Newyddion Ymchwil - 2010
Astudiaeth methan
20 Rhagfyr 2010
Astudiaeth £3.9m IBERS i wella dealltwriaeth o nwy methan sy’n cael ei greu gan amaeth ac ymdrechion y diwydiant i’w reoli.

Llundain 2012
16 Rhagfyr 2010
Tîm arobryn o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu i gynhyrchu Colriolan/us ar gyfer Olympiad Diwylliannol 2012.

Lansio llyfr newydd
01 Rhagfyr 2010
Newydd ymddangos o’r wasg y mae’r diweddaraf o gyhoeddiadau’r Adran Gymraeg: Diflanedig Fyd: Gohebiaeth Carneddog a Gwallter Llyfni, 1926-1932.

Sicrwydd porthiant
29 Tachwedd 2010
IBERS yn dangos i ffermwyr Cymru sut i ddelio â’r cynnydd mewn prisiau.

Hanes y melinydd
26 Tachwedd 2010
IBERS yn tyfu gwenith organig lleol ar gyfer melin ddŵr ddiweddara’ Cymru.

Gwell ffermio, gwell amgylchedd
26 Tachwedd 2010
Gwaith ymchwil diweddaraf IBERS yn helpu ffermwyr i helpu’r ddaear, a nhw eu hunain.

Torri tir newydd
23 Tachwedd 2010
Gwaith yn decrhau ar adeilad gwerth £7m yn IBERS Gogerddan.

Dylunio Bloodhound SSC
22 Tachwedd 2010
Darlith Gyhoeddus: Yr Athro Kenneth Morgan yn trafod yr ymchwil tu ôl i’r ymgais i sefydlu Record Cyflymder ar Dir newydd yn 2012.

Gwella'r arfordir
09 Tachwedd 2010
Cafodd menter a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth gwerth £3.7 miliwn i wneud yn fawr o'r hyn sydd gan yr arfordir ar ddwy ochr Môr Iwerddon i'w gynnig ei lansio ar y 5ed o Dachwedd.

Natur drwy lygad lloeren
02 Tachwedd 2010
Mae technoleg ofodol flaenllaw yn cael ei defnyddio i ddiweddaru mapiau o gynefinoedd bywyd gwyllt Cymru.

Dechrau adeiladu
05 Hydref 2010
Dechrau ar y gwaith o adeiladu adnoddau dysgu ac ymchwil newydd ar gyfer IBERS.

Llun artis o'r adeilad newydd ar Benglais.
ProSafeBeef
04 Hydref 2010

Gwydr lliw canoloesol yn ysbrydoli
29 Medi 2010
Mae’r gwydr lliw godidog sy’n addurno eglwysi cadeiriol canoloesol wedi ysbrydoli tîm o wyddonwyr y gofod sy’n ceisio darlunio lliwiau gwirioneddol y blaned Mawrth.

Yr Athro Dave Barnes (chwith) a Dr Stephen Pugh yn ystod profion maes ar draeth Clarach.
LOFAR – hwb i ymchwil solar
27 Medi 2010
Bydd y telesgop radio mawr cyntaf i’w adeiladu ym Mhrydain ers degawdau yn rhoi’r olygfa orau eto o atmosffer allanol yr Haul yn ôl gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth.

LOFAR
Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth
21 Medi 2010
Mae'r Athro John Harries, Prif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn treulio diwrnod yn y Brifysgol heddiw, ddydd Mawrth 21ain o Fedi.

Cof a’r Cyfryngau yng Nghymru 1950-2000
Dydd Mawrth 3 Awst 2010
Lansio astudiaeth newydd i ddylanwad teledu ar fywyd teuluol yng Nghymru yn ystod ail hanner yr 20ed ganrif.

Dr Iwan Morus
Pennaeth Newydd i’r Gyfraith a Throseddeg
Dydd Mercher 28 Gorffennaf 2010
Penodwyd yr Athro Noel Cox yn Bennaeth newydd ar Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Daw’r Athro Cox i’r Brifysgol o Brifysgol Technoleg Auckland lle y bu’n Athro’r Gyfraith ac yn Bennaeth ar Adran y Gyfraith.

Yr Athro Noel Cox
Lansiad ymchwil i ddiogelwch cig
Dydd Llun 19 Gorffennaf 2010
Heddiw, ddydd Llun 19eg o Orffennaf lansiodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig Elin Jones AC y prosiect ymchwil Gwella Diogelwch Bwyd a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau diogelwch cig.

Dr Michael Lee
Cadair newydd Amaethyddiaeth Gynaliadwy
19 Gorffennaf 2010
Cafwyd hwb i ymchwil i broblemau diogelwch bwyd yn fyd eang diolch i bartneriaeth newydd rhwng Waitrose a Phrifysgol Aberystwyth.

Yr Athro Gareth Edwards-Jones
Gwyddonwyr yn croesawu rhwydwaith uwch-gyfrifiadureg
12 Gorffennaf 2010
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi croesawu sefydlu Cyfrifiadureg Perfformiad Uchel Cymru (HPC Cymru), cynllun uchelgeisiol £40m i ddatblygu rhwydwaith uwch-gyfrifiadureg yng Nghymru.

Yr Athro Richard Lucas
Wythnos ymwybyddiaeth peryglon cwympo
Dydd Iau 24 Mehefin 2010
Mae Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Peryglon Cwympo (21- 25ain Mehefin) yn nodi dechrau prosiect ymchwil rhwng Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Age Concern Ceredigion ac Adran Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Yn y llun (chwith i'r dde) Samantha Winter, Sian Williams (sydd yn cymryd rhan yn yr astudiaeth), Annmarie Butlin (Cyd-Gyfarwyddwr Age Concern Ceredigion), David Langford (Swyddog Ymarfer Proffesiynol Cofrestredig yn Ward Dydd Leri), a Fiona Higgs (myfyriwr doethuriaeth sydd yn gwneud yr ymchwil).
Grant Heidelberg-Aberystwyth
Newyddion gan yr Adran Ieithoedd Ewropeaidd
Mae’r Athro David Trotter wedi cael £66,353 fel rhan o grant a roddwyd ar y cyd i Heidelberg ac Aberystwyth gan Deutsche Forschungsgemeinschaft (DFG) a’r AHRC.
Professor David Trotter
Cymrodoriaeth yn Princeton
Newyddion gan Adran y Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Professor Sarah Hutton
Ymchwil i ffrwydradau’r haul
Dydd Iau 22 Ebrill 2010
Tim rhyngwladol o dan arweinyddiaeth Prifysgol Aberystwyth yn llunio'r darlun mwyaf cyflawn o effeithiau llawn ffrwydrad solar mawr.

Yr haul
Astudiaeth £4.9m newydd ar geirch
Mawrth 20 Ebrill 2010
Mae IBERS yn arwain astudiaeth newydd o bwys i ddatblygu gwell amrywiadau o geirch a ddaw â buddion economaidd ac amgylcheddol sylweddol.

Dr Athole Marshall
Rhagor o lwyddiant gyda chnydau i wyddonwyr
Dydd Iau 18 Mawrth 2010
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth unwaith eto’n arwain y ffordd wrth ddatblygu mathau newydd o un o gnydau pwysicaf gwledydd Prydain. Ac, wrth wneud, maen nhw wedi curo’r Tardis!
Dr Athole Marshall gyda'i geirch gaeaf
Y Brifysgol yn rhan o ymgyrch ymchwil rhyngwladol £1m
Dydd Mercher 17 Mawrth 2010
Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o ymgyrch ymchwil rhyngwladol gwerth £1 miliwn i geisio goresgyn llyngyr yr iau - parasit sy’n achosi clefyd i anifeiliaid, a biliynau mewn colledion ariannol i amaethwyr ar draws y byd.
Peter Brophy a Neil Mackintosh, IBERS
Tu hwnt i'r wyneb
Mawrth 16 Mawrth 2010
Partneriaeth arloesol newydd rhwng ymchwilwyr o'r Adran Gyfrifiadureg a'r Coleg Celf Brenhinol i arsylwi ar deimladau ac emosiynau.
Yr Athro Reyer Zwiggelaar
Academydd yn Arddangos Ymchwil Gofod a Roboteg yn San Steffan
Dydd Mercher 3 Mawrth 2010
Gwaith ymchwil gan academydd o Aberystwyth ar robot fydd yn tynnu lluniau ar blaned Mawrth yn cael ei gyflwyno ym Mhalas Westminster ar yr 8 Mawrth 2010.
Stephen Pugh, Adran Gyfrifiadureg
Datganiad Dydd Gŵyl Dewi
Dydd Llun 1 Mawrth, 2010
Prifysgolion amlycaf Cymru yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi trwy adnewyddu eu hymrwymiad ar y cyd i ysgogi economi wybodaeth Cymru.
Yr Hen Goleg
Gwyddonwyr IBERS yn mynd i'r afael â diogelwch cig
Mawrth 2010
Mae gwyddonwyr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol , Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth ar fin chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o sicrhau diogelwch cig. Mae'r Adran wedi ennill cytundeb pwysig i ymchwilio i ddulliau o ganfod achosion o halogi cig a hynny mewn ymgais i atal heintiau difrifol fel E.coli rhag lledu.
Gwartheg yn pori
Cyflwyno Gwobr Addysg Uwch y Frenhines i Brifysgol Aberystwyth
Dydd Llun 22 Chwefror 2010
Bu aelodau o staff a myfyrwyr ym Mhalas Buckingham ddydd Gwener 19eg Chwefror, i dderbyn Gwobr Addysg Uwch ac Addysg Bellach y Frenhines i Brifysgol Aberystwyth. Cyflwynwyd medal a thystysgrif gan y Frenhines a Dug Caeredin i’r Athro Noel Lloyd, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth ac i’r Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS.
Yr Athro Noel Lloyd a'r Athro Wayne Powell yn derbyn y wobr oddi wrth y Frenhines a Dug Caeredin. Llun drwy law BCA Ltd
Hawliau Rhieni ym Maes Addysg Plant
Dydd Mawrth 2 Chwefror 2010
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i dewis i gynrychioli’r Deyrnas Gyfunol mewn prosiect ymchwil Ewropeaidd ar hawliau rhieni ym maes addysg plant.
Dr Marco Odello (ar y dde) a Jill St George
Time yn cydnabod darganfyddiad robot
Dydd Mawrth 5 Ionawr 2010
Time Magazine yn cydnabod darganfyddiad gan robot o Aber fel un o'r pump darganfyddiad gwyddonol mwyaf arwyddocaol yn 2009.
Yr Athro Ross King ag Adam yn y cefndir
Ysgoloriaeth Ymchwil Uwchraddedig
Dydd Gwener 22 Ionawr 2010
Mae Aberystwyth yn galw ar i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn astudio ar gyfer doethuriaeth gyflwyno’u ffurflenni cais mor fuan â phosib er mwyn cael eu hystyried ar gyfer ysgoloriaeth sy’n werth dros £50,000 dros gyfnod o dair blynedd.
Simon Payne a dderbyniodd ysgoloriaeth APRS ar gyfer ei waith yn yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.
Grant gan yr EPSRC mewn Rheolaeth Gwantwm
Newyddion gan Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol
Mae’r Dr Rolf Gohm a’r Athro John Gough o’r Grŵp Ymchwil Rheolaeth Gwantwm wedi cael tua £250,000 o grant gan yr EPSRC am brosiect a gynhelir dros dair blynedd o’r enw 'Quantum Control: Approach based on Scattering Theory for Non-commutative Markov Chains and Multivariate Operator Theory'.
Image: Feedback using a beam-splitter
Grant gwerth £165k gan yr AHRC grant am ymchwil i gelfyddyd berfformiadol yng Nghymru
Newyddion gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Cafodd y Dr Heike Roms grant ymchwil, sef £165,779, yn ddiweddar gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) i gynnal prosiect ymchwil am ddwy flynedd o’r enw “'It was forty years ago today…': Lleoli Hanes Cynnar Celfyddyd Berfformiadol yng Nghymru 1965-1979”.
Dr Heike Roms
O erddi’r Plas i helpu’r byd
Dydd Mercher 16 Mehefin 2010
Mae gan ffermwyr Cymru, teuluoedd yn India a Ghana, a phawb sy’n hoffi cig ffres le i ddiolch am waith sy’n digwydd ar dir plasty mawreddog yng nghefn gwlad Ceredigion.

Dr Athole Marshall sydd wedi bod yn gweithio ar fathau newydd o geirch.