Newyddion Ymchwil - 2009
Partneriaeth Aberystwyth/Bangor yn llwyddo tu hwnt i’r targed
Mercher 9 Rhagfyr 2009
Parneriaeth Ymchwil a Menter Aber-Bangor yn cyrraedd ei tharged ar gyfer incwm ymchwil ddwy flynedd yn gynharach na'r disgwyl.
Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a'r Athro Merfyn Jones, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor ar adeg arwyddo cytundeb y bartneriaeth yn 2006.
Menter newid hinsawdd newydd
Dydd Gwener 27 Tachwedd 2009
Aberystwyth i gydlynu Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru (C3W), canolfan ragoriaeth £4 miliwn a gyhoedwyd ddydd Gwener 27 Tachwedd.

Plant, teledu a'r we
Dydd Iau 26 Tachwedd 2009
Y ffordd y mae plant rhwng saith ac unarddeg oed yn defnyddio technoleg yn ganolbwynt i astudiaeth ymchwil ar y cyd rhwng Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu a chwmni cynhrychu rhaglenni i blant,Boomerang+.
Chwith i’r Dde: Angharad Garlick a Dafydd Felix Roberts o Boomerang+, Idris Price o Knowledge Transfer Partnerships a Dr Merris Griffiths o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth.
Chwilio am fiodanwydd gwyrddach
Dydd Mercher 25 Tachwedd 2009
Prosiect arloesol yn dod â gwyddonwyr, ffermwyr, a gwneuthurwyr a dosbarthwyr tanwydd at ei gilydd i greu biodanwydd gwyrddach.
Dr Joe Gallagher
Gwobr Addysg Uwch y Frenhines
Dydd Mercher 18 Tachwedd 2009
Dyfarnwyd Gwobr Addysg Uwch ac Addysg Bellach y Frenhines i Brifysgol Aberystwyth.
IBERS Gogerddan
Gallai Aberystwyth arwain y byd
Dydd Mawrth 27 Hydref 2009
Mae un o fywydegwyr enwoca’r byd yn dweud bod datblygiadau newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ei gosod mewn lle delfrydol i arwain y byd ar faterion amgylcheddol.
Yr athro Steve Jones
Gwobr sustemau niwlog
Dydd Llun 28 Medi 2009
Sefydliad y Peirianwyr Trydanol ac Electronaidd yn gwobrwyo papur sydd yn cyflwyno damcaniaeth arloesol newydd ar resymu rhyngbegynol niwlog (fuzzy interpolative reasoning).
Yr Athro Qiang Shen
Cytuno ar gôd bar DNA planhigiol
Dydd Llun 27 Gorffennaf 2009
Mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr, gan gynnwys ymchwilwyr yn Aberystwyth, wedi cwblhau ymdrech pedair-blynedd i gytuno ar ‘gôd bar DNA planhigol’ safonol.
Dr Caroline Ford a'r Athro Mike Wilkinson
Hwb o £25m i ganolfan
Dydd Mercher 22 Gorffennaf 2009
Fe fydd gwyddonwyr yng Nghymru yn buddsoddi £25 miliwn mewn canolfan sy'n ymchwilio i effeithiau newid hinsawdd.
Dywedodd Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth y byddai'r arian yn codi safonau.
Rhagor o wybodaeth: Gwefan BBC
IBERS, Gogerddan
Cyfraniad Economaidd IBERS
Dydd Llun 20 Gorffennaf 2009
Mae canolfan ymchwil fwyaf newydd Cymru, y Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol ac Amaethyddol (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cyfrannu miliynau i economi Cymru a Phrydain ac werth biliynau o bunnoedd i ffermwyr ac i’r amgylchedd.
IBERS, Gogerddan
Blodau menyn yn datgelu oedran dôl
Dydd Mawrth 23 Mehefin 2009
Mae nifer y petalau ar flodau menyn yn adlewyrchiad o oedran cae neu ddôl yn yr un modd ag y mae rhychau ar wyneb person yn ôl astudiaeth gan Dr John Warren o IBERS.
Dr John Warren
Lansio IBERS yn Ewrop
Dydd Llun 22 Mehefin 2009
IBERS yn cyflwyno ei gweledigaeth ar gyfer mynd i’r afael â rhai o'r heriau dyrys sydd yn wynebu dynoliaeth yn ei lansiad Ewropeaidd ym Mrwsel.
IBERS Gogerddan
Tirweddau Byw
Dydd Mercher 17 Mehefin 2009
Bydd y gynhadledd ryngwladol 'Living Landscapes', sydd yn cael ei chynnal yr wythnos hon (18-21 Mehefin) gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, yn trafod y berthynas amrywiol rhwng tirwedd, yr amgylchedd a pherfformio.
Living Landscapes
Gwahanwyd gan gân
Dydd Mercher 3 Mehefin 2009
Mae titwod mawrion mewn trefi’n ymateb yn gryfach i ganeuon eu cyd-drigolion trefol nag ydynt i’w cefndryd o’r wlad ac mae agwedd titwod mawrion o’r wlad yr un mor wahaniaethol yn ol ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi yn Nhrafodion y Gymdeithas Frenhinol.
Titw mawr: Llun gan Maria Gill
Genom rhygwellt
Dydd Iau, 14 Mai 2009
Dyfarnwyd £1.6m i’r Grŵp Geneteg Cnydau, Genomeg a Bridio yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig i ddatblygu map ffisegol o genom rhygwellt parhaol.
Dr Ian Armstead
Hybu Ymddiriedaeth mewn Byd Niwclear
Dydd Iau, 14 Mai 2009
Dyfarnwyd £538,000 i’r Athro Nicholas Wheeler o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol i gynnal astudiaeth i’r cysyniad o hybu ymddiriedaeth yng nghyd-destun gwladwriaethau sydd ag arfau niwclear a’r rhai sy’n ymarfogi’n niwclear.
Yr Athro Nicholas Wheeler
Gornesta Geiriadurol?
Dydd Mawrth, 28 Ebrill 2009
Y Geiriadur Eingl Normaneg yn Aberystwyth a’r Dictionnaire de l’ancien français ym Mhrifysgol Heidelberg i gydweithio ar astudiaeth o destun Eingl Normaneg ynglŷn â’r Groesgad Gyntaf.
Professor David Trotter
Astudio silff iâ
Dydd Mercher 8 Ebrill 2009
Yn ddiweddar treuliodd Dr Bryn Hubbard o Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear fis ar silff iâ yn nwyrain yr Antarctig lle bu'n astudio rhew môr.
Dr Bryn Hubbard gyda colofn iâ
Y darganfyddiad gwyddonol cyntaf gan robot
Dydd Iau 2 Ebrill 2009
'Adam', gwyddonydd robotaidd sydd wedi ei ddatblygu yn yr Adran Gyfrifiadureg, yw'r peiriant cyntaf o'i fath i ddarganfod gwybodaeth wyddonol newydd.
Yr Athro Ross King ag Adam yn y cefndir
Seliau hanesyddol
Dydd Mercher 18 Mawrth 2009
Mae'r hanesydd, yr Athro Phillipp Schofield yn arwain astudiaeth gerth £490,000 i seliau seliau Cymreig.
Un o'r seliau sydd yn y LLyfrgell Genedlaethol ac sydd yn dyddio o 1199.
Manteision amgylcheddol ffermydd mewn ardaloedd llai ffafriol
Dydd Mercher 4 Mawrth, 2009
Dyfarnwyd €226,000 i IBERS fel rhan o gynllun Ewropeaidd gwerth €3m i fesur y manteision amgylcheddol sydd yn deillio o ffermydd mewn ardaloedd llai ffafriol.
Dr Peter Dennis
Rhestr fer gwobr lenyddol
Dydd Llun 2 Mawrth 2009
Cyhoeddwyd fod Dr Sarah Prescott, uwch-ddarlithydd yn yr Adran Saesneg, wedi ei chynnwys ar rhestr fer am un o brif wobrau llenyddol Cymru, rhestr sydd yn cynnwys menywod yn unig.
Dr Sarah Prescott
Cyfarwyddwr newydd
Dydd Gwener 27 Chwefror 2009
Penodwyd Dr Catrin Fflur Huws i swydd Cyfarwyddwr Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig. Mae Dr Huws yn olynu Ann Sherlock a fu yn rhan mor allweddol o sefydlu’r ganolfan arloesol hon, yr unig un o’i bath.
Dr Catrin Fflur Huws
Ymchwil arlein
Dydd Gwener 20 Chwefror 2009
Lansiwyd y Rhwydwaith Cadwrfeydd Cymreig, gwasanaeth ar-lein lle y cyhoeddir gwaith ymchwil holl Brifysgolion Cymru.
Dr Andrew Prescott (PC Llanbedr Pont Steffan) gyda Dr Mike Hopkins a Stuart Lewis o Brifysgol Aberystwyth
Ardaloedd gweldig yn oes globaleiddio
Dydd Llun 2 Chwefror 2009
Mae Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn arwain astudiaeth traws-Ewropeaidd gwerth 1.5m ewro i effeithiau globaleiddio ar gymunedau gwledig.
Rhagor o wybodaeth...
Professor Michael Woods
Tanwydd gwyrdd
Dydd Mawrth 27 Ionawr 2009
Rhan flaenllaw i wyddonwyr o IBERS mewn menter gwerth £27m i ddatblygu tanwydd glan, gwyrdd a chynaliadwy.
Dr Iain Donnison gyda Miscanthus yn y cefndir
The Cambrian Muses
Newyddion gan Adran y Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Dr Sarah Prescott
Cymdeithas Ryngwladol i’r Cyfryngau a Hanes (IAMHIST) Cynhadledd 2009
Newyddion gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru
a’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Mae Canolfan Hanes y Cyfryngau yn falch o groesawu cynhadledd ddwyflynyddol rhif XXIII y Gymdeithas Ryngwladol i’r Cyfryngau a Hanes. Cynhelir y Gynhadledd, ar y thema Ofnau Cymdeithasol a Braw Moesegol ym Mhrifysgol Aberystwyth o ddydd Mercher 8fed hyd ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf 2009.

Un o’r Prif Gyfnodolion yn Canmol Cyn Fyfyriwr
Newyddion gan Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Mae prawf ymarfer corff a ddatblygwyd yn yr Adran Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi’i ddefnyddio mewn gwaith ymchwil a gydnabuwyd gan un o’r prif gyfnodolion seicoleg sef, Experimental Physiology. Cafodd y “prawf pob-ymdrech 3 munud” ei ddatblygu a’i ddilysu gan y Dr Anni Vanhatalo, y Dr Mark Burnley a’r Athro Jo Doust fel rhan o Ddoethuriaeth Anni a gyflwynwyd yn llwyddiannus yn 2007.
Dr Anni Vanhatalo