanthus yn y cefndir